Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cyfrannu fel aelod o dîm at ddarparu rhaglen ffitrwyddllwyddiannus ar draws nifer o ganolfannau cwmni Byw’n Iach.
•Sicrhau fod y rhaglen yn cwrdd â gofynion trigolion o ran ansawdd.
•Sicrhau fod y rhaglen yn gweithredu mewn modd sydd yn effeithiol ac yn gynaliadwy i’r cwmni.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer Chwaraeon a Ffitrwydd – sicrhau ei fod yn saff ac yn addas ar gyfer ei ddefnyddio cyn a trwy gydol pob sesiwn
•Cyllid- Gwirio fod y nifer sydd yn mynychu gweithgareddau yn cyd-fynd gyda cofnodion system Gladstone o ran taliadau a llogiadau.
•Systemau- defnydd addas o offer a meddalwedd perthnasol (e.e. Pulse / Learn 2/ Gladstone)
•Staff- mentora a goruchwylio staff achlysurol, staff newydd, prentisiaid neu wirfoddolwyr yn ystod sesiynau ymarferol
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau Iechyd a diogelwch y defnyddwyr sydd yn mynychu dosbarthiadau chwaraeon/ rhaglenni hyfforddi personol gan gynnwys cwblhau asesiadau risg.
•Cyfrannu at y gwaith o gynllunio ac adolygu’r rhaglen ar draws nifer o ganolfannau Byw’n Iach
•Cynllunio ac arwain amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ffitrwydda sesiynau unigol ar gyfer cwsmeriaid Cwmni Byw’n Iach. Gall y rhain cynnwys sesiynau ymarferol pur neu sesiynau sydd yn ymwneud a hybu dealltwriaeth o iechyd a lles.
•Cynllunio rhaglenni a chynnal sesiynau nol yr angen oddi ar safleoedd Byw’n Iach ar gais cwsmeriaid. E.e. ar safle ysgolion lleol i grwpiau o ddisgyblion
•Cynnal Asesiadau sydd yn berthnasol i’r maes a dyfarnu gwobrau/ tystysgrifau ble mae hynny’n berthnasol
•Creu adnoddau perthnasol yn y maes sydd ar gyfer defnydd y tîm neu i bwrpas hyrwyddo e.e. cynlluniau sesiwn, adnoddau addysgol, adnoddau ar gyfer y rhaglen, astudiaethau achos, fideos, blogs
•Cyfrannu tuag at drefnu digwyddiadau arbennig yn eich maes e.e. Cystadlaethau, Cyrsiau, Gwyliau , Diwrnodiau Agored ayb; gan hefyd gwblhau asesiadau risg priodol.
•Cydweithio’n agos gyda swyddogion marchnata'r cwmni er mwyn hybu a hysbysebu gweithgareddau ffitrwydd.
•Cynghori rheolwyr o ran anghenion offer ar gyfer gweithgareddau’r rhaglen
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cwmni.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cwmni yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cwmni. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cwmni yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl troed carbon y Cwmni.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam drin.
•Cynnal Sesiynau Anwythiad i Ystafelloedd ffitrwydd y cwmni ar gyfer aelodau, sydd yn cynnwys cyflwyniad i system meddalwedd yr offer ffitrwydd.
Amgylchiadau arbennig
Bydd disgwyl i weithio tu allan i oriau swyddfa arferol yn rhan o ofynion sylfaenol y swydd e.e. gyda’r nos ac ar benwythnosau.Bydd hefyd diswyl gweithio ar sawl safel wahanol.