Pwrpas y swydd
•Darparu cefnogaeth tenantiaeth i gleientiaid bregus a all fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartref, i sicrhau eu bod yn cynnal eu tenantiaethau gan osgoi mynd yn ddigartref eto (canolbwyntio yn bennaf ar gleientiaid yn y sector rhentu preifat).
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Darparu gwasanaeth cefnogaeth tenantiaeth cyflawn i gleientiaid sydd wedi eu derbyn ar y cynllun, beth bynnag yw eu daliadaeth, i’w galluogi i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i gynnal a rheoli llety a byw mor annibynnol â phosib.
•Cynnal asesiadau anghenion ac asesiadau risg dros y cleientiaid.
•Trefnu a gweithredu cynlluniau cefnogi i’r holl gleientiaid sy’n y cynllun gan fonitro ac adolygu’r cynlluniau hynny yn rheolaidd, sicrhau fod cynlluniau cefnogol yn cael eu llunio mewn ymgynghoriad gyda’r cleient.
•Darparu gwybodaeth, cyngor priodol a gwasanaeth eiriolaeth.
•Rhoi cymorth ymarferol rheolaidd i’r cleientiaid un ai drwy ymweliadau cartref, yn y swyddfa, dros y ffôn neu mewn gohebiaeth i’w helpu i gynnal eu tenantiaethau.
•Cydgysylltu gyda darparwyr gwasanaeth/asiantaethau eraill (mewnol neu allanol) yn unol â’r hyn a nodir yn y cynlluniau cefnogol.
•Cysylltu â darparwyr gwasanaethau fel dŵr, nwy neu drydan ar ran y cleient fel bo’r angen.
•Cadw cofnodion manwl a chyfredol o’r gefnogaeth a ddarperir ar ffeiliau’r unigolion.
•Annog a chefnogi cleientiaid i fyw bywyd mor llawn ac annibynnol â phosib yn y gymuned leol, gan ddarparu gwybodaeth, cymorth emosiynol, trefniadol ac ymarferol fel bo’n briodol.
•Cefnogi cleientiaid i wella ansawdd eu bywydau drwy er enghraifft, eu helpu i ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol drwy roi gwybodaeth a chyngor ar weithgareddau cymdeithasol yn eu hardal.
•Rhoi cymorth gyda chael y budd-daliadau gorau, cadw cyllideb a rheoli dyled a chyfeirio i gael cymorth gan arbenigwr ble fo’n briodol.
•Helpu cleientiaid i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant.
•Helpu cleientiaid i gymryd rhan mewn cyflogaeth/cyfleoedd gwirfoddoli.
•Helpu cleientiaid i fyw bywyd iach a gweithgar a mynd i’r afael gyda materion fel camddefnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl.
•Cofnodi yn gywir a rhannu gwybodaeth yn briodol ac yn gyfrinachol, paratoi a chyflwyno adroddiadau ysgrifenedig a llafar os gofynnir amdanynt.
•Cadw cofnodion cyfredol ar y cynllun i gwblhau dangosyddion perfformiad yr adran.
•Helpu’r Rheolwr Gwasanaeth Digartrefedd a Chefnogaeth Tai i lenwi’r dychweliadau chwarterol Cefnogi Pobl.
•Mynychu cyfarfodydd tîm, cynadleddau achos ac ati fel y cyfarwyddid gan y Rheolwr.
•Ymgymryd â’r holl hyfforddiant craidd sydd ei angen i’r swydd ynghyd â hyfforddiant arall a gweithgareddau datblygiad proffesiynol fel bo angen.
•Dilyn y materion sy’n berthnasol i dai a chymorth, budd-daliadau lles a deddfwriaeth berthnasol arall.
•Sicrhau bod cydymffurfio gydag unrhyw drefniadau rheoli risg a nodwyd yn yr asesiadau risg sy’n berthnasol i’r gwaith.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•Darparu gwybodaeth ac anogaeth i gleientiaid mewn llety dros dro i rymuso cleientiaid i ddod o hyd i lety parhaol a'i sicrhau.
•Dod o hyd i atebion llety parhaol ac archwilio cleientiaid sy'n derbyn Cymorth Tenantiaeth
•Trafod llety parhaol ar gyfer cleientiaid digartref sydd mewn llety dros dro mewn cydweithrediad â'r Uwch Swyddog Datblygu Eiddo.
•Mynd gyda chleientiaid i weld a chynorthwyo cleientiaid i sicrhau llety.
•Pwynt cyswllt ar ran y cleient ar gyfer asiant gosod, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a darparwyr Tai gyda'r bwriad o sicrhau llety parhaol i gleientiaid sy'n derbyn cymorth tenantiaeth
Amgylchiadau arbennig
Efallai y bydd angen i ddeilydd y swydd weithio oriau anghymdeithasol, fel bo’r angen.