NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i ymdrin â phobl o bob oed a chefndir.
Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg.
Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu’n effeithiol gan ddelio yn sensitif gyda materion cyfrinachol.
Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc sy’n berthnasol i anghenion y swydd
DYMUNOL
Aelod o gymdeithas neu gorff proffesiynol perthnasol
Cymhwyster penodol mewn trin data (e.e. o fewn taenlenni, bas data a.y.b)
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio mewn tim
Profiad o ddefnyddio prif cyfryngau cymdeithasol (X, Facebook, Instagram, LinkedIn)
Profiad o ddefnyddio pecynnau dylunio graffeg
Profiad o gyfathrebu gyda grwpiau eang o bobl
Profiad o ddefnydd o brif raglenni Microsoft Office
DYMUNOL
Profiad o ymgysylltu hefo busnesau
Profiad o drefnu digwyddiadau
Profiad o weithredu ar raglenni marchnata ac ymgysylltu
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu da – yn llafar ac ysgrifenedig.
Sgiliau mathemategol ac ieithyddol da.
DYMUNOL
Gwybodaeth am economi Gwynedd.
Dealltwriaeth am y maes busnes.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)