Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd Mon yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar i gefnogi plant sydd ag ADY.
• Sicrhau gweithrediad yn y maes Blynyddoedd Cynnar drwy’r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth.
• Byddent yn cyflawni hyn drwy:
Dysgu a gweithredu strategaethau cytunedig o fewn y Gwasanaeth
Dreulio cyfnodau yn y lleoliadau yn arsylwi, modelu a monitro
Cyd weithio gyda tim bach o Gymorthyddion Arbenigol a Chymorthyddion o fewn y
y lleoliadau blynyddoedd cynnar
Cefnogi lleoliadau Blynyddoedd Cynnar ar ffurf hyfforddiant ac Adnoddau parod
• Gweithredu yn unol a chanllawiau Diogelu cadarn
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyd weithio efo’r Swyddog Arweiniol y Blynyddoedd Cynnar i gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar a rhieni
• Cynorthwyo’r Swyddog Arweiniol y Blynyddoedd Cynnar wrth gyd weithio efo’r cymorthyddion arbenigol
• Cyd weithio gyda tîm o Gymorthyddion Arbenigol a chymorthyddion
• Cyd weithio efo’r Swyddog Arweiniol y Blynyddoedd Cynnar)i gynllunio llyfrgell o adnoddau gwahaniaethol
• Gliniadur a ffôn symudol
2 Prif Ddyletswyddau.
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol a darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y dogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
• Ymgymryd a’r rôl ‘Cydlynydd dynodedig’ i gydlynu achosion a gweithredu’n unol â’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol
• Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
• Cyfrannu at gynlluniau strategol lleoliadau blynyddoedd cynnar ym maes Blynyddoedd Cynnar, ac ADY yn gyffredinol.
• Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy gymryd weithredu strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol;.
• Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau.
• Cydweithio gyda lleoliadau blynyddoedd cynnar ar gyfer datblygu'r awyrgylch cyfathrebu gyfeillgar o fewn y lleoliad
• Cyfrannu at drafodaeth a phenderfyniadau'r Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.
• Cyfrifoldeb am hunan reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu achosion
• Gweithredu ac addasu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer l lleoliadau blynyddoedd cynnar a rhieni yn y maes anghenion Blynyddoedd Cynnar.
• Cyfrannu at ddatblygu rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo lleoliadau blynyddoedd cynnar a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o ADY yn y maes Blynyddoedd Cynnar.
• Cyd weithio’n agos â'r Uwch Seicolegydd Addysgol Blynyddoedd Cynnar i weithredu strategaethau cytunedig ar lefel lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori ynglŷn â’r llwyth gwaith, gweithredu rhaglenni hyfforddiant, strategaethau ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar
• Ymgynghori yn rheolaidd gyda’r Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau fod gwybdoaeth gyfredol ynglyn a chynnydd y plant, ac anghenion yr Ardal o ran Ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei gyfathrebu.
• Sicrhau arweiniad gweithredol clir i staff lleoliadau blynyddoedd cynnar Cyd weithio gyda’r holl dîm Integredig o fewn y Gwasanaeth ADYaCh.
• Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
• Paratoi adroddiadau ar gynnydd yn erbyn meini prawf cytunedig.
• Sicrhau fod y Meini Prawf yn wybyddus i bawb ac yn cael eu gweithredu’n gyson yn ein lleoliadau blynyddoedd cynnar
• Sicrhau fod y bas data o’r disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y Gwasanaeth yn gyfredol.
• Sicrhau gweithrediad yn unol ag argymhellion y Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.
• Cymryd rhan, yn ôl yr angen, mewn prosesau sy’n adolygu, monitro a datblygu'r Gwasanaeth ADYach yn y Blynyddoedd Cynnar
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• AA•
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.