Pwrpas y Swydd
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes Data, Technoleg Gwybodaeth
- I gyfrannu fel aelod o dîm o fewn y Gwasanaeth Datblygu, Technoleg Gwybodaeth i ddarparu gwasanaeth o wella dealltwriaeth y Cyngor o’r data a’r prosiectau hynny a amlinellir yn y Cynllun Digidol i adrannau y Cyngor
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Mae Cynllun Digidol y Cyngor yn gosod gweledigaeth hir dymor am wasanaethau digidol a sut all digidol gyfoethogi a gwneud ein gwasanaethau’n fwy effeithlon. Un o’r meysydd sydd yn disgwyl i dyfu fwyaf yw’r maes data. Bydd y profiad o weithio gyda ni tra’n astudio yn hynod ddefnyddiol tuag at eich astudiaeth gradd, ac yn eich rhoi chi mewn sefyllfa gwych i ddatblygu gyrfa yn y maes. Mewn maes sydd yn datblygu'n gyflym, mae’r angen i ddatblygu arbenigwyr maes TG yn hanfodol i sicrhau ein bod ni yn ymateb i anghenion pobl Gwynedd mewn dulliau arloesol. Gall hyn gynnwys meysydd fel –
- Rhaglennu
- Technolegau Gwe
- Cronfeydd data
- Dadansoddi data
- Prosesu a chyflwyno data
Mae disgwyl i bob prentis Cyngor Gwynedd ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant y Cyngor
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Rhoi mewnbwn i syniadau newydd ac adnabod arbedion effeithlonrwydd drwy adnabod sut y gall y Gwasanaeth greu gwelliannau, gwella gofal cwsmer neu greu cyfleoedd newydd
Chwarae rôl wrth i benderfyniadau gael eu gwneud wrth i sicrhau bod elfennau o brosiectau’n cael eu cwblhau’n brydlon, o fewn y gyllideb ac i’r safonau disgwyliedig
Cael cyfle i roi mewnbwn i ddatblygu polisïau, gweithdrefnau newydd a chynllunio busnes
Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformiad a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt
Datblygu manylebau clir a dealladwy ar gyfer prosiectau
Defnyddio sgiliau datrys problemau i sicrhau bod datrysiadau arloesol yn cael eu defnyddio
Gweithio ar draws adrannau’r Cyngor ac yn gymorth i wireddu camau penodol o wella dealltwriaeth y Cyngor o’r data a’r prosiectau hynny a amlinellir yn y Cynllun Digidol i ddiwygio ein trefniadau o gasglu, adrodd a dadansoddi ein data
Datblygu nifer o sgiliau mathemategol sylfaenol sydd eu hangen i ddadansoddi data a moeseg a gofynion cyfreithiol casglu data.
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin