Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynorthwyo gyda threfniadaeth a rheolaeth y gegin a dirprwyo yn lle’r Cogydd (es) pan fo ef/hi’n absennol.
• Bydd y dyletswyddau’n cynnwys paratoi bwyd a diod, coginio prydau yn ôl y bwydlenni, paratoi ac arlwyo’r rhain, golchi llestri a dyletswyddau glanhau cyffredinol.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb am staff, cyllid ac offer y gegin yn absenoldeb y cogydd(es). Rhoi gwybod i’r rheolwr, neu’r adain eiddo neu asiantaeth arall am unrhyw ddiffyg yn adeilad y gegin ac unrhyw offer sy’n gysylltiedig â’r gegin.
Prif Ddyletswyddau
• Sicrhau fod defnyddwyr y gwasanaeth yn cadw eu hurddas, annibyniaeth a’u hawliau ar bob achlysur. Rhan annatod o hyn yw sicrhau fod y defnyddwyr yn cael cyfle i ddewis eu bwyd pob dydd ac yn cael mewnbwn i’r math o fwyd a ddarperir.
• Cefnogi’r gogyddes gyda chynnal cyfarfodydd gyda’r defnyddwyr Gwasanaeth i gael Dysgu ac dod i’w hadnabod.
• I fod ar parodrwydd i ddysgu i baratoi prydau bwyd ar gyfer unigolion ag anghenion cymhleth
• I ymrwymo i gefnogi gyda gweithgareddau coginio gyda’r defnyddwyr Gwasanaeth
• I gyd weithio ar drefnu nosweithiau themâu
• Cynorthwyo’r cogydd(es) ac yn absenoldeb y cogydd(es) sicrhau fod trefniadaeth a gweinyddiaeth y gegin yn effeithiol ac yn effeithlon ac yn cydymffurfio a deddfwriaeth perthnasol Iechyd a Diogelwch a pholisïau a chanllawiau’r Cyngor.
• Cynorthwyo’r cogydd(es) ac yn absenoldeb y cogydd(es) archebu, paratoi, coginio a chyflwyno bwyd maethlon a blasus ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth mewn amgylchedd glan gan gydymffurfio a’r canllawiau perthnasol.
• Cynorthwyo’r cogydd(es) ac yn absenoldeb y cogydd(es) cynllunio a dilyn bwydlen gan ystyried anghenion maethlon
• Rheoli maint y prydau yn unol â’r canllawiau perthnasol a dymuniad defnyddwyr y gwasanaeth.
• Cadw i drefniadau glanhau, gan ddiweddaru’r cynlluniau
• Adrodd ar ddiffygion yn y gegin , gan gynnwys materion eiddo.
• Cefnogi’r cogyddes i sicrhau nad yw’r gegin yn mynd dan safon.
• Mynychu a chymerid rhan mewn cyfarfodydd staff
• Mynychu Hyfforddiant perthnasol i’r swydd
• Cydymffurfio gyda’r gofynion perthnasol , ‘deddf rheoleiddio ac arolygu Gofal cymdeithasol Cymru 2016’
• Cytuno i unrhyw archwiliad meddygol y bernir ei fod o fudd i’r gweithiwr a/neu’r Gwasanaeth
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
I fod yn barod i ymateb i alwad i gefngi Cartref arall yn yr ardal mewn argyfwng