Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Ymgymryd â goruchwyliaeth y disgyblion yn ystod y cyfnod brecwast.
• Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Prif Ddyletswyddau.
• Bod yn bresennol ar dir yr ysgol yn ystod y cyfnod brecwast.
• Cynorthwyo i osod y byrddau a’r meinciau a sicrhau eu bod yn cael eu cadw wedyn a bod y neuadd/
ystafell fwyta yn lân a destlus cyn amser gwersi/gwasanaeth boreol.
Sicrhau fod y plant yn dod i mewn a gadael y ffreutur/Neuadd mewn modd rheoledig a thawel
• Cynorthwyo’n gyffredinol wrth i’r brecwast gael ei weini.
• Arolygu a sicrhau disgyblaeth ymhlith disgyblion cyn, yn ystod ac ar ôl brecwast yn cynnwys arolygu yn y
neuadd/ystafell fwyta.
• Annog cwrteisi a moesau da, gan gynorthwyo lle bo angen.
• Sicrhau bod disgyblion dan arolygaeth gydol yr amser brecwast a’r amser gofal cyn-ysgol.
• Yn achos babanod, bydd y dyletswyddau’n cynnwys cludo’r brecwast i’r disgyblion (oni wnaed trefniadau
eraill gan y Pennaeth) gan dorri tost ayb, eu hyfforddi i ddefnyddio llwyau os oes angen.
• Cwblhau cofrestr presenoldeb ar gyfer brecwast (PY44) yn ddyddiol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir
yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.