Swyddi ar lein
Dirprwy Reolwr Meithrinfa Plas Pawb
£26,421 - £28,770 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27144
- Teitl swydd:
- Dirprwy Reolwr Meithrinfa Plas Pawb
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Uned Blynyddoedd Cynnar
- Dyddiad cau:
- 29/04/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £26,421 - £28,770 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S1
- Lleoliad(au):
- Plas Pawb, Maesincla, Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Plas Pawb ar 01286 678824 neu drwy e-bost :meithrinfaplaspawb@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 29/04/2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Gallu gweithio fel aelod o dîm ac ar ei ben/phen ei hun
• Hyderus, brwdfrydig ac yn dangos menter
• Personoliaeth ddiplomyddol a chroesawgar.
• Personoliaeth bywiog, ddigynnwrf a hyblyg
• Gallu i gydweithio ag amrywiaeth ac ystod eang o bobl
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Cymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol fel
• Diploma neu Radd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar
• Diploma neu CGC Lefel 4 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
• Diploma NNEB/CACHE
• Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar (Cyfrwng Cymraeg)
• Diploma Lefel 3 neu Lefel 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
• CGC Lefel 3 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar/Gofal Dysgu a Datblygiad Plant
• Cymhwyster perthnasol arall.
Gweler gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru am restr o’r cymwysterau gofynnol i weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru
• Parodrwydd i weithio tuag lefel 5.
• Trwydded yrru gyfredol lawn
DYMUNOL
Cymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar lefel 4/5 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol
Cymhwyster Integredig Skills Active ar gyfer Gwaith Chwarae -Lefel 3
Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol
Amddifyn Plant
Codi a Thrin
Tystysgrif Cymorth Cyntaf
Elklan
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ddarparu addysg, chwarae a gofal blynyddoedd cynnar o ansawdd.
DYMUNOL
Profiad o ddarparu cymorth i blant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol ym maes darparu gofal plant i blant oed ysgol.
• Gallu cyfathrebu’n effeithiol gydag ystod eang o unigolion a mudiadau.
• Dealltwriaeth o’r mathau o ffactorau sy’n effeithio ar fywydau plant a’u teuluoedd
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu a datblygu
• Gwybodaeth gynhwysfawr am y Cyfnod Sylfaen, Dechrau’n Deg, Chwarae a’r Cwricwlwm i Gymru
• Gwybodaeth a dealltwriaeth â dulliau cynllunio, asesu a chofnodi cynnydd
• Gwybodaeth drylwyr am yr arfer orau wrth ofalu am blant hyd at 11 oed
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
• Sgiliau cyfrifiadurol da
• Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol ym maes darparu gofal dydd a chwarae i blant oed ysgol
• Gallu cyfathrebu’n effeithiol gydag ystod eang o unigolion a mudiadau
• Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gyfle cyfartal
• Dealltwriaeth o chwarae a datblygiad plant a’r gallu i fodloni anghenion plant unigol gan ddangos ystod eang o sgiliau gwaith chwarae ymarferol
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo Rheolwr y Feithrinfa a’i staff i drosglwyddo safon uchel o ofal ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu meithrinfa Plas Pawb, gan sicrhau bod eu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol yn cael eu cwrdd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Gofalu am blant, babanod a phlant bach
• Arweinyddion
• Cymhorthyddion
• Prentis
Prif Ddyletswyddau.• Cynllunio a gweithredu rhaglenni gweithgaredd priodol ar gyfer y plant mewn cydweithrediad â Rheolwr y Feithrinfa a staff eraill, yn cynnwys myfyrwyr a prentisiaethau. Bydd holl raglenni gweithgaredd yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.
• Gweithredu fel dirprwy i’r Rheolwraig a chynorthwyo gyda dyletswyddau rheoli a gweithdrefnau’r feithrinfa fel bod y gwasanaeth yn rhedeg yn effeithiol.
• Mentora ac arwain staff i gynnig y safon gorau o wasanaeth
• Trosglwyddo safon uchel o ofal, gan sicrhau bod anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol y plant yn cael eu bodloni.
• Meddu ar ddealltwriaeth lawn a gweithredu system y Feithrinfa o gadw cofnodion a rheoli arsylwi a chofnodi datblygiad plant unigol gan ddefnyddio’r system gweithiwr allweddol o fewn ystafell gofal plant dynodedig.
• Cynllunio ochr yn ochr â’r rheolwr a gweithio ochr yn ochr â’r staff i sicrhau darpariaeth o ystod o offer, gweithgareddau ac arddangosfeydd sy’n ysgogi, dan do ac yn yr awyr agored, sy’n berthnasol i oedrannau ac anghenion y plant.
