Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo’r Peiriannydd Goleuo i ddarparu gwasanaeth cynnal goleuadau ac arwyddion priffyrdd yn Ardal Arfon a Dwyfor mewn modd effeithiol, effeithlon ac economaidd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Gweithwyr llaw a thrydanwyr yn ol yr angen.
•Unrhyw offer, cerbyd, beiriant neu nwyddau sy’n ymwneud a’r dyletswyddau a nodwyd.
•Rheoli is-gontractwyr a ddefnyddiwyd i ddarparu’r gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau
•Cynorthwyo gyda rheolaeth o’r gwasanaeth cynnal goleuadau ac arwyddion priffyrdd mewn modd effeithiol, effeithlon ac economaidd gyda ystyriaeth penodol i’r canlynol:
•Paratoi gwybodaeth a chofnodion perthnasol yn amserol ac yn unol a systemau sefydlog y Gwasanaeth (i gyd-fynd gyda gofynion Sicrwydd Ansawdd).
•Trefnu y gweithlu a’r trydanwyr mewn modd effeithiol ac effeithlon i gyflawni allbwn gwaith a safon gwaith dderbyniol.
•Trefnu yn effeithiol ac effeithlon unrhyw offer, cerbyd, beiriant neu nwyddau sy’n ymwneud a’r gwasanaeth.
•Ymgymryd a mesuriadau terfynol ar gyfer y gwaith yn unol ag amserlen penodol.
•Cyfranogi mewn trefn ar-alwad tu allan i oriau gwaith.
•Dytetswyddau eraill sy’n berthnasol i’r swydd, yn ol y galw gan y rheolwr llinell.
•Bod yn rhan o’r broses rheoli a monitor perfformiad yn unol a gofynion y swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Dyled cael Trwydded Gyrru llawn.
•Bydd angen gweithio tu allan i oriau gwaith arferol i ymateb i anghenion y gwasanaeth a digwyddiadau argyfwng.
•Efallai o bryd i’w gilydd bydd galw ar deilydd y swydd i weithio tu allan i ffiniau ei waith arferol i ymateb i anghenion y gwasanaeth a digwyddiadau argyfwng.