Pwrpas y swydd
● Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
● I gyfarch ac ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid, wyneb yn wyneb ac ar y ffôn gan dderbyn arian am ddefnydd o gyfleusterau’r ganolfan.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Cyfrifoldeb am dderbyn arian gan gwsmeriaid
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau bod y cwsmeriaid yn cael sylw yn syth, a’u bod yn cael gwybodaeth gywir bob amser.
•Bod yn gwrtais gan ymdrin a cheisiadau neu gwynion mewn ffordd broffesiynol.
•Derbyn taliadau am sesiynau, gwersi, llogi cyfleusterau a.y.b
•Ateb y ffôn yn brydlon a chwrtais.
•Derbyn gwybodaeth am unigolion a throsglwyddo wybodaeth i’r cyfrifiadur.
•Ymateb yn briodol pan fo damwain neu larwm pwll/tân yn canu.
•Cyflawni tasgau gweinyddol fel y bo angen.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cwmni.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cwmni yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cwmni. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cwmni yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cwmni.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Shifftiau sydd yn cynnwys gyda’r nos a phenwythnosau.