Swyddi ar lein
Prentis Gofal Plant
Gweler Hysbyseb Swydd | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 23-26971
- Teitl swydd:
- Prentis Gofal Plant
- Adran:
- Prentisiaethau
- Dyddiad cau:
- 26/04/2024 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro dwy flynedd | 37 Awr
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Lleoliad(au):
- Plas Pawb, Maesincla, Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd!
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes gofal plant?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y linc
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 12:00PM, DYDD IAU 25ain o Ebrill 2024
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Dangos ymddygiad ac agwedd cywir
- Bod yn deg a gallu trin pobl gyda pharch
- I fod yn gwrtais ac yn bositif
Dangos ymrwymiad i waith neu brosiect
- I fod yn gyfrifol am wneud y dyletswyddau a chyfrifoldebau rôl prentis i’r lefel uchaf bosib
- I gyflawni pob dyletswydd sy’n ofynnol
Gweithio fel rhan o dîm
- Gallu gweithio mewn tîm
- I gyfrannu at gyfarfodydd tîm a chyfathrebu'n rheolaidd ac yn effeithiol gydag aelodau eraill y tîm
Cyfathrebu gyda hyder
- Y gallu i gyfathrebu gyda hyder yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Y gallu i ddangos y sgiliau cywir i allu cyfathrebu yn gywir ar gyfer unrhyw gynulleidfa
Bod yn barod i ddysgu
- I ymrwymo i’th ddatblygiad i gyflawni dy swydd a’r brentisiaeth
- Adnabod anghenion datblygu personol yn barhaus a gweithredu arnyn nhw
Deall beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
- Deall y sialensiau sydd yn ein wynebu fel Cyngor
- Manteisio ar gyfleoedd i fod yn greadigol
- Sicrhau dy fod yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr wyt yn ei wneud
Bod yn berchen ar drwydded yrru llawn a dilys
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf gan gyrraedd y gofynion isod:
Unai 4 TGAU gradd D neu uwch (gradd C neu uwch mewn mathemateg)
Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 cyfatebol (e.e. BTEC Cyntaf Lefel 2 Diploma)
Er gwybodaeth, bydd unrhyw gyfuniad o gymwysterau gyda gradd gyfatebol yn dderbyniol.
DYMUNOL
-
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
-
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
-
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
GWRANDO A SIARAD - LEFEL CANOLRADD
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
DARLLEN A DEALL - LEFEL CANOLRADD
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
YSGRIFENNU - LEFEL CANOLRADD
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau
- I gyfrannu fel aelod o dîm o fewn yr Adran
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau.
Trosolwg
Mae Meithrinfa Plas Pawb wedi’i lleoli yng Nghaernarfon ac yn cynnig gofal ac addysg o ansawdd i blant o dri mis oed a hŷn a phlant oed ysgol.
Ceir ystafell Babis, Ystafell Plant Hŷn a Chlwb ar ôl ysgol yn y feithrinfa. Cynigir llefydd llawn neu rhan amser ynghyd â chynllun gofal plant tymor ysgol yn unig. Hefyd mae’r feithrinfa wedi’i chofrestru i ddarparu llefydd gofal plant Dechrau’n Deg.
Mae pedwar man chwarae diogel i’r plant chwarae gydag adnoddau pwrpasol i gynnig cyfleoedd eang i blant. Mae’r feithrinfa yn chwarae rôl allweddol o fewn Canolfan Integredig Plas Pawb i gynnig amrywiaeth o wasanaethau i deuluoedd yr ardal.
Wrth gynnig gofal i blant mae modd cynnig cyfleoedd i’r rhieni/gofalwyr fynychu sesiynau a chyrsiau ar y safle drwy wasanaeth y tîm Cefnogi Teulu, Teuluoedd yn Gyntaf a’r cynllun Dechrau’n Deg.
Dyma ragflas o rai o’r pynciau posibl:
- Deall datblygiad plentyn
- Deall sut i ddiogelu lles plant
- Deall sut i weithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau plant
- Deall sut i gefnogi canlyniadau positif i blant
- Deall egwyddorion dyletswydd gofal mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn y maes plant
Rydym eisiau denu ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y maes Gofal Plant. Byddwn yn croesawu ymgeiswyr o bob oed ac o gefndiroedd amrywiol, gyda amrediad o brofiadau, llwyddiannau ac mewn rhai achosion, ymgeiswyr sydd wedi cwblhau cymwysterau yn barod.
Bydd disgwyl i bob prentis arddangos y canlynol:
- Ymddygiad ac agwedd gywir
- Ymrwymiad i waith
- Cyfrannu at lwyddiant
- Gweithio’n rhan o dîm
- Cyfathrebu gyda hyder
- Parodrwydd i ddysgu
- Ymwybyddiaeth o beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Cyfrannu tuag at gynllunio a gweithredu rhaglenni priodol o weithgaredd ar gyfer y plant mewn cydweithrediad â Rheolwr y Feithrinfa, arweinyddion y Feithrinfa a staff eraill, yn cynnwys myfyrwyr. Bydd rhaglenni gweithgaredd yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynorthwyo arweinydd y Feithrinfa mewn trosglwyddo gofal o safon uchel, gan sicrhau bod anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol y plant yn cael eu cwrdd.
