Pwrpas y Swydd
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Mae’r Asiant Cefnffyrdd a Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am reoli, cynnal a gwella rhwydwaith y ffyrdd strategol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
Mae’r Asiantaeth yn gweld y cyfle i ddod a pobol i faes gwaith diddorol sydd yn cynnig amryw o brofiadau ar ddechrau eu gyrfa. Mae’r cyfle i brentis wneud Gradd yn y maes Technoleg gwybodaeth yn galluogi’r Asiantaeth i sicrhau fod y staff gyda’r sgiliau a profiadau sydd ei angen ar gyfer y dyfodol.
Mae disgwyl i bob prentis ACGCC ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant yr Asiantaeth
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i’r Asiantaeth
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Cynorthwyo i ddatblygu a chynnal systemau rheoli data ar gyfer yr Asiantaeth
Defnyddio offer dadansoddi data i wirio gwybodaeth
Cynorthwyo gyda dylunio a defnyddio systemau TG, offer a data sydd yn cael ei gadw
Cynorthwyo gyda diogelwch data sensitif ac offer TG ffisegol
Cyflwyno prosiectau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni
Gweithio gyda sefydliadau partner o ran materion rheoli gwybodaeth
Hyrwyddo rhaglenni ar gyfer datblygu systemau technoleg gwybodaeth sydd eu hangen ar yr Asiantaeth
Cyfathrebu’n effeithiol gyda aeoldau etholedig, y cyhoedd a sefydliadau allanol eraill
Fel aelod o staff ACGCC, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb yr Asiantaeth
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin