Swyddi ar lein
Rheolwr Dysgu a Datblygu'r Sefydliad
£49,498 - £51,515 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25861
- Teitl swydd:
- Rheolwr Dysgu a Datblygu'r Sefydliad
- Adran:
- Cefnogaeth Gorfforaethol
- Gwasanaeth:
- Dysgu a Datblygu'r Sefydliad
- Dyddiad cau:
- 22/02/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £49,498 - £51,515 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS7
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Catrin Love ar 01286 679473
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 22.02.2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i ysbrydoli ac arwain staff yn effeithiol
Ymroddedig i gyflwyno gwasanaeth o’r ansawdd gorau i’r cwsmer
Yn meddwl yn arloesol, a bob tro yn edrych am ffyrdd i wella gwasanaeth.
Yn unigolyn sydd yn cyfleu brwdfrydedd am y maes gwaith, o fewn y tîm, ac yn ehangach o fewn y sefydliad
Yn berson trefnus, gyda llygad am fanylder a chywirdeb
Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg
Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu yn effeithiol
Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm
Perchen ar drwydded yrru ddilys a defnydd o gar.DYMUNOL
Yn unigolyn sydd a meddylfryd busnesCYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth perthnasol
Cymhwyster mewn maes perthnasol
DYMUNOL
Cymhwyster dysgu neu hyfforddi
Cymhwyster ôl-radd mewn maes perthnasol
Cymhwyster rheoli perthnasolPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad sylweddol diweddar o weithio mewn maes perthnasol
Profiad helaeth o ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant, ac ymyraethau dysgu ar bob lefel o fewn sefydliad
Profiad o ysgogi a rheoli newid, ac arwain staff i gyflawni yn llwyddiannus
Profiad o ddatblygu achosion busnes, a rhaglenni gwaith a chyflawni targedau
Profiad o arwain perthynas effeithiol a chydweithio gyda rhanddeiliaid allanol.
Profiad o arwain ar gynlluniau gwella gwasanaeth
DYMUNOL
Profiad yn y maes rheoli gan gynnwys rheoli staff ar lefelau amrywiol
Profiad o reoli cyllidebau (refeniw a chyfalaf) ac adnoddau (pobl ac asedau)
Profiad o arwain gweithlu mawr
Profiad o arwain a gyrru newidSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Dealltwriaeth gadarn o theori ac ymarfer gorau yn y maes Dysgu a Datblygu’r Sefydliad
Dealltwriaeth gadarn o’r datblygiadau a’r heriau cyfredol yn y maes Dysgu a Datblygu’r Sefydliad a tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus
Dealltwriaeth dda o strwythur a threfniadau’r Cyngor
Dealltwriaeth o reolaeth prosiect a rhaglen
Sgiliau cyfathrebu effeithiol (llafar, ysgrifenedig a chyflwyno) a gallu dylanwadu a rheoli budd-ddeiliaid.
Sgiliau rhyng-bersonol da a medru gweithio a phob lefel yn y sefydliad
Sgiliau TG cadarn mewn meddalwedd perthnasol (e.e. MS, Word, Excel).DYMUNOL
Dealltwriaeth o bolisïau, deddfwriaethau a disgwyliadau perthnasol meysydd gwaith gwasanaethau’r Adran.
Dealltwriaeth am feysydd gwaith gwasanaethau’r Adran.ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOLGwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
•Arwain y tîm(au) y mae’n gyfrifol amdano (ynt) i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.
•Gweithredu ar lefel strategol i gyfrannu at ddatblygu, meithrin a chynnal diwylliant sefydliadol (Ffordd GwyneddCyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am staff a chyllideb y Gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb am system TG MoDS
Prif Ddyletswyddau.
