Pwrpas y Swydd
Derbyn profiadau a cefnogaeth yn y gweithly er mwyn cwblhau prentisiaeth
Cyfrannu fel aelod o'r tim o fewn yr Adran
Sicrhau fod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Mae’r brentisiaeth yn rhoi sylfaen dda i unigolyn ddysgu am y maes. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn darparu’r offer sy’n galluogi ein prentisiaid i fod ar flaen y gad mewn maes sy’n newid yn gyflym.
Mae disgwyl i bob prentis Cyngor Gwynedd ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant YGC a’r Cyngor
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Dyma flas o rai o'r pynciau posibl:
- Dylunio Peirianneg
- H&S mewn Peirianneg
- Egwyddorion Trydanol ac Electronig
- Egwyddorion Peirianneg Fecanyddol
- Mathemateg Peirianneg
- Deunyddiau Peirianneg
- Cynnal a Chadw Peirianneg
- Peiriannau Trydanol
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Bydd angen trwydded yrru llawn a dilys.
Bydd angen bod ar gael i weithio tu allan i oriau gwaith arferol (gyda’r nos / pen wythnosau) ar gyfer gwaith anghenrheidiol ar dwneli.