Pwrpas y Swydd
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Mae deilydd y swydd yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor o ran gorfodi safonau tai yn y sector tai preifat.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Mae’r Cyngor yn rhan o Gynllun Peilot Llywodraeth Cymru i sefydlu erthygl 4 mewn ymateb i'r argyfwng tai a’r nifer o ail gartrefi a llety gwylia sydd yn yr ardal. Mae’r Adran Tai ac Eiddo hefyd yn allweddol i lwyddiant y Cynllun Gweithredu Tai. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm profiadol waith blaengar a fyddai'n cynnig profiad unigryw o werth.
Cynnal ymweliadau o eiddo gwag a darparu adroddiadau a rhestrau waith i berchenogion a’r adain grantiau.
Cynnal ymweliadau o eiddo gwag pan yn derbyn cwynion a cymryd camau gorfodaeth ble mae’r angen syd yn cynnwys gwasanaethu rhybuddion cyfreithiol a dilyn prosesau a trefniadau cyfreithiol sydd yn cynnwys erlyn a mynychu y Llysoedd.
Cynnal ymweliadau, darparu adroddiadau a cynnal gwaith gorfodaeth ar berchenogion eiddo “single occupancy” yn ogystal a Tai Aml Deiliadaeth. Mi fydd hyn yn cynnwys gwasanaethu rhybuddion cyfreithiol a dilyn prosesau a trefniadau cyfreithiol sydd yn cynnwys erlyn a mynychu y Llysoedd.
Cynnal ymweliadau ar ran Swyddogion Iechyd o eiddo sydd yn dioddef o niwsans statudol. Mi fydd y gwaith yma oddi tan goruchwyliaeth y Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd. Mi fydd hyn yn cynnwys gwasanaethu rhybuddion cyfreithiol a dilyn prosesau a trefniadau cyfreithiol sydd yn cynnwys erlyn a mynychu y Llysoedd.
Cynnal ymweliadau tai mewn perthynas i geisiadau mewnfudwyr a’r cynllun ail gartrefu ffoaduriaid Ukraine a Afghanistan/Syria a darparu adroddiadau i’r perchenogion/ymgeiswyr a llythyrau i’r Swyddfa Gartref.
Cymryd ymlaen dyletswyddau sydd yn cael ei dirprwyo gan y Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ble fydd yr angen ar led Gwynedd.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam drin
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd, is-bwyllgorau a gweithgorau, rhai ohonynt y tu allan i oriau gwaith arferol.
Dyletswydd i weithio allan o oriau statudol gwaith ble fydd yr angen e.e. paratoi a gwasanaethu rhybuddion statudol yr un diwrnod neu hwyr yn y prynhawn.