Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Gyrru a llwytho cerbydau casglu ysbwriel ac ailgylchu.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau. .
Llwytho cerbydau casglu ysbwriel, ailgylchu, gwastraff gwyrdd, gwastraff masnachol a gwastraff clinigol yn unol a chyfarwyddiadau yn unol a’r rhaglen waith, cyfarwyddiadau a pholisiau perthnasol.
Tasg
• Casglu a llwytho cerbydau amrywiaeth o gerbydau casglu ysbwriel / ailgylchu. Adolygu ansawdd deunyddiau ailgylchu a’i sortio o flaen llaw.
• Casglu ysbwriel ac ailgylchu o nifer o leoliadau hynny i gynnwys gweithio mewn traffig byw, ardaloedd trefol, ardaloedd gwledig, ffyrdd cyflym a ffyrdd o fewn cyfyngiadau cyflymder cenedlaethol gyda’r effaith leiaf a llif y traffig.
• Defnydd o systemau / offer llwytho, gwasgu a gwagio’r cerbyd
• Cynorthwyo’r gyrrwr i symud y cerbyd yn ddiogel ar y gylchdaith ac yn y safle trosglwyddo. Ymgymryd â rôl cynorthwyydd bacio yn unol â gweithdrefnau gweithio yn ddiogel.
• Sicrhau fod aelodau o’r cyhoedd yn cadw pellter digonol oddi wrth y cerbyd casglu er mwyn lleihau risg.
• Cynorthwyo gyrrwr wrth gefn a’r symudiadau diogel y cerbyd i mewn i ardaloedd problemus.
• Sicrhau fod pob bin, bocs neu sach yn cael eu dychwelyd i’r pwynt casglu yn daclus. Hynny i gynnwys codi a chlirio unrhyw wastraff sydd wedi ei golli.
• Cynorthwyo gyda’r broses o anwytho staff, hynny i gynnwys mentora aelodau newydd o'r tîm.
• Ymateb i geisiadau am gasgliadau drws cefn yn cymryd i ystyriaeth unrhyw risgiau ychwanegol a wynebir.
• Trosglwyddo gwybodaeth gefndirol ynglŷn â chasgliadau drws cefn ymlaen i aelodau newydd o’r tîm.
• Cynorthwyo gyda dylunio cylchdeithiau sydd i gynnwys gweithredu cylchdeithiau newydd.
Iechyd a Diogelwch
• Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch eich hun, eich cydweithwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
• Gweithio yn unol â gweithdrefnau rheoli yn ddiogel, asesiadau risg, polisïau’r Cyngor un unol a chyfrifoldebau’r gweithiwr fel a nodi’r yn Neddf Iechyd a Diogelwch. Gwisgo siacedi llachar uchel, trowsus balistig, esgidiau diogelwch ac unrhyw ddillad diogelwch neu wisg berthnasol.
• Cymryd rhan mewn archwiliadau Iechyd a Diogelwch a BSI ac arddangos deallusrwydd o’r risgiau a chydymffurfiad.
• Adrodd a chynorthwyo gyda chwblhau adroddiadau damweiniau / digwyddiadau treisgar (ffurflenni HS11) yn ogystal â ffurflenni yswiriant.
• Cydymffurfio gyda rheolau, rheoliadau a chyfarwyddiadau penodol ar safleoedd trosglwyddo gwastraff.
Gofal Cwsmer
• Sicrhau'r lefel uchaf posibl o ofal cwsmer - Cysylltu yn hyderus a brwdfrydig gydag aelodau o’r cyhoedd a busnesau a chynghori ar bob agwedd ar faterion casglu ailgylchu ac ysbwriel. Hynny i gynnwys ymdrin â sefyllfaoedd anodd, chwsmeriaid blin a modurwyr.
• Cadw lefel stoc briodol o daflenni gwybodaeth a bagiau bwyd. Gosod sticeri ar finiau newydd neu finiau trwm, bocsys cymysg ayb ac adrodd yn nol i’r arweinydd tîm.
Adrodd a Chydymffurfio
• Ar ddiwedd y diwrnod gwaith, adrodd i’r arweinydd tîm / swyddogion gwastraff masnachol, unrhyw faterion neu broblemau casglu sydd wedi codi.
• Cydymffurfio gyda phob polisi a gweithdrefn fewnol mewn perthynas ag adrodd ar salwch a cheisiadau am wyliau blynyddol.
Corfforaethol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Bydd y Gwasanaeth Casglu Gwastraff yn gweithio ar bob gwyl y banc a bydd disgwyl i chi weithio ar y diwrnodau hynny. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio gor-amser hefyd o dro i dro.
Mae’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff wedi ei adnabod fel gwasanaeth rheng flaen blaenoriaeth un. Bydd gweithdrefnau gweithio yn ddiogel mewn lle er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth.