Swyddi ar lein
Pennaeth Cyllid a Chaffael
£56,285 - £60,368 y flwyddyn
- Cyfeirnod personel:
- 24-27090
- Teitl swydd:
- Pennaeth Cyllid a Chaffael
- Adran:
- Swyddi cyffredinol
- Gwasanaeth:
- Swyddi cyffredinol
- Dyddiad cau:
- 26/04/2024 12:00
- Cyflog:
- £56,285 - £60,368 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Llanelwy
Manylion
Hysbyseb Swydd
Pennaeth Cyllid a Chaffael
Parhaol, 37 awr yr wythnos
£56,285-£60,368
Dyma gyfle cyffrous i fod yn Bennaeth Cyllid a Chaffael. Mae’r Pennaeth Adran
hwn yn aelod o Dîm Arweinyddol y Gwasanaeth ac yn gyfrifol am ddarpariaeth
strategol Swyddogaeth Gyllid y Gwasanaeth, sy’n cynnwys y gyflogres, pensiynau
a chaffael, gan gynnwys y Storfeydd.
Byddwch yn rhoi arweiniad wrth ddatblygu a chyflwyno strategaethau ariannol
manwl a chynlluniau gwasanaeth cysylltiedig ar gyfer cyllid, y gyflogres, pensiynau
a chaffael. Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu'r Strategaeth Adnoddau Tymor
Canolig gan gynnwys cyllidebau refeniw a chyfalaf manwl a strategaethau
cysylltiedig. Yn ogystal, byddwch yn gyfrifol am gynhyrchu'r cyfrifon statudol a'r
trefniadau archwilio allanol. Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol a
gofynion adrodd allanol gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys CThEF a
Llywodraeth Cymru. Byddwch hefyd yn datblygu ac yn gweithredu trefniadau
llywodraethu ariannol cadarn ar draws y Gwasanaeth i sicrhau cydymffurfiaeth ag
arfer gorau.
Gofynion Hanfodol -
• Cyfrifydd CCAB cymwys â phrofiad helaeth a thystiolaeth o DPP. Bydd ymgeiswyr
cymwys trwy brofiad yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol.
• Profiad o arwain, datblygu ac ysgogi tîm o staff.
• Sgiliau rhyngbersonol da gyda phrofiad o weithio'n effeithiol mewn timau
amlddisgyblaethol
• Yn drefnus a’r gallu i wylio’r gorwel a blaengynllunio
• Rhaid gallu gweithio i derfynau amser llym ac o dan bwysau.
• Lefel uchel o uniondeb a disgresiwn proffesiynol
• Yn hunangymhellol ac yn gweithio ar eich menter eich hun.
• Yn gallu blaenoriaethu gofynion sy'n cystadlu â’i gilydd a dirprwyo
• Y gallu i ddatblygu atebion ymarferol i broblemau gan gydbwyso sawl mater a
blaenoriaeth yn briodol
• Yn gallu dangos sgiliau dadansoddi, trefnu a dogfennu cryf
• Sgiliau TGCh da
• Trwydded yrru gyfredol sy’n ddilys yn y DU a'r gallu a'r parodrwydd i deithio o gwmpas
ardal y Gwasanaeth a thu hwnt yn ôl yr angen.
Bydd y rôl wedi’i lleoli ym Mhencadlys y Gwasanaeth yn Llanelwy; fodd bynnag,
mae gweithio ystwyth ar gael o gyfuniad o leoliadau eraill y Gwasanaeth a’r cartref
a bydd hyn yn cael ei drafod ymhellach gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.
Sylwch fod sgiliau Cymraeg lefel 3 yn ofynnol ar gyfer y swydd hon; os nad oes
modd dangos y sgiliau hyn adeg penodi, rhoddir cefnogaeth i gyflawni hyn yn
ystod y cyfnod prawf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS
arferol a geirdaon cyn penodi.
I gael manylion pellach ynglŷn â'r rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth. I
wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost at:
recruitment@northwalesfire.gov.wales
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl hon neu os hoffech sgwrs anffurfiol
cyn gwneud cais, cysylltwch â Helen MacArthur drwy’r Cynorthwywyr
Gweithredol drwy e-bostio executiveassistants@northwalesfire.gov.wales
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00 hanner dydd, 26 Ebrill 2024
Cedwir at y dyddiad cau yn llym ac ni chaniateir unrhyw eithriadau.