Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Darparu cefnogaeth addysgol i ddisgyblion â phroblemau ymddygiadol / emosiynol.
• Darparu cefnogaeth addysg/cyswllt a phlant sydd ddim yn mynychu y darpariaeth prif lif am pa bynnag reswm.
• Cymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu.
• Cynllunio, paratoi a chyflwyno cwricwlwm ehangach ynghyd â chwricwlwm therapiwtig i unigolion neu grwpiau.
• Monitro, asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau yr elfennau yma.
• Hyrwyddo cynnydd a lles cyffredinol disgyblion yn unol ag athroniaeth y ddarpariaeth.
• Gweithredu’r Còd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.
• Cefnogi Addysgu’ disgyblion sydd ddim yn ddysgwyr arferol prif lif.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Adnoddau dysgu cyffredinol.
• Offer TGCh i gefnogi dysgu’r disgyblion
Prif Ddyletswyddau.
Cefnogaeth i ddisgyblion
• Cefnogi’r Addysgu grwpiau o ddisgyblion a neilltuir gan yr Adran Addysg
• Cynllunio nodau addysgu a dysgu heriol ac addasu cynlluniau gwersi/gwaith fel y bo’n briodol.
• Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu’r disgyblion.
• Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu drwy ystod o strategaethau asesu a monitro.
• Darparu adborth gwrthrychol a chywir ac, yn ôl y gofyn, adroddiadau ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
• Gweinyddu ac asesu/marcio profion.
• Gosod disgwyliadau uchel.
• Datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg Unigol (CAU) Chynlluniau Ymddygiad Unigol (CYU) a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDU).
• Hybu cynhwysiad pob disgybl.
• Cefnogi’r disgyblion yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.
• Annog y disgyblion i ryngweithio a gweithio’n gydweithredol, lle’n briodol, ag eraill ac ymrwymo pob disgybl mewn gweithgareddau.
• Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabod a gwobrwyo cyflawniad a hunanddibyniaeth.
• Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.
• Asesu, cofnodi ac adrodd ar gynnydd disgyblion.
• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
• Adrodd ar gynnydd disgyblion i’r ysgolion ac unrhyw asiantaeth berthnasol.
• Cysylltu a chyfathrebu’n effeithiol a phawb perthnasol sydd â wnelo â’r disgyblion fel mae’n briodol.
• Hwyluso cyfathrebu rhwng ysgol, rhieni ac asiantaethau eraill
• Sicrhau bod yr holl faterion Iechyd a Diogelwch sy’n rhan o’ch cyfrifoldeb yn cael eu dwyn i sylw’r Rheolwr Llinell.
• Bod yn rhan weithredol o lunio asesiadau risg ar ddisgyblion a lleoliadau dysgu.
• Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.
• Gweithredu polisi Cyfleoedd Cyfartal yr AALl.
• Gweithio o fewn polisi disgyblaeth sefydledig i ragweld a rheoli ymddygiad yn adeiladol, gan hybu hunanreolaeth ac annibyniaeth.
• Cefnogi rhan rhieni yn dysgu’r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd/arwain cyfarfodydd gyda rhieni i ddarparu adborth adeiladol ar gynnydd/cyflawniad disgyblion, ayyb.
• Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, ayyb.
• Bod yn ymwybodol a chefnogi gwahaniaeth, a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.
• Os yw’n briodol, mynychu cyfarfodydd bugeiliol
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
• O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i’r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y disgyblion.
• Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd a gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygiad sgiliau disgyblion.
• Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
• Dethol a pharatoi adnoddau sy’n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.
• Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.
• I feddu ar drwydded yrru ddilys a defnydd o gerbyd sydd yn cydymffurfio â Pholisi Teithio Cyngor Gwynedd.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.