Swyddi ar lein
Swyddog Coedyddiaeth
£34,834 - £36,648 y flwyddyn | Dros dro (secondiad)
- Cyfeirnod personel:
- 24-27137
- Teitl swydd:
- Swyddog Coedyddiaeth
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 16/05/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro (secondiad) deunaw mis | 37 Awr
- Cyflog:
- £34,834 - £36,648 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Swyddog Coedyddiaeth
Swydd 18 mis, posibilrwydd o ddod yn barhaol.
CYFLOG: S4 (26-28) (£34,834 - £36,648)
LLEOLIAD - un o’r swyddfeydd canlynol
Bangor/Conwy/Halkyn/Dolgellau
Bod yn gyfrifol am reoli'r coed, coedwigoedd a'r gwrychoedd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn rhanbarthau Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Ymgymryd yn uniongyrchol ag arolygon diogelwch coed ac archwiliadau cyflwr coed ar hyd llwybrau cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swyddi uchod, cysylltwch â Owen Jones ar 07824104235.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Dyddiad Cau: 16.05.2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithio dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i'w gymell ei hun
Gallu arwain tîm.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster yn ymwneud â choedyddiaeth sy'n gyfwerth â chymhwyster Lefel 4, yn ogystal â phrofiad perthnasol neu,
Cymhwyster yn ymwneud â choedyddiaeth sy'n gyfwerth â chymhwyster Lefel 3 ar y lleiaf, cymhwyster gyda phrofiad perthnasol helaeth
Dymunol
Aelodaeth broffesiynol o gorff proffesiynol addas megis Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig neu'r Gymdeithas Goedwigaeth.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Tystysgrif Archwiliwr Coed Proffesiynol LANTRA
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad coedyddiaeth ymarferol, gydag o leiaf tair blynedd o brofiad gwaith ar ôl cymhwyso.
Profiad o weithio gyda Chontractwyr
Dymunol
Profiad o reoli staff / tîm
Profiad o reoli prosiect a rheoli cyllid.
Profiad o archwilio coed ar Briffyrdd
Profiad o weithio ag ystâd feddal o fewn cyd-destun priffyrdd.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon.
Sgiliau rhyngbersonol cadarn ynghyd â sgiliau ysgrifennu, cyfathrebu a chyflwyno da.
Gallu addasu i ystod eang o faterion gweithredol.
Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o amryfal ffynonellau.
Gallu cydlynu’n effeithiol a rheoli cyflawni rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth.
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â rheolaeth amgylcheddol.
Dealltwriaeth benodol o feddalwedd TG a ddefnyddir i reoli cynnal a chadw coed, e.e. Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ac offer cronfa ddata.
Trwydded yrru ddilys gyfredol
Dymunol
Sgiliau rheoli cyllideb
Gwybodaeth am Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth rheoli traffig ac arfer gorau.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Bod yn gyfrifol am reoli'r coed, coedwigoedd a'r gwrychoedd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn rhanbarthau Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
•Ymgymryd yn uniongyrchol ag arolygon diogelwch coed ac archwiliadau cyflwr coed ar hyd llwybrau cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.
•Cydlynu a rheoli rhaglenni gwaith ar gyfer cynnal a chadw coed, coedwigoedd, gwrychoedd ac ystâd feddal gysylltiedig a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth.
•Cynorthwyo Cydlynydd Amgylcheddol ac Ecolegydd ACGCC i reoli ystâd feddal cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a, ble bo angen, gwneud arolygon neu archwiliadau o isadeiledd ystâd feddal.
•Cynorthwyo a rhoi cyngor neu hyfforddiant cyffredinol ar goedyddiaeth a rheolaeth ystâd feddwl i staff ACGCC.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cynllunio, dyrannu a chomisiynu cyllidebau
•Trefnu a blaenoriaethu amserlenni gwaith i gwrdd â thargedau a dyddiadau cwblhau
•Gweithgareddau Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru wedi'u cynllunio a rhai adweithiol a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth
•Rheoli Contractwyr (20+)
•Offer archwilio (sbienddrych, dyfais mesur pellter, dyfais tynnu llun digidol)
•Mynediad i gerbyd
Prif ddyletswyddau
Arolygon ac Archwiliadau
a) Arolygon diogelwch coed
•Ymgymryd ag archwiliadau coed a gwrychoedd systematig ar hyd y Rhwydwaith Cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlCChCLlC). Mae hyn yn cynnwys bob coeden o fewn pellter disgyn o’r briffordd neu sy’n achosi rhwystr i welededd neu oleuadau, y rhai sy'n tyfu yn ystâd feddal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlC) yn ogystal â choed trydydd parti mewn perchnogaeth breifat. Mae hefyd yn cynnwys coed sy'n tyfu yn yr ystâd feddal sydd o fewn pellter disgyn i eiddo trydydd parti.