ARWAIN
•Bod yn atebol am y Gwasanaeth a’r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael
•Arwain staff y Gwasanaeth drwy annog a chymell i berchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd a bod yn atebol am sicrhau fod hynny’n digwydd
•Sicrhau amgylchedd o fewn y tîm sy’n hyrwyddo ac annog llesiant staff
•Cynorthwyo’r tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt
•Bod yn ymwybodol o sut y mae systemau’r tîm yn gweithio a hwyluso i’w herio ple bo’r angen
•Sicrhau fod y tîm yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill sy’n ceisio cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
•Hyrwyddo’r angen i adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol gan gynnwys camau ataliol
•Sicrhau ymwybyddiaeth o’r hinsawdd gyfreithiol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y gwasanaeth gan sicrhau fod aelodau’r tîm yn ymwybodol o’r elfennau angenrheidiol.
•Bod yn fyw i ymarfer da o fewn y maes gwasanaeth a sicrhau fod y tîm yn ystyried priodoldeb yr ymarfer da hwnnw iddynt hwy.
•Arwain newid o fewn y maes gwasanaeth lle mae angen gwneud hynny
•Ymdrin gyda phryderon a godir gan Aelodau Etholedig ynglŷn â’r Gwasanaeth.
GALLUOGI A GRYMUSO
•Recriwtio a datblygu unigolion a thimau i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rolau sydd eu hangen rwan ac i’r dyfodol
•Arfogi’r tîm i sefydlu beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd a thrwy hynny sefydlu pwrpas y tîm a’i gadw’n gyfredol
•Sicrhau fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
•Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad
•Creu a chynnal awyrgylch sy’n galluogi pob aelod o’r tîm i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib
•Sicrhau awyrgylch o ymddiriedaeth ac atebolrwydd o fewn y tîm gan sicrhau cyfathrebu priodol gyda ac o fewn y tîm.CYFLAWNI
•Arfogi’r tîm i ystyried pa fesurau sy’n dangos perfformiad yn erbyn y pwrpas ac i berchnogi’r mesurau hynny
•Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad
•Cymell a/neu mentora y tîm i adnabod a gweithredu’n amserol er mwyn dileu rhwystrau sy'n atal y gallu i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
•Datrys unrhyw rwystrau na all y tîm eu datrys
•Sicrhau fod cwynion yn derbyn sylw priodol a bod y tîm yn ystyried unrhyw wersi sy’n codi er mwyn gwella gwasanaeth.
•Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau isod gan sicrhau bod staff yr Adran yn cael eu datblygu i arddangos yr un nodweddion.HUNAN ADLEWYRCHU - ar gyflawniad personol yr hyn sydd yn y swydd-ddisgrifiad.
MEYSYDD PENODOL Y SWYDD
•Meddu ar, a chynnal gwybodaeth arbenigol yn y maes dysgu a datblygu, a datblygu’r sefydliad
•Arwain tîm sy’n gweithredu yn y disgyblaethau meysydd dysgu a datblygu sefydliad a gwella gwasanaeth
•Cynrychioli’r Adran a’r Cyngor mewn fforymau mewnol, rhanbarthol a chenedlaethol yn y meysydd arbenigol
•Darparu cyngor arbenigol i unigolion/ timau/Gwasanaethau/Adrannau
•Arwain ffrydiau gwaith / strategaethau corfforaethol yn y maes Dysgu a Datblygu’r Sefydliad
•Cynnig syniadau creadigol, a datblygu dulliau arloesol i brosiectau lefel uchel sy’n ymwneud a newid diwylliant
•Arwain / rheoli prosiectau a llunio strategaethau ar lefel blaenoriaeth corfforaethol.
•Cyfrannu at amrediad o brosiectau e.e. Datblygu Talent, Prentisiaethau, MoDS
•Llunio a gweithredu strategaethau newydd i gefnogi datblygiad staff a’r sefydliad
•Datblygu rhaglen hyfforddiant gorfforaethol gynhwysfawr ac arloesol ynghyd â chyflwyno rhai teitlau hyfforddiant
•Cyfrannu’n ymarferol at ddulliau dysgu eraill megis Cymhelliant
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-