Pwrpas y Swydd
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes cyfreithiol
- I gyfrannu fel aelod o dîm o fewn yr Adran i arbenigo mewn gwaith cefnogi cyfreithiol o safon para-gyfreithiol
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Mae’r Gwasanaeth yn cefnogi holl wasanaethau y Cyngor i ddarparu i bobl Gwynedd. Mae hyn cynnwys traws doriad eang o feysydd gwaith arferol Llywodraeth lleol. Rydym yn chwarae rôl ganolog yn natblygiad strategaethau a phrif brosiectau yr awdurdod, yn darparu cyngor arbenigol, llunio dogfennau cyfreithiol, ymwneud a thrafodion a chontractau a cynrychioli y Cyngor mewn llysoedd a thribiwnlysoedd. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cefnogi’r Swyddog Monitro yn ei rôl statudol a fewn y Cyngor ac felly yn golygu mynychu ystod o Bwyllgorau gwahanol y cyngor.
Mae disgwyl i bob prentis Cyngor Gwynedd ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant y Cyngor
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Bydd pwyslais ar waith llys o fewn yr rôl yma drwy gefnogi cyfreithwyr yn y maes plant, oedolion ac erlynnu yn y man cyntaf
Cwblhau ymchwil gyfreithiol arferol
Cyflwyno gwybodaeth mewn ymateb i geisiadau
Cynorthwyo gyda'r adolygiad cychwynnol o ddogfennau cyfreithiol
Cynhyrchu drafftiau cyntaf o ddogfennau cyfreithiol a dogfennau prawf-ddarllen
Cefnogi cyfreithwyr a bar gyfreithwyr mewn achos llys
Datblygu gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol sylfaenol
Datblygu sgiliau ymarferol megis defnyddio technoleg ac ymwybyddiaeth fasnachol
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin