Pwrpas y Swydd
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau
- I gyfrannu fel aelod o dîm o fewn yr Adran
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
O fewn y tîm, bydd y lleoliad yn galluogi’r unigolyn llwyddiannus i ddysgu’r egwyddorion o weinyddiaeth a chefnogaeth weithredol dda. Bydd hyn yn cynnwys darparu ‘cover’ i dimau rheng flaen, cefnogi cyfeiriadau diogelu, cynorthwyo efo’n gwaith craidd o lywodraethu gwybodaeth yn effeithiol, cyfathrebu yn gyhoeddus ac yn fewnol o fewn y gwasanaethau cymdeithasol, cynorthwyo efo gwaith data i sicrhau ein bod yn medru adrodd ac adlewyrchu ein heriau a’r llwyddiannau yn effeithiol a llawer mwy.
Mae disgwyl i bob prentis Cyngor Gwynedd ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant y Cyngor
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Darparu cymorth i unigolion sydd yn troi atom er mwyn derbyn gwybodaeth neu gyngor ynghylch eu hanghenion gofal
Cynorthwyo gwasanaethau unigol e.e. y gwasanaeth diogelu i gadw trosolwg ar gyfeiriadau
Cefnogi wahanol gyfarfodydd megis tîm rheoli, cyfarfodydd tîm (e.e. therapi galwedigaethol, arweinwyr gwaith cymdeithasol ayb), cyfarfodydd aml-ddisgyblaethol gyda’r Bwrdd Iechyd, cyfarfodydd diogelu ac ati. Bydd hyn o gymorth mawr i ddod i adnabod wahanol wasanaethau ac ennyn dealltwriaeth o’r maes.
Cynorthwyo â gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu gyda’n cymunedau
Cynorthwyo â cheisiadau am wybodaeth bersonol a sensitif sy’n cyrraedd yr adran
Cysgodi wahanol weithwyr proffesiynol er mwyn dysgu am y wahanol opsiynau gyrfaol sydd ar gael yn y maes ac adnabod llwybr gyrfa dymunol e.e. therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr cartrefi preswyl, gweithwyr llesiant, swyddogion data a systemau ayb
magu dealltwriaeth o systemau a phrosesau trin data’r adran a bod yn rhan o’r drefn berfformiad
treulio amser yn rhan o’r amrywiol unedau busnes lle byddai modd datblygu arbenigeddau yn maes cyllid, contractau a chomisiynu gofal, sicrwydd ansawdd a monitro ayb
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin