Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu mynediad a goruwchwylio’r safle , paratoi gofodau a dyletswyddau gofalwr
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•-
Prif ddyletswyddau
•Bod ar gael i agor a chau'r adeilad yn ôl yr amserlen.
•Bod yn gyswllt bwynt ar gyfer llogi’r adeilad/ gofodau/lawnt gan gydgordio a phrosesu’r archebion a’r taliadau
•Cynorthwyo’r cydlynydd gyda gweinyddiaeth Storiel
•Glanhau a thacluso'r adeilad a’i gofodau yn unol â chynllun gwaith ac amserlen benodol gan gadw golwg ar y safle yn rheolaidd yn ystod y dydd
•Paratoi a chlirio gofodau ar gyfer gweithgareddau, cyfarfodydd , lluniaeth yn ol rhaglen y dydd ayyb
•Goruchwylio’r dderbynfa a’r siop yn ôl yr angen
•Cyfarch a rhoi croeso i’r cyhoedd gan gynnwys grwpiau amrywiol fel ysgolion ayyb
•Hyrwyddo gwaith y safle gan ymdrin ag ymholiadau llafar ac ar y ffon gan ymwelwyr
•Cynorthwyo gyda’r gwaith o hyrwyddo Gwynedd fel cyrchfan i ymwelwyr.
•Gwerthu cynnyrch o’r siop gan gadw cyfrifon sylfaenol a derbyn arian o werthiannau
•Derbyn rhoddion i’r amgueddfa a’r oriel.
•Cynorthwyo gyda’r arddangosfeydd e.e cludo arddangosfeydd yn ôl yr angen
•Lleolir y swydd yn Storiel ond gellir o dro i dro ail leoli i gynorthwyo yn sefydliadau eraill y Gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Oriau craidd 8.30yb-5.30yh gydag oriau amrywiol yn seiliedig ar ofynion agor a chau rhwng 7yb-11yh yn ôl yr angen gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc yn ôl y galw.
•Mae hon yn swydd sydd yn cael ei rhannu gydag eraill ac yn dilyn trefn shifftiau ac ar rota.
•Rydym fel arfer ar agor i’r cyhoedd Mawrth- Sadwrn 11-5 efo rhai yn llogi ayyb ar ddydd Llun.
•Mae’r Cyngor yn fodlon ystyried hyblygrwydd ar gyfer oriau wythnosol y swydd hon..