•Bydd angen casglu cofnodion arolygon yn y maes gan ddefnyddio dyfeisiau llaw sy’n tynnu lluniau digidol sydd â GPS ynddynt. Cesglir rhestr eiddo coed, data'r cyflwr a gweithrediadau rheoli ar gyfer coed a gwrychoedd.
•Rhoddir blaenoriaeth ac asesiad risg i namau, a neilltuir gweithrediadau a argymhellwyd. Ble bo angen, efallai bydd angen arolygon ac archwiliadau pellach ar goed unigol. Mewnbynnu a chynnal a chadw data o fewn systemau rheoli asedau (ENVIS) Llywodraeth Cymru a systemau rheoli coed.
•Mae archwiliadau monitro yn angenrheidiol er mwyn gwirio bod gwaith wedi'i gwblhau ar namau a adnabuwyd ar goed yn yr arolwg. Adborth a chydweithrediad gyda'r Tîm Busnes er mwyn sicrhau y cedwir systemau rheoli coed yn gyfredol.
b) Coedwigoedd
•Ymgymryd ag arolygon ac archwiliadau o'r coedwigoedd a lleiniau wedi'u plannu o fewn yr ystâd feddal ac argymell rheolaeth, gweithrediad a chofnodi.
•Adnabod plâu ac afiechydon yn y coedydd, rhywogaethau anfrodorol a allai fod yn fygythiad i iechyd coed neu fioamrywiaeth.
•Ymgymryd ag arolygon coed ar sail ad-hoc ar gais gan eraill megis Llywodraeth Cymru, staff ACGCC neu gŵyn gan y cyhoedd.
c) Bioamrywiaeth
•Adnabod cyfyngiadau a allai effeithio ar reolaeth coed neu wrychoedd megis rhywogaethau, safleoedd neu ddynodiad a warchodir, Gorchymyn Gwarchod Coed, Ardaloedd Cadwraeth, a threfnu arolygon angenrheidiol neu geisiadau caniatâd.
•Gwneud archwiliad neu fonitro isadeiledd bioamrywiaeth ac asedau ystâd feddal eraill yn ôl gofyn y Cydlynydd Amgylcheddol neu'r Ecolegydd.
Cynnal a chadw
•Dylunio a gweithredu rhaglenni rheoli ar gyfer gwaith ystâd feddal yn unol â chynlluniau rheoli amgylcheddol Llywodraeth Cymru, y Design Manual for Roads and Bridges (DMRB), gofynion deddfwriaeth ac arfer da.
•Trefnu a blaenoriaethu amserlenni gwaith er cyflwyno a rheoli rhaglenni gwaith adfer coed a gwrychoedd.
•Dylunio a gweithredu rhaglenni rheolaeth ar gyfer ardaloedd coedwigoedd a gwrychoedd i gynnwys teneuo, tocio a rheoli afiechydon coed a gwella bioamrywiaeth fel y cytunir gyda'r Cydlynydd Amgylcheddol neu Ecolegydd.
•Trefnu rhaglenni gwaith, ffurfio brîff prosiect a chaffael gwaith mewn cydweithrediad â thimau rheoli llwybrau a staff ACGCC eraill.
•Cyfarfod â chontractwyr arbenigol er mwyn trafod gwaith angenrheidiol ac er mwyn asesu datganiadau dulliau gweithio, asesiadau risg a dogfennaeth eraill a dderbyniwyd ganddynt. Asesu ansawdd y gwaith a ymgymerwyd gan gontractwyr a sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth amgylcheddol ac arferion gweithio da.
•Cynorthwyo gyda gweithredu prosesau coed peryglus a niwsans trydydd parti o dan adran 154 o'r Ddeddf Priffyrdd 1980. Gall hyn gynnwys ymweliadau safle i gyfarfod a thrafod materion yn ymwneud â choed gyda pherchnogion tir trydydd parti.
