Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Gweithredu fel cynghorydd ar holl faterion iechyd, diogelwch a lles yn y man gwaith ac i sicrhau cydymffurfiad a’r holl ddeddfwriaeth a pholisïau iechyd a diogelwch perthnasol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb rheolaeth llinell am Swyddog Iechyd, Diogelwch a Lles (Ysgolion)
Prif ddyletswyddau
•I gynghori Penaethiaid Adran ar iechyd a diogelwch gan gynnwys hyrwyddo ymarfer da, canfod peryglon, adnabod cyfrifoldebau iechyd a diogelwch ac anghenion hyfforddiant.
•Cydweithio i lunio swyddogaeth iechyd a diogelwch corfforaethol (gan gynnwys cynllun gwella blynyddol ar gyfer y swyddogaeth iechyd a diogelwch) sy’n sicrhau cydymffurfiad â’r strategaeth iechyd a diogelwch corfforaethol.
•I gydweithio gyda penaethiaid adran a rheolwyr perthnasol i sicrhau swyddogaeth iechyd a diogelwch gan gynnwys unrhyw weithrediad sy’n deillio o’r cynllun gwella blynyddol ar gyfer y swyddogaeth iechyd a diogelwch
•I gydweithio gyda’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch a’r Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch eraill ar y gwaith o gyflwyno deddfwriaethau a pholisïau iechyd a diogelwch newydd.
•I gydweithio gyda penaethiaid gwasanaeth a rheolwyr perthnasol i gyflwyno deddfwriaethau a pholisïau iechyd a diogelwch newydd gan gynnwys creu polisïau a gweithdrefnau lle bo’n briodol.
•I gydweithio gyda’r Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch eraill i sefydlu system asesiadau risg ar gyfer y Cyngor a system o fonitro ei weithrediad.
•I gyflwyno’r system asesiadau risg gan gynnwys llunio templedi asesiadau risg safonol a cynorthwyo’r penaethiaid adran yn eu defnydd a monitro gweithrediad y system.
•I ymgymryd â’r gwaith o archwilio safon ac ansawdd systemau iechyd a diogelwch o fewn adrannau penodol.
•Cydweithio i lunio rhestr o fesuryddion perfformiad addas sy’n dangos effeithiolrwydd y swyddogaeth iechyd a diogelwch, i gyflwyno’r dangosyddion i adrannau penodol a’u monitro maes o law.
•I ddarparu gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys gwybodaeth ar fesuryddion perfformiad.
•Monitro iechyd, diogelwch a lles staff adrannau penodol a’i defnyddwyr, i adnabod tueddiadau ac i ddarparu adroddiadau gyda argymhellion addas.
•Cynorthwyo i gydgordio hyfforddiant iechyd a diogelwch ar gyfer monitro ei effeithiolrwydd/perthnasedd.
•Cydweithio lunio system addas o gadw cofnodion corfforaethol a statudol (fel sy’n ofynnol o dan Rheolau
•Cyflwyno Adroddiadau ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus 1995) o ddamweiniau, i wneud archwiliadau i ddamweiniau hysbyswyd i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chyflwyno adroddiadau lle bo’n berthnasol.
•Cynghori â llunio contractau gydag asiantaethau neu gontractwyr allanol a monitro eu gweithrediad o ran yr elfennau iechyd a diogelwch.
•I sicrhau bod y gwaith o fonitro amgylcheddol o ran llwch, sŵn, golau, lleithder a mygdarth naill ai fel rhan o drefn monitro arferol neu drwy gais yn cymryd lle.
•I gysylltu â Swyddogion Undebau Llafur a chynrychiolwyr y gweithwyr ar faterion iechyd a diogelwch perthnasol.
•I gyfrannu at adroddiad blynyddol iechyd a diogelwch.
•I gynorthwyo i sefydlu trefn ansawdd (megis BS 8800 neu ISO 9000) ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Angen i weithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol