Swyddi ar lein
Swyddog Siop Un Stop ac Opsiynau Tai x2
£24,496 - £26,845 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25072
- Teitl swydd:
- Swyddog Siop Un Stop ac Opsiynau Tai x2
- Adran:
- Tai ac Eiddo
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli
- Dyddiad cau:
- 15/06/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £24,496 - £26,845 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S1
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Marian Jones Arweinydd Tim Siop Un Stop ar 01286 682656
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 15 MEHEFIN, 2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Yn medru ymdrin ag amrediad eang o bobl a phroblemau
Yn medru uniaethu’n dda gyda phobl o bob oed, cefndir a gallu
Ymwybyddiaeth o Gyfle Cyfartal sy’n gysylltiedig â materion tai
Yn gadarn wrth ymdrin â phobl a’u hamgylchiadau personol
Yn ymrwymedig i Ofal Cwsmer
Yn cynnig cymorth / teg / ddim yn barnu
Trwydded yrru ac yn meddu ar gar neu’n medru darparu car ar gyfer busnes sy’n gysylltiedig â’r swydd
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
4 TGAU neu gyfwerth gan gynnwys Cymraeg, Saesneg a Mathemateg
Safon dda o addysg
Dymunol
HNC Astudiaethau Tai neu unrhyw gymhwyster arall y Sefydliad Tai Siartredig
Gradd neu gymhwyster hafal
2 lefel A neu gyfwerth
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio gyda phobl fregus un ai mewn rôl gefnogol neu ymgynghorol
Profiad o weithio ar eich liwt eich hun, cynllunio a monitro cynnydd eich llwyth gwaith eich hun a chwrdd â therfynau amser
Profiad o fedru sefydlu a meithrin perthynas waith gyda phobl o adrannau ac asiantaethau eraill
Dymunol
Profiad o weithio ym maes tai un ai mewn Llywodraeth Leol, Cymdeithas Dai neu unrhyw wasanaeth arall sy’n rhoi cyngor ar dai
Blwyddyn o brofiad o weithio gyda phobl sydd angen cyngor ynghylch tai
Profiad o ymdrin â cheisiadau tai ac o asesu angen am dai
Y gallu i weithio’n bennaf heb oruchwyliaeth
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau llafar ac ysgrifenedig da
Yn gallu ymdrin â chleientiaid heriol mewn modd cadarn ond teg
Yn gallu cynllunio ac adolygu llwyth gwaith, cwrdd â therfynau amser a safonau perfformiad
Cymwys wrth ddefnyddio sustemau technoleg gwybodaeth, gan gynnwys pecynnau megis Microsoft ayyb
Dymunol
Gwybodaeth weithredol yn y meysydd canlynol:
Deddfwriaeth digartrefedd
Rhan 6 Deddf Tai 1996
Gwybodaeth weithredol yn y meysydd canlynol:
Cyfraith Landlord a Thenant
Budd-daliadau’r Wladwriaeth
Budd-dal Tai
Cofrestr Dai Gyffredin
Gwybodaeth arbenigol am gyngor tai neu waith yn ymwneud â digartrefedd
Profiad o reoli sustem cofrestr tai penodol
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu cyngor opsiynau tai cynhwysfawr ar faterion cyngor tai ac atal digartrefedd i aelodau’r cyhoedd gan alluogi Partneriaeth Cofrestr Tai Gyffredin Gwynedd i gyflawni ei gweledigaeth ei nodau a’i amcanion.
•Pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl ymholiadau’r adran dai trwy e-bost, ffon ar wefan a darparu cyngor a datrysiad yn y mwyafrif o achosion.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Unrhyw offer, peiriant neu nwyddau sy’n ymwneud a’r dyletswyddau a nodwyd
Prif ddyletswyddau
•Rhoi cyngor a chymorth llawn yng nghyswllt â holl faterion tai i aelodau’r cyhoedd ar y ffôn, ar e-bost neu drwy gyfweliad, yn swyddfa’r Cyngor neu mewn amgylchiadau arbennig yng nghartrefi’r cleientiaid. Rhoi cyngor a chymorth yng nghyswllt sut i gael, cadw a chynnal llety er mwyn atal digartrefedd ymhob math o denantiaeth, ac i asesu cymhwyster pobl i gael tai yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
•Asesu a chyfweld unrhyw berson/aelwyd sy’n dynodi ei bod mewn angen yng nghyswllt tai, ac asesu eu hamgylchiadau i ddynodi’r opsiynau a’r gweithredoedd priodol.
•Sicrhau bod digon o gyngor a gwybodaeth ar gael gan asiantaethau eraill, cyfeirio’r cleient i’r gwasanaethau hyn pan fo hynny’n briodol a chyfeirio’r cleient i’r asiantaethau, gan weithio gyda’r asiantaethau hyn er mwyn sicrhau y caiff y gefnogaeth orau ei ddarparu i bob cleient.
