Pwrpas y Swydd
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cefnogi’r Rhaglen Newid Hinsawdd fydd yn cynnwys yr holl swyddogaethau sydd yn codi yn sgil hynny.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Os ydych yn angerddol dros helpu i wella'r amgylchedd ac eisiau gweithio mewn maes sy'n datblygu’n gyflym, yna gallai hon fod yn swydd ddelfrydol i chi.
Mae sgiliau trefnu cryf a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn bwysicach na meddu ar wybodaeth dechnegol benodol ar gyfer y rôl hon. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu adeiladu a datblygu perthnasau gan weithio ar sawl cynllun a phrosiect ar yr un pryd. Dyma gyfle gwych i chi lunio a dylanwadu ar sut mae Cyngor Gwynedd yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a chyflawni y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur.
Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau diweddaraf a thystiolaeth ffeithiol ym maes newid hinsawdd gan roddi cyngor priodol ar hynny i’r Rheolwr Rhaglen a’r Bwrdd Ymateb Newid Hinsawdd .
Bod yn fyw i bolisïau Llywodraeth Cymru, San Steffan a rhyngwladol yn y maes gan adrodd fel bod angen i’r Bwrdd ar faterion allweddol allasai fod yn berthnasol i’w maes;
Cynorthwyo’r Rheolwr Rhaglen i ddarparu cyngor ac arweiniad ar sut i gyfarch y gofynion o fewn y maes newid hinsawdd.
Cydweithio hefo aelodau etholedig, swyddogion ar bob lefel a budd ddeiliaid mewn amrywiol feysydd er mwyn eu cynorthwyo i gwrdd a’r gofynion yn y maes.
Arwain ar ffrydiau gwaith o fewn y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur gan weithredu fel rheolwr ar brosiectau unigol yn ôl y galw.
Dadansoddi dogfennau/gwybodaeth gan adnabod neu argymell camau ar gyfer ymateb.
Cynorthwyo i ddatblygu achosion busnes, adnabod ffynonellau ariannu a pharatoi ceisiadau am grant
Paratoi a chyflwyno adroddiadau i amrywiol gynulleidfaoedd.
Cyflwyno hyfforddiant.
Cefnogi a chydgordio ymdrechion adrannau i sicrhau eu bod yn cyflawni prosiectau rhan o’r Cynllun ymateb i newid hinsawdd yn y modd fwyaf effeithiol gan amlygu dyblygu pan yn bodoli
Cefnogi gweithrediad y cynllun cyfathrebu sydd ynghlwm a’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur.
Cynrychioli’r cyngor mewn unrhyw gyfarfodydd trosolwg rhanbarthol neu is ranbarthol yn ymwneud a newid hinsawdd ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd yn ôl y gofyn;
Bod yn gyfrifol am gydlynu trefniadau cyfarfodydd y Bwrdd.
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam drin
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.