NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Un sy’n rhoi sylw i fanylion.
• Gwydnwch a’r penderfyniad i lwyddo
• Un sy’n gallu blaenoriaethu gwaith ac i gwrdd â therfynau amser penodol.
• Yn berchen ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
• Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda chwsmeriaid, staff a rhandaliad mewn iaith glir, gywir a hawdd ei deall, yn ysgrifenedig ac ar lafar
• Yn berchen ar sgiliau trefnu effeithiol
• Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac i adeiladu a chynnal perthnasau effeithiol gyda rhandaliad a phartneriaid
• Y gallu i weithio’n annibynnol
• Y gallu i ymdopi gyda llawer o ffynonellau gwybodaeth a pharatoi adroddiadau cryno a chytbwys ar gyfer swyddogion uwch
• Y gallu i werthuso gwaith a dysgu o brofiadau blaenorol
• Yn berchen ar drwydded yrru ac yn meddu ar gar neu’n medru darparu car ar gyfer busnes sy’n gysylltiedig â’r swydd
DYMUNOL
• Un sy’n gallu arwain a hyfforddi.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gradd a/neu gymhwyster proffesiynol neu gymhwyster perthnasol ar gyfer y rôl.
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus.
DYMUNOL
-
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad o ddatblygu fframweithiau a gweithdrefnau er mwyn cyflwyno gwell gwasanaeth.
• Profiad o fedru sefydlu a meithrin perthynas waith gyda phobl o adrannau, asiantaethau a sectorau eraill
• Profiad o reoli prosiectau o fewn gwasanaeth.
• Profiad o weithio i amserlenni tynn
• Profiad o sicrhau fod aelodau o dimau yn gweithio mewn modd effeithiol ac yn derbyn cefnogaeth berthnasol wrth gyflawni tasgau
• Profiad o gyflawni canlyniadau llwyddiannus
• Cefnogi mewn amryfal feysydd gwaith ar draws y Cyngor
• Llunio cofnodion a darparu arweiniad ysgrifenedig i eraill
DYMUNOL
• Profiad o weithio gydag a rheoli nifer o fudd-ddeiliaid.
• Profiad o reoli/cydlynnu prosiectau cymhleth ar draws gwasanaethau.
• Profiad o hyfforddi a / neu fentora.
• Profiad o gynghori, herio a dylanwadu ar lefel strategol mewn sefydliad cymhleth.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu tasgau a llwyth gwaith yn effeithiol
• Y gallu i gynrychioli’r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol
• Yn gallu ymdrin â chleientiaid heriol mewn modd cadarn ond teg
• Yn gallu cynllunio ac adolygu llwyth gwaith, cwrdd â therfynau amser a safonau perfformiad
• Dealltwriaeth gadarn o’r dimensiwn gwleidyddol oddi mewn y Cyngor
• Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth.
• Y gallu i gynllunio, monitro ac adrodd.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin pobl, ac ar bapur.
DYMUNOL
• Profiad o reoli pobl.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)