Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Darparu’r sgiliau angenrheidiol a datblygu, gweithredu, cynnal a chefnogi datrysiadau meddalwedd sy’n cwrdd ag amcanion busnes.
•Ar gyfer pob prosiect sicrhau y glynir wrth Fethodoleg Datblygu Sustemau Cyngor Gwynedd a sicrhau bod pob
pecyn gwaith yn cael ei gyflawni ar amser, o fewn y gyllideb ac yn unol âr fanyleb.
•Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleon ac arbedion effeithlonrwydd a gwell Gofal Cwsmer.
•Bod yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad parhaus isadeiledd TGCh y Cyngor.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Staff:
•Gall fod yn arweinydd technegol ar gyfer timau prosiect sy’n canolbwyntio ar dechnoleg.
•Bod yn fentor i raglenwyr/dadansoddwyr iau.
•Gall fod yn rheolwr llinell i raglenwyr/dadansoddwyr iau eraill.
Cyllid:
•Yn ymwybodol o strwythurau cyllidebol a chyfyngiadau prosiect/contract cefnogi.
•Archwilio mentrau bychain/canolig.
Data/Offer/Meddalwedd:
•Bod â mewnbwn i agweddau technegol prosiectau sydd ag effaith ar y Cyngor i gyd ac sy’n cael effaith
•uniongyrchol ar y cyhoedd (a gwneud penderfyniadau yn ei chylch).
•Rhoi cefnogaeth ar gyfer cymwysiadau sy’n hanfodol i waith beunyddiol y Cyngor a hefyd i gymwysiadau a
•ddefnyddir gan y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi problemau, eu datrys a’u hosgoi.
•Yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb data sy’n hanfodol i’r Cyngor.
•Cysylltu gyda phartïon allanol i ddatrys materion
•Sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol yn cael eu diweddaru pan fo newidiadau’n cael eu gwneud i bob elfen sy’n gysylltiedig â’r cymwysiadau.
Prif ddyletswyddau
Gwneud penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
•Rhoi cymorth technegol i eraill.
•Addysgu aelodau iau o staff yn rheolaidd a rhoi arweiniad iddynt.
•Rhoi mewnbwn i syniadau newydd/arbedion effeithlonrwydd ynghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau
•effeithlonrwydd, gwella gofal cwsmer neu greu cyfleon newydd o fewn eiswyddogaeth ei hun ac o fewn i’r
•prosiectau y mae’n gweithio arnynt ar hyn o bryd.
•Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau i sicrhau bod elfennau o brosiectau’n cael eu cwblhau ar amser, y tu mewn
•i’r gyllideb ac i’r safonau disgwyliedig.
•Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun er mwyn cyrraedd targedau.
•Mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch.
••Mewnbwn i bolisïau a gweithdrefnau, efallai y bydd gofyn iddo/iddi eu dogfennu
•Medru sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cyflawni gwaith prosiect a gwaith cefnogi pwysau mawr ac adhoc er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i sustemau TGCh y Cyngor.
•Mewnbwn i’r broses cynllunio busnes.
•Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformiad a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt.
Cyfathrebu:
•Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ledled y Cyngor i fyny at yr uwch reolwyr.
•Dogfennu gofynion defnyddwyr yn glir trwy gysylltu gyda defnyddwyr mewn cyfarfodydd a gweithdai.
•Datblygu manylebau cysyniadol a thechnegol.
•Paratoi a chyflwyno hyfforddiant i’r defnyddwyr.
•Cynrychioli’r adran TGCh mewn cyfarfodydd ar draws y Cyngor ac yn allanol o bryd i’w gilydd.
Arall:
•Medru datrys problemau mewn nifer o feysydd o arbenigedd.
•Gall fod yn ymgynghorydd i’r busnes er mwyn gwella cymwysiadau a datblygu rhai newydd.
•Gweithio ar sawl tasg yr un pryd.
•Yn gyfrifol am godio a dylunio.
•Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt.
Cyffredinol:
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf
•Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod
gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y
swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd gofyniad cytundebol i newid oriau/dyddiau gwaith yn unol a gofyn y gwasanaeth. Byddwch hefyd yn gorfod gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a bydd taliad am rhain unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Sir. Bydd galwadau brys yn destun trafodaeth benodol.