Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cyfrannu at waith y tîm sydd yn darparu cefnogaeth broffesiynol i holl Aelodau etholedig y Cyngor trwy’r gyfundrefn bwyllgorau ac unrhyw gymorth arall fel bo’r Aelodau yn gallu cyflawni yn eu dyletswyddau a’u gwahanol rolau.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
Cefnogaeth i Aelodau
•Trefnu Cyfarfodydd amrywiol bwyllgorau a chydbwyllgorau’r Cyngor (gan gynnwys cyfarfodydd mewnol anffurfiol ee Cabinet anffurfiol a’r Tim/Grwp Rheoli) drwy ymgynghori â’r swyddogion perthnasol, Cadeirydd y pwyllgor ac Aelodau eraill fel y bo angen.
•Drafftio blaen-raglenni, rhaglenni ac adroddiadau yn ôl yr angen mewn ymgynghoriad â swyddogion perthnasol. Trefnu eu cyfieithu a’u cyhoeddi (trwy Modern Gov) a’u dosbarthu i’r holl Aelodau a swyddogion perthnasol.
•Paratoi rhaglenni a chofnodion clir a chryno a’u gosod ar safle’r Cyngor trwy Modern Gov
•Mynychu cyfarfodydd a pharatoi cofnodion cywir, clir a chryno o’r drafodaeth a phenderfyniadau/argymhellion gan sicrhau gweithrediad buan ar unrhyw benderfyniadau.
•Gweithredu fel pwynt cyswllt i raglen waith pwyllgorau penodol (gan amrywio fesul swyddog).
•Delio â gohebiaeth sy’n codi o weithrediadau’r cyfarfodydd hyn.
•Delio ag Ymholiadau gan y cyhoedd ac Aelodau etholedig mewn perthynas â gwaith pwyllgorau, ac yn absenoldeb swyddog o’r Gwasanaeth Cyfreithiol, delio gyda materion trefniadol a chyfansoddiadol ynglŷn â phwyllgorau.
•Paratoi taflenni penderfyniad ar benderfyniadau’r Cabinet neu Aelodau unigol o’r Cabinet
•Paratoi a chasglu holl gofnodion y cylch pwyllgorau.
•Darparu cymorth i waith craffu’r Cyngor trwy gefnogi’r pwyllgorau craffu - yn cynnwys gweinyddiaeth y pwyllgorau, ymchwiliadau craffu a fydd yn craffu a herio materion penodol a chynghori ar faterion yn ystod y cyfarfodydd paratoi.
•Arwain, yn ôl yr angen, ar ymchwiliadau craffu gydag Aelodau etholedig gan gynghori ar drywydd ymchwiliadau yn barhaus a sicrhau argymhellion clir yn seiliedig ar dystiolaeth, er budd trigolion Gwynedd.
•Darparu’r cymorth cyffredinol i Aelodau i ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol yn eu gwaith fel Aelodau etholedig ee cynghori gyda materion TG ayyb.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau penodol o ran y maes cefnogi Aelodau fel bo’r angen (ee cyflogau Aelodau, cyrff allanol, calendr pwyllgorau, Hyfforddiant, cyd-bwysedd gwleidyddol)
•Cynorthwyo’r gwasanaeth gyda datblygiadau mewn meysydd technegol perthnasol i’r gwasanaeth fel Modern Gov, gwe ddarlledu, darlledu o bell, system pleidleisio yn y siambrau ayyb gan ymdrin ag unrhyw ofynion technegol i sicrhau fod y pwyllgor/cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth.
•Cynnal a datblygu’r system sydd yn cyflenwi’r safle mewnrwyd yr Adran a safle gwe’r Cyngor gan sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol
•Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau a/neu newidiadau yn y maes, a thynnu sylw’r Rheolwr i’r datblygiadau hyn a chynghori’r Rheolwr ar ffyrdd o ddatblygu ac aeddfedu’r gwasanaeth.
•Cynorthwyo yn y broses o gasglu a dadansoddi ystadegau perthnasol i waith yr adain, a chreu adroddiadau byr.
Cefnogaeth benodol
•Cyfirfoldeb am faes penodol o ran cefnogi Aelodau (amrywio fesul swyddog) ee Cyrff allanol, costau teithio, cyd-bwysedd gwleidyddol, presenoldeb Aelodau ayyb
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio gyda’r nos yn achlysurol ac mewn lleoliadau gwahanol.
•Disgwylir i ddeilyddion holl swyddi’r adran amlygu hyblygrwydd yn eu gwaith.