Pwrpas y Swydd
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes Adnoddau Dynol
- I gyfrannu fel aelod o dîm o fewn y Gwasanaeth Ymgynghorol Adnoddau Dynol i ddarparu gwasanaeth i adrannau y Cyngor
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Mae’r tîm o ymgynghorwyr a swyddogion adnoddau dynol yn gyfrifol am gynghori rheolwyr a phenaethiaid ysgolion ar ystod eang o faterion cyflogi staff. Mae hynny’n cynnwys dehongli yr amodau gwaith, materion cyflog cyfartal, ailstrwythuro neu dorri ar wasanaethau, ymdrin â disgyblaethau a chwynion, rheoli absenoldebau a chynllunio’r gweithlu. Mae’r gwasanaeth hefyd yn arwain ar raglen sy’n canolbwyntio ar adolygu a datblygu amodau gwaith y Cyngor ac yn chwarae rôl ganolog mewn cynnal perthynas waith adeiladol efo’r undebau llafur.
Mae disgwyl i bob prentis Cyngor Gwynedd ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant y Cyngor
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Datblygu gwybodaeth a sgiliau i roi cyngor i reolwyr a staff ar faterion cyflogaeth, yn cynnwys y maes ysgolion a staff y Cyngor yn ehangach.
Cynorthwyo i roi cyngor a chreu datblygiadau ym meysydd recriwtio a phenodi a chynllunio’r gweithlu yn ehangach.
Cynorthwyo’r gwaith o adolygu a datblygu amodau gwaith staff, gan gynnwys ymchwilio i arferion da a datblygu syniadau o fewn y tîm.
Cefnogi gwaith y tîm ar ymateb i newidiadau mewn lefelau staffio o fewn adrannau, neu newid strwythur gwasanaethau, trwy gefnogi staff sydd yn wynebu sefyllfaoedd o newid swyddi neu o bosib golli swyddi.
Cefnogi gwaith y tîm i gynghori ar gynnal achosion cyflogaeth ym meysydd cwynion ac anghydfod, prosesau disgyblu, rheoli absenoldebau salwch, tan-berfformiad a meysydd eraill.
Cynorthwyo’r tîm i ymateb i arfarniadau swyddi a cheisiadau ail-raddio graddfeydd.
Datblygu deunyddiau cyfathrebu, i gynnwys gwybodaeth i reolwyr, staff, undebau llafur, ar wahanol ffurfiau, i gynnwys dogfennau amodau ar y gwaith a chyhoeddiadau ar y we.
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin