Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cefnogi gyda chael trefn ar ddata ac gweithdrefnau y gwasanaethau gofal, fel eu bod yn gallu cyfarch gofynnion AGC a’r ddeddf rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru (2016)
•Cefnogi Rheolwyr Cofrestredig, Rheolwyr Ardal a’r Unigolion Cofrestredig yn y dyletswyddau gweinyddol
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Sicrhau defnydd priodol o eiddo a gwneud defnydd priodol o offer.
•Sicrhau cadw i drefniadau cyllidebol y gwasanethau.
Prif ddyletswyddau
CEFNOGI’R UNIGOLION SY’N DEFNYDDIO’R GWASANAETH
•Datblygu trefniadau a gweithdrefnau i’r gwasanaethau gofal fel eu bod yn gallu cyfarch gofynion ACG a’r ddeddf rheoliddio ac Arolygu Gofal cymdeithasol Cymru 2016)
•Cydweithio gyda’r tîm Rheoli yn y gwasanaetau gofal fel eu bod yn gallu cyfarch agofynion ACG a gofynion y Cyngor
•Casglu a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer adroddiadau ar gfyer y gwasanaeth ac AGC ar gais y tîm rheoli/rheolwr ardal
•Cyd weithio ar gynhyrchu a’i gadw yn gyfredol y Datganiadau o Ddiben, callaw i’r unigolion, , a’r adroddiadau 6 misol. Bydd rhain yn bwydo i mewn i’r datganiadau blynyddol gan AGC.
•Datblygu systemau ar i-Gwynedd fydd yn adrodd ar berfformiad y gwasanaeth ac yn bwydo i mewn i system casglu wybodaeth y gwasaneth
•Bod yn ran o ddatlbygiad a phrosesau fydd yn gwella effeithiolrwydd y gwasanaethgydag meddalwedd a systemau IT newydd,
•I allu hyfforddi ag mentora staff a rheolwyr gyda’r systemau newydd
•Cyfrannu at ddatlbygiad rheolwyr ag staff gyda prosesau TG gan gefnogi diwylliant ddi bapur.
•Bod yn barod i helpu gyda phroblemau TG a chyslltu gyda’r adrannau perthasol.
•Cyfrannu at y broses monitro, cynllunio a gweithredu trefniadau tasgau rheolaethol y cartrefi.
Bod yn gyfrifol am gynnal gwaith gweinyddol sy’n berthnasol i’r rôl megis:
•Cwblhau data ar lein
•Prosesu archebion ac anfonebau.
•Cadw trosolwg o’r costau a’r cyllid i hwyluso rheolaeth ariannol gadarn o’r gwasanaethau unigol.
•Gwybodaeth defnyddiwr gwasanaeth.
•Arian Imprest
•Trefniadau bancio
•Cwblhau’r Occupancy /Returns
•Gwirio arian parod Defnyddwyr Gwasanaeth
•Cadw cyfrif stoc y cartref
•Arceifio hen ffeiliau a dogfennaeth y gwasaneth
•Cadw cofnod gwyliau a gwybodaeth ffeiliau personol staff.
•Salwch staff
•Amserlenni staff
•Trefn penodiadau newydd TR139/ Dbs/ Geirda
•Amserlenni gwaith
•Trefnu hyfforddiant a cadw’r matrics hyfforddiant yn gyfredol.
•Cynorthwyo gydag pharatoi pecynnau ar gyfer penodi ag anwytho staff newydd gan sicrhau bod dadleniad DBS cyfredol a phriodol yn cael ei gwblhau ac adnewyddu ymhob achos.
•Cefnogi gyda cynllunio rotas a threfniadau yn y cartref mewn argyfwng.
•Cymffurfio a chanllawiau a pholisïau ariannol y Cyngor.
•Gweithio gyda phobl i helpu a nodi rhwystrau i gyflawni eu canlyniadau a defnyddio gwybodaeth i drafod gyda rheolwyr y gwasanaethau , rhoi newid ar waith a dysgu o brofiad.
•Bod yn flaengar ac yn barod i wneud penderfyniadau gwybodus yn annibynnol, tra hefyd yn cymhwyso barn broffesiynol a gwybod pryd i ddenu cefnogaeth gan y tîm ehangach a phroffesiynau eraill.
CYFATHREBU A PHERTHNASAU
•Gweithio yn agos gyda’r rheolwyr a’i timau â chydweithwyr o wasanaethau eraill, adrannau eraill, cwsmeriaid a chwmnïau fydd yn cefnogi gweithrediad effeithiol y cartref.
•Derbyn a rannu gwybodaeth yn gywir ac yn briodol.
•Cefnogi gyda chofnodi trefniadau absenoldebau salwch staff yn unol a polisiau’r gwasanaeth ac adnoddau Dynol.
•Mynychu a chefnogi gyda chofnodion cyfarfodydd tîm a staff.
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Ymrwymo i ddilyn ei raglen hyfforddi ei hun yn unol â'r gofynion cenedlaethol, a derbyn cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaol.
•Bod â meddylfryd sy’n agored i ddysgu yn barhaus ac awydd i ddatblygu yn broffesiynol oddi fewn y maes iechyd a gofal.
•Mynychu a chyfrannu tuag at weithgareddau adeiladol megis goruchwyliaeth a chyfarfodydd tîm sy’n cefnogi meddylfryd a wella a datblygu y gwasanaeth a llesiant staff.
DIOGELU
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
POLISÏAU
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
ARALL
•Dilyn egwyddorion Ffordd Gwynedd.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
•Bydd angen mynd trwy brosesau'r Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio
•Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth i gefnogi argyfyngau . Gall bod oriau anghymdeithasol