Pwrpas y swydd
•Adolygu trefniadaeth Cyngor Gwynedd ar les meddyliol a straen yn y gweithle/cyhyrsgerbydol yn gorfforaethol, a’n lleol o fewn Gwasanaethau. Datblygu ffrwd gwaith ar y strategaeth bresennol sy’n seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf ac ymarfer da yn y maes, gyda’r bwriad o gael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant staff ac yn ei dro lefelau absenoldebau y Cyngor.
•Cynorthwyo i ddatblygu rhaglen ledled Cyngor Gwynedd i gyflwyno system gyfrifiadurol newydd ar gyfer y Tîm Iechyd, Diogelwch a Llesiant.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Ymchwilio ymarfer da a’r datblygiadau diweddaraf yn y maes rheoli straen a lles meddyliol yn y gweithle.
•Datblygu rhaglen rheoli straen / lles meddyliol o fewn y Cyngor, ar lefel gorfforaethol, yn ogystal â strategaethau lleol gyda thimau unigol.
•Cydweithio gyda swyddogion yr Uned Iechyd Galwedigaethol i ddylunio rhaglen hybu iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth. Sefydlu trefn ar gyfer mesur effaith y rhaglen honno, gan gynnwys adborth o holiadur Llesiant Staff y Cyngor.
•Cynnal sesiynau hyfforddiant I-Act a/neu gweithdai gyda staff a rheolwyr ar faterion yn ymwneud a straen / lles meddyliol / system gyfrifiadurol iechyd a diogelwch.
•Gwneud cyflwyniadau i dimau rheoli ar faterion rheoli straen / lles meddyliol / system gyfrifiadurol iechyd a diogelwch.
•Cynorthwyo rheolwyr i fod yn dehongli ystadegau absenoldebau salwch straen yn gorfforaethol ac o fewn gwasanaethau unigol, gan lunio adroddiadau.
•Cynhyrchu pecynnau gwybodaeth ac adnoddau i staff a rheolwyr am straen / lles meddyliol.
•Cydweithio gyda sefydliadau allanol e.e. Iechyd Cyhoeddus Cymru a Mind Cymru ar faterion lles meddyliol, er mwyn adnabod unrhyw ymarfer da / gorau a ellir ei roi ar waith.
•Cyfrannu at adolygiad o ddogfennaeth gyfredol y Cyngor e.e. polisi lles meddyliol, asesiad risg straen, cyfarwyddiadau system gyfrifiadurol iechyd a diogelwch.
•Mynychu a chyfrannau at unrhyw gyfarfodydd perthnasol ar gyfer ymchwil a / neu sefydlu trefniadau newydd.
•Cydweithio gyda’r Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth i greu rhaglen waith er mwyn cyflwyno system gyfrifiadurol newydd ar draws y Cyngor.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-