Nodweddion personol
Hanfodol
Tystiolaeth o allu i weithio fel rhan o dîm.
Gallu teithio’n annibynnol.
Ymrwymiad i ymgymryd â hyfforddiant i fodloni anghenion poblogaethau arbennig.
Ymrwymiad i gyfle cyfartal.
Gallu gweithio dros y penwythnosau a gyda’r nos.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Hyfforddwr Gampfa Uwch Lefel 3
Lefel 3 Cydnabyddedig Cymhwyster Atgyfeirio Meddyg TeuluCymhwyster lefel 4 cydnabyddedig neu'n gweithio tuag at un
Cymhwyster Lefel 2 gwaith grŵp (ee ymarfer cylchol / ymarfer i gerddoriaeth)
Aelod o'r Gofrestr Broffesiynol Ymarfer Corff naill ai L3 neu L4
Cymorth Cyntaf a CPR
Dymunol
Gradd yn y maes Iechyd a Ffitrwydd
Cofrestrwyd ar Lefel 3/ 4 gyda CIMSPA
Hyfforddiant arweinwyr ‘Walking Way to Health’
Hyfforddiant diffibriliwr
Profiad perthnasol
Hanfodol
Oleiaf dwy flynedd o brofiad o fewn amgylchedd Iechyd a Ffitrwydd, gan gynnwys gweithrediad a darpariaeth gwasanaeth Iechyd a Ffitrwydd i'r cyhoedd a phoblogaethau arbennig.
Os yw’r ymgeisydd yn gweithio gydag amodau lefel 4, fydd angen oleiaf 2 flynedd o brofiad yn y maes atgyfeirio ymarfer corff.
Yn llythrennog yn y maes TG ac yn gymwys wrth ddefnyddio Microsoft Office a phlatfformau Cyfryngau Cymdeithasol, yn enwedig gallu yn gysylltiedig â phob agwedd ar ddarparu sesiynau ar-lein, cynnal a mynd i gyfarfodydd ar-lein, darparu asesiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein, a chwblhau pob cyfrifoldeb gwaith yn y swyddfa/ gartref.
Profiad o ddarparu cyfarwydd ffitrwydd a llunio rhaglenni i gleientiaid.
Cydlynu, datblygu a chynllunio gweithgareddau hamdden o fewn ystod eang o amgylcheddau, gan gynnwys sefydliadu cymunedol/addysgol.
Dymunol
Profiad o weithio ar Gynllun Cyfeirio i Ymarfer neu gynllun adferiad cyflwr cronig.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Hyder a chymhwysedd wrth ddarparu rhaglenni/dosbarthiadau ffitrwydd ar gyfer poblogaethau arbennig.
Ymrwymiad i ofal cwsmer a darparu gwasanaeth o safon sy’n effeithlon ac yn effeithiol.
Sgiliau rhyngbersonol, ysgrifenedig a llafar da, gyda gallu i siarad â chleientiaid / cwsmeriaid wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac yn ysgrifenedig. Ymwybyddiaeth o GDPR.
Yn llythrennog ac yn gymwys yn y maes TG, mewn perthynas â Microsoft Office, a systemau monitro data megis Excel/Access, ac ati.
Gweithio dan bwysau a sgiliau trefniadol da i reoli llwyth gwaith yn effeithiol a sicrhau bod data’n cael ei gasglu’n gywir.
Y gallu i wneud penderfyniadau a thawelu sefyllfaoedd anodd.
Gallu gweithio gyda hunangymhelliant a gweithio mewn amgylchedd tîm drwy ddatblygu perthnasau gwaith effeithiol ac adeiladol gyda chydweithwyr.
Dymunol
Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).