Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
•Datblygu gallu personol mewn materion technegol yn bennaf o ran paratoi darluniadau a dogfennau gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd cyfrifiadurol amrywiol.
•Ymgymryd â rôl arweiniol yn natblygiad sgiliau technegol staff yr Uned ac is-staff (Technegwyr).
•Bod yn rhan o dîm prosiect hyblyg a chynorthwyo staff peirianneg a thechnegol ar brosiectau.
•Cynorthwyo i sicrhau bod YGC yn gweithredu ar sail fasnachol ac yn addasu ei hun i gystadlu’n effeithiol.
•Bod yn llwyr ymroddedig i fodloni anghenion y cleient.
•Os oes angen, cynorthwyo Cynrychiolydd y Peirianwyr â'u dyletswyddau a'u prosiectau adeiladu.
•Cyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
•Cynorthwyo â'r gofynion ar gyfer rheolaeth ariannol fel rhan o'r prosiect.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Canfod a chynnal y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag:-
•arfer gorau cyfredol o ran materion dylunio
•safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys technoleg gyfredol), a chyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Adeiladu 1984, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. rheoliadau CDM) a’u cymhwysiad i’r gwaith a’r swyddogaethau sy’n cael eu gweithredu.
•Rheoli staff eilaidd.
•Dirprwyo i’r rheolwr yn ei h/absenoldeb.
•Sicrhau bod YGC yn ateb gofynion y Cyngor.
•Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithredu â chynrychiolydd Iechyd a Diogelwch YGC.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.
Prif ddyletswyddau
•datblygu a chynnal perthynas broffesiynol gyda chleientiaid.
•cynorthwyo staff peirianneg a thechnegol i gwblhau prosiectau gan gynnwys amrediad o ddyletswyddau technegol, gweinyddol a swyddfa ddarlunio yn gymesur â lefel hyfforddiant, arbenigedd a chymhwysedd deilydd y swydd unigol.
•Cwblhau Asesiadau Archwiliad Isadeiledd Priffyrdd a gwaith cynnal a chadw.
•Goruchwylio rheolaeth ariannol, weinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu waith cynnal a chadw a wneir ar ran y Cleient.
•Sicrhau bod prosiectau yn cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
•Cynorthwyo i Oruchwylio gwaith ar safleoedd adeiladu pan fo'r angen a chwblhau cyfrifoldebau a dyletswyddau dirprwyedig yn briodol.
•Gweithredu a rheoli systemau a meddalwedd cyfrifiadurol. Cynorthwyo i ddatblygu systemau meddalwedd yn YGC.
•Cysylltu â gwasanaethau eraill, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol, ac unigolion sy’n ymwneud â holl agweddau’r gwaith.
•Adrodd wrth, a derbyn cyfarwyddiadau gan Uwch Staff, yn rheolaidd ac fel bo’r angen i sicrhau bod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn iawn.
•Goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff eilaidd.
•Dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n berthnasol, ac yn gymesur ag awdurdod y swydd.
•Cyfrifol am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Rheoli gwariant ei hun ar brosiectau.
•Gallu gweithio dan bwysau
•Y gofyn i weithio tu allan i oriau swyddfa arferol mewn Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgynghoriadau, arddangosfeydd a chyfarfodydd y Cyngor ac ati.