Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Bydd Swyddog Cyswllt Cyfranogwyr Cymunedau am Waith a Mwy yn gweithio o fewn Tîm Darparu Lleol Cymunedau am Waith a Mwy (C4W). Bydd y Swyddog Gwybodaeth a Cyfathrebu yn gweithio'n agos â grwpiau cymuned ac unigolion lleol i godi proffil ac ymwybyddiaeth o’r rhaglen, yn creu cyfleoedd i ganfod cyfranogwyr newydd, yn ymgysylltu â'r cyfranogwyr hynny ac yn eu cofrestru ar rhaglenni Cymunedau am Waith a Cymunedau am Waith a Mwy, yn ogystal â casglu a rhannu gwybodaeth am y rhaglenni cyflogadwyedd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllidebau penodol wedi’u clustnodi i’r prosiect
• Offer personol (offer TG, ffôn symudol, ac ati)
Prif Ddyletswyddau.
• I weithio ar y cyd gyda thîm darparu lleol Gwaith Gwynedd ar ddatblygiad a gweithrediad parhaus C4W+ yng Ngwynedd.
• Ymgysylltu ag unigolion a grwpiau mewn ystod o leoliadau cymunedol.
• Canfod grwpiau cymunedol sydd eisoes yn weithredol yn yr ardal, sefydlu partneriaethau a pherthnasau gwaith cryf â’r grwpiau hynny a gweithio gyda rhaglenni eraill.
• Cefnogi a chymryd rhan yn narpariaeth gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol gyda’r nod o ymgysylltu â chyfranogwyr newydd ar gyfer y rhaglen.
• Hyrwyddo’r gefnogaeth sydd ar gael drwy’r Rhaglen i greu cysylltiadau.
• Cefnogi ystod eang o ymyriadau i gyfranogwyr a fydd o gymorth iddynt wella eu rhagolygon gwaith.
• Canfod a threfnu hyfforddiant a gweithgareddau cynyddu gallu ar gyfer cyfranogwyr fel y bo’n briodol, o fewn y gyllideb a ddiffiniwyd yng nghanllaw’r Rhaglen.
• Cynorthwyo’r Cyfranogwyr â chael mynediad at gyfleoedd hyfforddi ffurfiol ac anffurfiol, ar wahân i’r rheiny sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol gan y rhaglen.
• Monitro, coladu a diweddaru gwybodaeth rheoli perfformiad, adroddiadau a gofynion monitro eraill yn gyson, er mwyn sicrhau bod holl wybodaeth yn gywir ac yn cydymffurfio.
• I chwarae rhan yn y broses Triage o fewn Gwynedd a sicrhau y ceir mynediad at y gefnogaeth berthnasol a'i bod ar gael i’r cleient.
• Sicrhau bod yr holl ddata personol yn cael ei drin a’i warchod yn effeithiol, o fewn protocolau. Rhannu Gwybodaeth y cytunwyd arnynt yn lleol.
• Gweithio fel tîm integredig o fewn Gwaith Gwynedd.
• Cymryd rhan yng ngweithgarwch datblygu rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru.
• Cyflawni tasgau a chyfrifoldebau eraill tebyg fel y’u pennwyd o dro i dro gan y rheolwr yng nghyswllt rhediad esmwyth y gwasanaeth.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Disgwylir i ddeilydd y swydd weithio gyda’r nos a phenwythnosau ambell waith
• Dylai deilydd y swydd fod yn berchen ar drwydded yrru llawn a hefyd bod â mynediad i gerbyd preifat