Swyddi ar lein
Technegydd Cyflogau Dros Dro
£24,496 - £26,845 y flwyddyn | Dros dro (cyfnod mamolaeth)
- Cyfeirnod personel:
- 23-25078
- Teitl swydd:
- Technegydd Cyflogau Dros Dro
- Adran:
- Cyllid
- Gwasanaeth:
- Cyflogau
- Dyddiad cau:
- 23/06/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro (cyfnod mamolaeth) | 37 Awr
- Cyflog:
- £24,496 - £26,845 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S1
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Swydd dros dro yw hon hyd at Awst, 2024
Ystyrir secondiad ar gyfer y swydd yma.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Martin Morris ar 01286 679119
Dyddiad cynnal cyfweliadau 07/07/2023
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 23 MEHEFIN, 2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
•Gallu gweithio o dan bwysau
•Gallu cwrdd â therfynau amser ansymudol
•Cydwybodol a dibynadwy gydag agwedd hyblyg ac addasadwy at y gwaith a’i ofynion
•Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Safon dda o gymwysterau addysgol.
Dymunol
•Cymhwyster mewn Cyflogau neu’r gallu i dangos cynnydd tuag at gyflawni cymhwyster
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Profiad eang o fewn y maes cyflogau yn benodol yn ymwneud a thaliadau statudol a didyniadau statudol.
Dymunol
•Profiad o ddelio gyda thelerau ac amodau gwaith llywodraeth leol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Gallu trefnu a blaenoriaethu gwaith
•Sgiliau cyfrifiadurol cyffredinol, gan gynnwys gwybodaeth am systemau Microsoft Office
Dymunol
•Y gallu i weithio heb reolaeth ond hefyd yn gyffyrddus yn gweithio fel aelod o dim.
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Mae deilydd y swydd yn gyfrifol am wirio a gwireddu’r holl ddogfennau sydd wedi eu derbyn yn y Swyddfa Cyflogau, gan gyfeirio’n ôl i’r ffynhonnell os oes angen a chywiro camgymeriadau ac anghysonderau ble mae hyn yn briodol. Hefyd cynorthwyo aelodau’r tîm i sicrhau fod mewnbyniadau yn cael eu gwneud i’r system ar unwaith ac yn gywir ac i gynhorthwy’r Goruchwyliwr Cyflogau i gynhyrchu’r taliadau cyflog. Rhaid bod a’r gallu i weithio heb arolygaeth ar y cyfan.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Cynorthwyo’r Goruchwyliwr Cyflogau ac Aelodau’r Tîm i sicrhau bod holl waith y tîm, ac os oes angen o dro i dro gwaith y timau eraill, wedi ei wneud yn unol a gofynion y Cyngor, i’r disgwyliadau a osodwyd gan Rheolwr Cyflogau ac at anghenion cyffredinol gweithwyr y Cyngor.
•Sefydlu a chynnal cofnodion llawn a chywir am y gweithwyr a fydd yn cyd-fynd ar sail sydd wedi eu sefydlu a’r wybodaeth sydd ar gael, sicrhau fod defnydd llawn yn cael ei wneud o’r cofnodion yma wrth wneud taliadau i’r gweithwyr a chwblhau adroddiadau a dychweliadau angenrheidiol sydd eu hangen gan yr Uned.
•Derbyn, gwireddu a mewnbynnu holl wybodaeth berthnasol ac awdurdodedig a dderbyniwyd gan rheolwyr a swyddfeydd allanol y Cyngor. Cyflawni holl brosesau gwirio allbwynt yn dilyn mewnbynnu a rhedeg cyflogres fel sydd wedi ei nodi yn y trefniadau cyflogres a phob dim sydd wedi ei gynnwys yn ad hoc o dro i dro.
•I ddatblygu a chynnal dealltwriaeth trwyadl o telerau gwaith y Cyngor, ac hefyd y polisiau galwedigaethol gyfredol sydd yn ymwneud a salwch, absenoldebau sydd yn ymwneud a phlant, absenoldebau di-dal, a sut mae’n rhaid cysidro rhain mewn cysylltiad a taliadau statudol briodol.
•I ddatblygu a chynnal dealltwriaeth manwl am cynlluniau statudol briodol – fel sydd yn cael eu datgan gan y llywodraeth yn ganolog – sydd yn ymwneud a chyfrifo a thalu yn ystod cyfnodau salwch, mamolaeth, tadolaeth, neu mabwysiadu (ac hefyd hawliau ychwanegol a cyfrannol, lle yn addas). I cynghori adrannau ac unigolion am eu hawliau ac oblygiadau yn ystod yr absenoldebau yma, ac i sicrhau bod unrhyw adrodd statudol ar yr eitemau yma yn cael ei gwblhau yn gywir ac yn amserol.