•Gweithredu ac ymgymryd â rhaglen waith er mwyn cynnal a chadw neu newid asedau isadeiledd bioamrywiaeth ar y cyd â'r Cydlynydd Amgylcheddol neu'r Ecolegydd.
•Cefnogi timoedd Rheoli Llwybrau ACGCC gyda materion rheolaeth amgylcheddol yn ystod achosion brys, gan gynnwys digwyddiadau achlysurol y tu allan i oriau.
•Rhoi cefnogaeth i Ecolegydd a Chynrychiolydd Adran ACGCC o ran materion amgylcheddol ar adran Dyluniad, Adeiladwaith, Cyllid a Gweithrediad (DBFO) yr A55 o Gyffordd 1 i Gyffordd 11, a ffyrdd cysylltiedig.
Gwelliannau Cyfalaf
•Cynorthwyo'r Ecolegydd a'r Cydlyndd Amgylcheddol i adnabod cyfleoedd ar gyfer gwaith lliniaru risgiau a gwelliannau, a chysylltu gwaith amgylcheddol yr un pryd â rhaglenni gwaith rheoli asedau eraill.
•Darparu cefnogaeth a chymorth i'r Uned Cyflawni ac Archwilio a darparwyr gwasanaeth yn nyluniad a gweithrediad prosiectau gwelliannau cyfalaf, gan gynnwys rhaglenni gwaith ar gyfer goleuadau stryd, strwythurau, carthffosiaeth a gwaith geodechnegol, ac i sicrhau bod coed yn cael eu hystyried yn ddigonol ac yn derbyn diogelwch addas i'r gwreiddiau ac ati.
•Cysylltu gyda darparwyr gwasanaeth a goruchwylwyr a'u harolygu yn eu hymgysylltiad i adeiladu gwaith gwelliannau i fioamrywiaeth.
Gofynion Eraill
•Cynorthwyo ACGCC gyda rheoli cyllidebau i ddyraniadau amgylcheddol.
•Rhoi cefnogaeth dechnegol i ACGCC a Llywodraeth Cymru ac ymateb i ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd.
•Cynorthwyo i baratoi adroddiadau i uwch reolwyr yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru.
•Adnabod eich anghenion hyfforddiant eich hun a chymryd rhan yn darparu a derbyn hyfforddiant yn ôl y gofyn.
•Cysylltu ag ACDC, Highways England, UK Highways Ltd, Coed Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a Prif Ddylunwyr a Phrif Gontractwyr (e.e. datblygwyr, perchnogion tir, gwasanaethau a Network Rail) o ran materion cynllunio neu weithredu ar neu wrth y rhwydwaith.
•Rhoi cyngor technegol i Lywodraeth Cymru i'w alluogi i ryddhau ei ddyletswyddau statudol yng nghyswllt materion amgylcheddol ac, yn benodol, prif brosiectau isadeiledd LlC.
Cyffredinol
•Sicrhau bod materion Iechyd a Diogelwch yn derbyn ystyriaeth lawn ac yn cael eu rheoli ym mhob agwedd o waith yr Asiantaeth.
Cynorthwyo ACGCC a Darparwyr Gwasanaethau i sicrhau cydymffurfiaeth â:
•Gweithdrefnau Iechyd a diogelwch ACGCC;
•Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli);
•Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
•Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
•Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
•Cefnogi a chynorthwyo’r Ecolegydd i gyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau.
•Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiantaeth i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
•Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
•Cydlynu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau sy’n Bartneriaid er mwyn hyrwyddo rheoli’r Asiantaeth yn effeithiol.
•Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan staff yr ydych yn eu rheoli.
•Canfod a chadw’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch safonau proffesiynol, gofynion statudol, datblygiadau technegol a rhaglenni cyfrifiadurol.
•Wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod, cysylltu, fel y bo’n briodol, â swyddogion Llywodraeth Cymru, Awdurdodau sy'n Bartneriaiad a chyrff perthnasol eraill.
•Rhestr enghreifftiol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â swyddogaeth yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau eraill perthnasol i natur ac i raddfa’r swydd ar gais gan yr Ecolegydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol i fodloni gofynion y Gwasanaeth;
•Gall rheoli digwyddiadau a sefyllfaoedd argyfwng ddigwydd tu allan i oriau gwaith arferol.
•Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).