Meddu ar ddealltwriaeth lawn o system y Feithrinfa o gadw cofnodion a chyfrannu tuag at arsylwi a chofnodi datblygiad plant unigol, gan ddefnyddio’r system gweithwyr allweddol.
Gweithio ochr yn ochr â’r rheolwr a’r staff i sicrhau darpariaeth o ystod o offer, gweithgareddau ac arddangosfeydd sy’n ysgogi, dan do ac yn yr awyr agored, sy’n berthnasol i oedrannau ac anghenion y plant.
Sicrhau bod y mannau chwarae, boed dan do neu yn yr awyr agored, yn amgylcheddau diogel, hapus a gofalgar, sy’n cymell y plant i chwarae’n rhydd.
Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n cwrdd ag anghenion pob plentyn sy’n mynychu’r feithrinfa, gan sicrhau y rhoddir ystyriaeth ddyledus i genedl, diwylliant, hil, crefydd, iaith ac anabledd.
Bod mewn cyswllt â rhieni/gofalwyr ac annog iddynt gymryd rhan yn natblygiad eu plentyn a’u lleoliad yn y feithrinfa.
Parchu a dilyn trefniadau’r rhieni/gofalwyr ar gyfer babanod a phlant bach sy’n mynychu’r feithrinfa.
Cynorthwyo gyda gwasanaeth codi plant o’r ysgol.
Cynorthwyo mewn darparu ymborth cytbwys iachus ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu’r feithrinfa, yn cynnwys paratoi bwyd, cynorthwyo gyda bwydo’r plant, sicrhau bod amseroedd prydau yn achlysuron cymdeithasol, a chlirio ar ôl amseroedd prydau.
Dilyn polisïau a gweithdrefnau a nodir gan Gyngor Gwynedd a Meithrinfa Plas Pawb.
Ymgyfarwyddo â, yn ogystal â dilyn Safonau Gofynnol Cenedlaethol gofal dydd llawn fel yr amlinellir yng nghanllawiau cofrestru Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol Cymru (CSSIW).
Rhannu’r cyfrifoldeb dros ddiogelu a hyrwyddo lles pob plentyn yn y feithrinfa, fel yr amlinellir yng Ngweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
Sicrhau meddiant parhaus ar wybodaeth weithredol o egwyddorion ac amcanion y prosiect Dechrau’n Deg.
Meithrin perthnasoedd gweithio da gyda dealltwriaeth o asiantaethau allanol a phobl broffesiynol eraill sydd yn ymwneud â datblygiad a gofal plant unigol.
Cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad personol parhaus, trwy fynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol er mwyn meddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf o ddeddfwriaeth a rheolau sy’n berthnasol i’r swydd. Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn barod i weithio tuag at sicrhau cymhwyster galwedigaethol a gaiff ei gydnabod yn genedlaethol, e.e. NVQ 3.
Mynychu cyfarfodydd wythnosol y tîm, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd misol unigol ac arfarniadau blynyddol gyda Rheolwr neu Arweinydd y Feithrinfa.
Cynorthwyo yn rheolaeth ddomestig ddyddiol y feithrinfa, gan gynnwys sicrhau y cedwir y feithrinfa yn ddiogel a glân bob amser.
Sicrhau y cwblheir tasgau gofal plant penodol i’r safonau disgwyliedig, gan gynnwys helpu plant gyda bwydo, newid dillad a thoiledu, ac yn cynnwys newid cewynnau; cynnal safonau uchel o hylendid trwy’r amser; rhoi cysur a chynhesrwydd i blentyn gwael; a rhoi gwybod am unrhyw arwyddion o salwch neu anaf, neu bryderon ynghylch cam-drin.
Cyflawni’r dyletswyddau gan roi ystyriaeth lawn i Iechyd a Diogelwch.
Gallu gweithredu'n effeithiol gydag eraill wrth arddangos dealltwriaeth glir o bwysigrwydd Cydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau Rheoli Gwybodaeth y Cyngor.
Ymrwymo i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl troed carbon y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Oriau gwaith i’w cadarnhau, ond gofynnir i ddeiliad y swydd weithio ar rota sy’n hyblyg o 8 y bore i 6 yn y nos.
Mae’r Adran yn rhedeg rhaglen ddatblygu hyfforddiant a sgiliau personol parhaus. Caiff Cynllun Arfarnu ei weithredu sy’n cyfrannu tuag at y ddarpariaeth honno. Disgwylir i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y rhaglen.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.