•Datblygu dealltwriaeth trwyadl am y rheolau a phrosesau sydd yn arddweud unrhyw didyniadau statudol o’r cyflog (sydd wedi eu ddiffinio, ar hyn o bryd, fel treth, Yswiriant gwladol, benthyciadau myfyrwyr, a gorchmynion llys) ac sut i gyfrifo rhain yn gywir.
•Sicrhau cydymffurfiad a deddfwriaeth “Auto Enrolment” sydd yn gorfodi i bob weithiwr cael eu asesu ar gyfer eu ymuno i fewn i cynllun pensiwn cymwys. Disgwylir y bod Technegydd gyda dealltwriaeth o’r meini prawf ar gyfer asesu, yn gweithredu’r asesiad ar yr adeg cywir, yn gweithredu yn unol a canlyniadau’r asesiad, yn sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd yn ymwneud a’r asesiadau yn cael ei mewnfwydo yn fanwl gywir i’r system cyflogau, a bod canlyniad yr asesiad yn cael ei gyfleu i’r gweithwyr yn y dull briodol ac o fewn terfyn amser penodol.
•Sicrhau bod cofnodion cyflogau a wybodaeth personol pellach yn bodoli o fewn y system er mwyn gallu cynhyrchu ffeiliau electronig i adrodd i CTheM ar gyfer pwrpasau Real Time Information (RTI). Unrhyw anghysondebau sydd yn cael eu amlygu wrth cynhyrchu adroddiadau yma yn cael eu wirio yn drylwyr a’i datrus er mwyn sicrhau bod wybodaeth cywir ac amserol yn cael ei cyflwyno i CTheM.
•Datblygu dealltwriaeth trwyadl o’r rheolau sydd yn ymwneud a’r cynlluniau pensiwn galwedigaethol sydd yn cael eu cynnig gan y Cyngor (sef y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol [CPLlL] a Cynllun Pensiwn Athrawon [CPA]). Asesu cofnodion unigolion, ac hefyd unrhyw newidiadau i’r cofnodion yma, er mwyn sicrhau bod aelodaeth o’r cynlluniau yma yn cael ei reoli yn unol a deddfwriaeth a bod holl didyniadau cyflog yn cael eu asesu ar y lefel cywir, yn cael eu cofnodi yn gywir o fewn y system cyflogau, ac eu bod yn cael eu adrodd yn gywir ac yn rheolaidd i’r corff rheoli benodol.
•Ennill a chadw’n gyfredol gwybodaeth weithiol trwyadl a dealltwriaeth am y defnydd a gweithrediad o’r systemau cyflogau a theithio a sicrhau bod y defnydd yma’n cydymffurfio gyda statud, anghenion y Cyngor, y Rheolwr Cyflogau a hawliau’r gweithwyr.
•Yn gyfrifol am hunan ddatblygiad ac i gynnal gwybodaeth cyfoes am amodau gwaith perthnasol, taliadau statudol a galwedigaethol, didyniadau statudol yn ogystal â gwybodaeth am y gyfraith sydd yn rheoli’r swyddogaethau yma a’r Deddf Diogelu Data 1998.
•Gwneud pob gweithgarwch ôl-cyflogres yn unol a’r trefniadau sydd wedi eu nodi ac unrhyw dasgau ad hoc sydd yn cael eu gorfodi o dro i dro. Hefyd sicrhau bod pob addasiad i gyflogresi blaenorol wedi eu trin yn gywir, bod blaendaliadau ac ad-daliadau wedi eu clirio o fewn yr amserlen sydd wedi ei gytuno a phob taflen rheolaeth wedi ei gwblhau’n gywir.
•Datblygu a chynnal perthynas gwaith da gyda’r swyddogion a rheolwyr perthnasol o fewn gwasanaethau’r Cyngor er mwyn datrys ymholiadau’n effeithiol a sicrhau prosesau cyflogau effeithlon ac amserol.
•Ymateb yn gyflawn ac yn gywir i holl ymholiadau a chwestiynau a ofynnwyd gan weithwyr neu eu cynrychiolwyr yn ymwneud â chyflogau unai ar y ffôn, cyfarfod wyneb yn wyneb, trwy e-bost neu unrhyw ohebiaeth arall. Yn ychwanegol bydd deiliad y swydd yn ymateb i bob gohebiaeth ac ymholiadau arall fel y maent yn codi ac o fewn y safonau sydd wedi eu cytuno. Medru penderfynu ar lefel yr ymholiad a’i gyfeirio at y goruchwyliwr cyflogau dim ond pryd mae hyn yn briodol.
•Hysbysu rheolaeth, yn gyfrinachol os oes rhaid, am unrhyw wall, gwybodaeth heb ei gynnwys, anghysonder ac amhriodoldeb yn y taliadau a hawliwyd neu talwyd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-