Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cymeryd cyfrifoldeb am drefn a rheolaeth yn y gegin sydd yn cynnwys archebu bwyd, paratoi bwydlenni a phrydau, gweini prydau a byrbrydau. Cadw cofnodion angenrheidiol am bob agwedd ar waith y gegin. Goruchwylio glanweithdra a diogelwch y gegin, cyfarwyddo a goruchwylio staff a rheoli pob gwasanaeth sy’n gysylltiedig â’r gegin.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am staff, cyllid ac offer sy’n gysylltiedig â’r gegin. Rhoi gwybod i’r rheolwr a/neu’r adain eiddo a/neu asiantaeth arall am unrhyw ddiffyg yn adeilad y gegin neu offer sy’n gysylltiedig â’r gegin
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau fod defnyddwyr y gwasanaeth yn cadw eu hurddas, annibyniaeth a’u hawliau ar bob achlysur. Rhan annatod o hyn yw sicrhau fod y defnyddwyr yn cael cyfle i ddewis eu bwyd pob dydd ac yn cael mewnbwn i’r math o fwyd a ddarperir.
•Sicrhau fod trefniadaeth a gweinyddiaeth y gegin yn effeithiol ac yn effeithlon ac yn cydymffurfio a deddfwriaeth perthnasol Iechyd a Diogelwch a pholisïau a chanllawiau’r Cyngor.
•Archebu, paratoi, coginio a chyflwyno bwyd meithlon a blasus ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth mewn amgylchedd glan gan gydymffurfio a’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau perthnasol.
•Cynllunio a dilyn bwydlen gan gynnwys rheoli maint y prydau yn unol â’r canllawiau perthnasol a dymuniad defnyddwyr y gwasanaeth.
•Arolygu staff y gegin gan gynnwys pennu dyletswyddau, trefniadau gwaith, a hyfforddiant.
•Mynychu hyfforddiant perthnasol i’r swydd.
•Mynychu cyfarfodydd staff.
•Goruchwylio a gwerthuso staff y gegin yn unol â threfn y Cyngor ac mewn cydweithrediad a Rheolwr y Cartref.
•Cofrestru gyda’r Cyngor Gofal yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.
•Cydymffurfio gyda’r gofynion perthnasol o’r Ddeddf Safonau Gofal 2000.
•Cytuno i unrhyw archwiliad meddygol y bernir ei fod o fudd i’r gweithiwr a/neu’r gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-