Pwrpas y swydd
Mae’r swydd wedi ei lleoli o fewn Trothwy
Mae’r tim yn sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
Mae'r tîm yn gweithio mewn amgylchiadau er mwyn:
•Atal plentyn rhag mynd i ofal oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.
•Dychwelyd plentyn adref o fewn yr 8 wythnos gyntaf o fynd i ofal.
•Dychwelyd plentyn adref os yw hi'n ddiogel gwneud hynny.
Pwrpas y swydd yma yw i ail asesu sefyllfa’r teulu: Os yw’r plentyn wedi cael ei leoli gyda’i rieni am flwyddyn neu fwy, bydd angen ystyried os yw’r lleoliad yn mynd yn dda, os yw’r rhieni yn cydweithio a gweithio mewn partneriaeth gyda’r adran, os yw’r plentyn yn dal i barhau o fod yn debygol o ddioddef niwed arwyddocaol, ac a ddylai cais gael ei wneud i’r llys i amrwyio neu ddiddymu’r gorchymun llys.
I weithio gyda phlant a’u teuluoedd yn unol a’r Ddeddf Plant 1989, Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a Fframwaith Asesu Plant Mewn Angen a’u teuluoedd, a Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant (Cymru) 2014.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Laptop a ffon symudol
Prif ddyletswyddau
Click here to enter text.
1.I gwblhau gwaith uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a gofalwyr gan ddefnyddio ymyraethau sydd yn seiliedig ar ganlyniadau a thystiolaeth.
2.Sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud ynghyd a deddfwriaethau, polisi, chanllawiau cyfredol, ac ymarfer da. I gyfrannu a datblygu tuag at ffyrdd newydd o weithio a ymyraethau.
3.I weithio mewn modd sydd yn hybu lles plant sydd mewn gofal i’r Cyngor Sir.
4.I’r plant sydd ar sydd ar rheoliadau gyda’ rhieni, bydd angen sicrhau gwneud ymweliadau statudol, mynychu cyfarfodydd statudol fel yr angen. Gweithio gyda’r plant a’i teuluoedd er mwyn paratoi ar gyfer diddymu y gorchmynion gofal ble ceir ei ystyried er lles y plentyn.
5.Ymgynghori gyda’r adran gyfreithiol, ysgrifennu adroddiadau llys a gwneud ceisiadau i ddiddymu gorchmynion gofal i orchmynion llai ble’n addas. Mynychu gwrandawiadau llys a rhoi tystiolaeth yn yr achos llys.
6.Defnyddio'r amrywiaeth o declynnau asesu a ddefnyddir yn eich ardal i gasglu gwybodaeth gan y teulu a'r gweithwyr proffesiynol sydd ynghlwm er mwyn hysbysu’r asesiad teulu holistaidd ar gyfer y teulu cyfan.
7.Casglu gwybodaeth ac adnabod cryfderau, nodau ac adnoddau gyda pob aelod teulu am y teulu cyfan er mwyn creu cynllun gofal a chefnogaeth i’r teulu sydd yn mynd i gyfarch anghenion y plant/plentyn.
8.I gynnig gwasanaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a’r gymuned yn unol a chanllawiau cyfreithiol sydd yn cyd fynd gyda gofal plant, gan gynnwys amddiffyn plant ac asesu gofal a chefnogaeth.
9.Yn unol a sgiliau a phrofiad, i ddelio ag achosion mwy cymhelth eu natur gan gynnwys rhai ble mae plant mewn perygl. I gymryd rhan mewn achosion llys gan gynnwys rhoi tystiolaeth a pharatoi adroddiadau.
10.Asesu angen a rhoi cefnogaeth i deuluoedd mewn angen. Golyga hyn gydlynnu gwaith gweithwyr o asiantaethau eraill gan ddefnyddio adnoddau yr adran a’r gymuned mewn modd hyblyg.
11.I fod yn rhan o sustem ddyletswydd y tim a’r swyddfa rhanbarth fel bo’r angen.
12.I gydlynnu a phroffesiynau eraill sydd yn gweithio a phlant.
13.I gyfrannu at ddatblygu ffurfiau newydd o waith neu wasanaeth.
14.I gyfrannu at ddatblygiad cydweithwyr ym maes plant ac mewn arbenigeddau eraill os oes angen.
15.Yn dibynnu ar brofiad a chymhwyster, I arolygu myfyrwyr.
16.I gwbwlhau’r canllawiau/gofynion gweinydddol angenrheidiol yn unol a chanllawiau, polisiau ac ymarfer.
17.I fynychu sesiynau hyfforddi gan anelu at wella sgiliau/ymarfer.
18.I helpu cydweithwyr i gario allan eu dyletswyddau. Yn achlysurol, bydd gofyn cydweithio a gweithwyr eraill yn y timau/asiantaethau eraill yn ogystal a chyfrio gwaith cydweithwyr sydd yn absennol.
19.Mewn amgylchiadau eithriadol, i ymgymryd a chyfrifoldebau er mwyn ymateb i sefyllfa o argyfwng.
20.Unrhyw ddyletswydd neu gyfrifoldeb rhesymol fel y bydd angen gan bennaeth y gwasanaeth.
Bod yn ymwybodol o ofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Gyfadran I sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda’r gofynion Iechyd a Diogelwch perthnasol.
Mae’r Cyngor yn gweithredu rhaglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol ynghyd a phroses Gwerthuso sydd yn cyfrannu tuag at hyn, disgwylir I deilydd y swydd cydymffurfio a hyn.
Rhestr ddarluniol yn unig yw hon. Disgwylir I ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd a gweithredu ar unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â natur y swydd a’I graddfa yn unol â chais y Pennaeth Gwasanaeth/Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr Strategol
Amgylchiadau arbennig
Gweithio o fewn fframwaith hyblyg i fodloni gofynion y gwasanaeth y tu allan i'r oriau 9 tan 5 arferol pan fo angen.