Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cynorthwyo’r Arweinydd tîm gyda gweinyddiaeth y tîm Democratiaeth o ddydd i ddydd ynghyd a’r Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Cefnogaeth i Aelodau
•Darparu cymorth gweinyddol i’r tîm democratiaeth (a’r Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith) yn ôl y galw.
•Cynorthwyo’r Arweinydd tîm i ddatblygu’r ddarpariaeth dechnegol ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor.
•Cynorthwyo’r tîm democratiaeth i gynnal cyfarfodydd hybrid a chyfarfodydd rhithiol gan ddarparu arbenigedd technegol
•Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chynnal rhaglen gwe-ddarlledu byw y Cyngor, “hostio” cyfarfodydd rhithiol a hybrid, ynghyd a’r holl elfennau eraill angenrheidiol megis rheoli’r meicroffonau, pleidleisiau, rhedeg fidoes ayyb.
•Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i gynnal y rhaglen o gyfarfodydd rhanbarthol gan gynnig y cymorth techengol uchod ar eu cyfer.
•Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i ddarparu hyfforddiant i’r Aelodau Etholiedig a swyddogion ar ddefnydd o’r dechnoleg mewn cyfarfodyd ffurfiol yn gyson ac yn ôl yr angen.
•Ymateb i ymholiadau a thrafferthion cyswllt gan Aelodau mewn pwyllgorau ffurfiol.
•Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i ddatblygu’r defnydd o raglen Modern.gov
•Cynnal a datblygu safle mewnrwyd yr Aelodau.
•Cofnodi mewn cyfarfodydd mewnol y Cyngor yn ôl yr angen.
•Delio ag ymholiadau gan y cyhoedd ac Aelodau etholedig mewn perthynas â gwaith pwyllgorau, yn arbennig unrhyw geisiadau rhyddid gwybodaeth.
•Darparu cymorth cyffredinol i Aelodau i ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol yn eu gwaith fel Aelodau etholedig ee cynghori gyda materion TG ayyb.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau penodol o ran y maes cefnogi Aelodau fel bo’r angen (ee cyflogau Aelodau, cyrff allanol, calendr pwyllgorau, Hyfforddiant, cyd-bwysedd gwleidyddol)
•Cynorthwyo’r gwasanaeth gyda datblygiadau mewn meysydd technegol perthnasol i’r gwasanaeth fel Modern Gov, gwe ddarlledu, darlledu o bell, system pleidleisio yn y siambrau ayyb gan ymdrin ag unrhyw ofynion technegol i sicrhau fod y pwyllgor/cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau gweinyddol perthnasol i’r Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith fel bo’r angen a’r cyfle yn codi.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio gyda’r nos yn achlysurol ac mewn lleoliadau gwahanol.
•Disgwylir i ddeilyddion holl swyddi’r adran amlygu hyblygrwydd yn eu gwaith.