• Cyfrifoldeb dros sicrhau bod yr Arweinyddion yn gweithredu yn unol ar raglen waith.
• Sicrhau bod y mannau chwarae, boed dan do neu yn yr awyr agored, yn amgylcheddau diogel, hapus a gofalgar sy’n cymell y plant i chwarae’n rhydd.
• Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n cwrdd ag anghenion pob plentyn sy’n mynychu’r feithrinfa, gan sicrhau rhoddir sylw dyledus i genedligrwydd, diwylliant, hîl, crefydd, iaith ac anabledd.
• Cyfrifoldeb dros weithdrefnau Anghenion Dysgu Ychwanegol holl blant y feithrinfa gan asesu, darparu adroddiadau a chynllunio i ymateb i anghenion y plant a chyfeirio fel sydd angen i asiantaethau eraill. Mynychu paneli a chyfarfodydd perthnasol lle trafodir y plant.
Defnyddio sgiliau, hyfforddiant a phrofiad arbenigol i gefnogi plant fel egwyddorion ELKLAN a mentora staff i weithredu hefyd
• Cydweithio gyda’r Athrawes Ymgynghorol Blynyddoedd Cynnar ac asiantaethau perthnasol eraill i sicrhau gofal o ansawdd.
• Cadw mewn cyswllt â rhieni/gofalwyr ac annog eu bod a wnelo â lleoliad eu plentyn yn y feithrinfa a’u datblygiad.
• Parchu a dilyn rhigolau ar gyfer babanod a phlant bach sy’n mynychu’r feithrinfa fel y amlinellir gan eu rhieni/gofalwyr.
• Cynorthwyo gyda’r gwasanaeth codi plant sy’n cael ei ddarparu gan yr ysgol
• Sicrhau darpariaeth o ymborth cytbwys iach ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu’r feithrinfa, yn cynnwys paratoi bwyd, cynorthwyo gyda bwydo’r plant, sicrhau bod amseroedd prydau yn achlysuron cymdeithasol, a chlirio ar ôl amseroedd prydau.
• Dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau fel a nodir gan Cyngor Gwynedd a Meithrinfa Plas Pawb.
• Bod yn gyfarwydd â a dilyn Safonau Cenedlaethol fan leiaf a ddisgwylir ar gyfer gofal diwrnod llawn fel a amlinellir o fewn canllawiau cofrestru Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal Cymru (AGC)
• Cyfrifoldeb am warchod a hyrwyddo lles pob plentyn yn y feithrinfa, yn unol â gofynion Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru’n Un.
• Dal i sicrhau gwybodaeth weithiol o egwyddorion ac amcanion y prosiect Dechrau’n Deg a mynychu paneli neu is-grwpiau aml-asiantaethol fel bo angen.
• Meithrin perthnasoedd gweithio da gyda a meddu ar ddealltwriaeth o asiantaethau allanol a rhai mewn meysydd proffesiynol eraill sydd yn ymwneud â datblygiad a gofal dros blant unigol. Adrodd fel bo angen i asiantaethau perthnasol.
• Cyfrifoldeb dros ddatblygiad personol parhaus, trwy fynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch deddfwriaeth a rheolau sy’n berthnasol i’r swydd.
• Mynychu cyfarfodydd wythnosol o’r tîm, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd misol ac arfarniadau blynyddol un i un gyda Rheolwr y Feithrinfa.
• Rheoli rheolaeth domestig dyddiol yr ystafell ddynodedig o fewn y feithrinfa, yn cynnwys sicrhau y cedwir yr adeilad yn saff, yn ddiogel ac yn lân trwy’r amser.
• Cynorthwyo gyda chofnodion y feithrinfa e.e cofrestrau, gwiriadau dyddiol a.y.b
• Sicrhau y cyflawnir y tasgau gofal plant penodol hyd at y safonau disgwyliedig, yn cynnwys helpu plant gyda bwydo, newid dillad, a toiledu, yn cynnwys newid cnewynnau; cynnal safonau uchel o hylendid trwy’r amser; cysuro a rhoi cynhesrwydd i blentyn sy’n wael; ac adrodd ynghylch unrhyw arwyddion o salwch neu anaf, neu bryderon bod cam-drin.
• Cyflawni unrhyw ddyletswydd arall y gellid yn rhesymol ddisgwyl ei gyflawni sy’n cyfateb i lefel cyflog a chyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.• Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos ond gofyn gweithio ar rota hyblyg rhwng 8 y.b. a 6.y.h. Bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i’w gilydd.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.