•Asesu a mewnbynnu ffurflenni cais. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd angen trefnu ymweliadau cartref.
•Sicrhau fod ceisiadau am dai yn cael eu gosod ar y Gofrestr Tai, yn cael eu gwirio ac asesu yn unol â’r polisi perthnasol, a bod ymgeiswyr yn cael cadarnhad ysgrifenedig o statws eu cais.
•Cymryd rhan weithredol i reoli’r Gofrestr Tai, diweddaru ceisiadau a gwneud adolygiadau rheolaidd. Unwaith y bydd yr eiddo wedi ei osod, bydd angen sicrhau bod y wybodaeth yn y gofrestr yn cael ei ddiweddaru.
•Sicrhau bod y gofrestr yn gyfoes.
•Cynnal archwiliadau o'r holl restrau byr ar gyfer eiddo a neilltuwyd drwy'r gofrestr tai.
•Sicrhau bod unrhyw ofynion tai arbenigol yn cael eu dogfennu'n glir a'u cofnodi a'u cyfathrebu ag adrannau perthnasol
•Ymateb i ohebiaeth gan gynghorwyr ac aelodau seneddol.
•Ymateb i bob gohebiaeth gan y cyhoedd mewn perthynas â holl ymholiadau'r adran dai. Darparu'r wybodaeth ac rhoid y cyngor priodol i gefnogi pobl Gwynedd.
•Cynnal adolygiadau yn dilyn derbyn ymholiad gan ymgeiswyr ynglŷn a penderfyniad cais am eiddo cymdeithasol.
•Gwneud cyfeiriadau priodol i Wasanaeth Digartrefedd y Cyngor pan fo’r holl opsiynau tai a’r mentrau atal digartrefedd wedi cael eu harchwilio.
•Cyfeirio honiadau o droi allan anghyfreithlon ac aflonyddwch i Dîm Tai’r Sector Breifat.
•Cynorthwyo i gadw safle we Opsiynau Tai yn gyfredol.
•Gweithredu safonau gwasanaeth y Bartneriaeth ar gyfer y Tîm Opsiynau Tai a’r Gofrestr Tai Gyffredin.
•Sicrhau cyfrinachedd y cleient, gweithredu a chynnal Protocol Rhannu Gwybodaeth ar gyfer Gwasanaeth y Tîm Opsiynau Tai.
•Pan ymddengys bod gorboblogi sylweddol yn yr eiddo a feddiannir gan ymgeisydd ac/neu fod llawer o beryglon o fewn yr eiddo, gwneud cyfeiriad at swyddog neu asiantaeth briodol e.e. Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor neu asiantaeth arall a gydnabyddir.
•Darparu cyngor a chymorth i ymgeiswyr sy’n dymuno rhoi eu henwau ar y Gofrestr Tai Fforddiadwy ac/neu ffurf eraill o gartrefu megis rhentu sector preifat, tai gofal ychwanegol ac ati.
•Cadw dealltwriaeth ddiweddar o’r holl ddeddfwriaethau tai, priodasol, teuluol, cyfle cyfartal ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall, cyfraith achos a pholisïau’r Cyngor / Bwrdd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ogystal â materion yn ymwneud â budd-daliadau tai a lles.
•Sicrhau bod yr holl ymgeiswyr yn medru cael mynediad i’r gwasanaeth drwy sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn ieithoedd a ffurfiau perthnasol eraill.
•Cynnal cofnodion cywir ac adroddiadau ysgrifenedig yng nghyswllt yr holl achosion a archwiliwyd a darparu ystadegau priodol gan gadw cyfrinachedd y cleient bob tro.
•Bod yn rhagweithiol wrth ddatblygu gwaith partneriaeth gydag asiantaethau eraill er mwyn gostwng y nifer o achosion o ddigartrefedd ac i ehangu rhwydweithiau cefnogi ar gyfer pobl ddigartref.
•Cyfrannu i’r strategaethau, polisïau a phrosiectau a ddatblygir gan y Bartneriaeth Tai.
•Symbylu dulliau dyfeisgar o ymdrin â phroblemau.
•Sicrhau diogelwch yr holl staff, defnyddwyr gwasanaeth ac eraill yn unol â’r gweithdrefnau a’r darpariaethau iechyd a diogelwch perthnasol.
•Unrhyw ddyletswydd arall, yn ôl cyfarwyddyd, sy’n gymesur â graddfa’r swydd.
•Cymdeithasau Tai
•Tîm Tai Strategol
•Gwasanaeth Digartrefedd
•Budd-daliadau Tai
•Iechyd yr Amgylchedd
•Gwasanaeth Cyfreithiol
•Gwasanaethau Cymdeithasol
•Awdurdodau Lleol eraill
•Y Bwrdd ac Asiantaethau Iechyd
•Asiantaethau Gwirfoddol
•Landlordiaid y sector preifat
•Asiantaethau gosod
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-