Swyddi ar lein
Gweithiwr Allweddol Maethu Dros Dro
£27,344 - £29,439 y flwyddyn | Dros dro (gweler hysbyseb swydd)
- Cyfeirnod personel:
- 23-24877
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Allweddol Maethu Dros Dro
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Adnoddau Gofal / Comisiynu
- Dyddiad cau:
- 27/04/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro (gweler hysbyseb swydd) | 37 Awr
- Cyflog:
- £27,344 - £29,439 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Swydd newydd o fewn y gwasanaeth maethu yn cefnogi gwarcheidwaid arbennig, rydym yn recriwtio gweithiwr cefnogi a fydd yn gweithio’n agos gyda gweithiwr cefnogi yn Y Bont (sector gwirfoddol) i ddatblygu gwasanaeth cefnogol i’n Gwarcheidwaid arbennig yng Ngwynedd.
Byddwch yn allweddol wrth ddatblygu'r gwasanaeth hwn ac yn sicrhau bod yr anghenion cymorth yn cael eu diwallu a'u hadolygu'n rheolaidd. Byddwch yn gallu gweithio'n hyblyg, yn achlysurol y tu allan i oriau swyddfa arferol a byddwch yn gallu ymgysylltu ag ystod eang o bobl. Mae’n amser cyffrous i fod ar flaen y gad o ran datblygu gwasanaeth a chael cyfle i ddatblygu eich gyrfa eich hun ym maes gofal cymdeithasol.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Swydd dros dro yw hon am gyfnod o 2 flynedd
Ystyrir secondiad ar gyfer y swydd yma.
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Os ydych chi am drafod ymhellach cysylltwch â Mel Panther neu Shelley Hughes ar 01286 682660.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 27 EBRILL, 2023.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Agwedd bositif tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Gallu bod yn greadigol ac yn llawn dychymyg gyda phlant a theuluoedd
Sensitifrwydd
Hyblygrwydd
Ymrwymiad i weithio i hyrwyddo lles plant
Gallu gweithio dan bwysau
Gallu gweithio'n unigol ac fel aelod o dîm
Brwdfrydedd i ddysgu am ystod o ddulliau ymyrryd ac i'w rhoi ar waith
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
5 TGAU gradd C neu uwch
Cymhwyster mewn astudiaethau plentyndod neu gyweiriol (ee Gradd, NVQ 3, Diploma mewn Astudiaethau Lles, Datblygiad Plant)
Dymunol
Tystiolaeth o ddatblygiad personol perthnasol trwy hyfforddiant mewn swydd
Profiad o weithio yn y sector gofal cymdeithasol.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Y gallu a'r profiad o weithio’n unigol ac fel aelod o dîm.
Y gallu i gyfathrebu'n dda.
Gweithio mewn modd creadigol a chadarnhaol.
Y gallu i weithio dan bwysau.
Profiad o weithio gyda phlant, theuluoedd a phobl ifanc sy'n dangos amrediad o anghenion cymhleth a gallu i greu cydberthynas ac adeiladu perthnasau effeithiol.
Gwybodaeth am ddiogelu, deddfwriaeth gofal plant, Gweithdrefnau Amddiffyn Plant lleol, a dealltwriaeth o ddatblygiad plant, gallu rhiantu a ffactorau risg ac amddiffynnol.
Yn gallu adeiladu perthnasoedd myfyriol, cefnogol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau gydag unigolion o gefndir amrywiol.
Profiad o gynllunio gwaith mewn modd strwythuredig ac effeithlon.
Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd.
Dymunol
Profiad o gynnal neu gyfrannu at asesiadau, cynllunio gofal ac adolygiadau gyda chleientiaid ac anghenion cymhleth.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o amrediad o ddulliau ar sail tystiolaeth, gan gynnwys theori ymlyniad a cholled, perthynas ac ymyraethau ar sail cryfder.
Profiad o roi adborth dadansoddol ar fewnbwn a chynnydd mewn achosion
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Ymwybyddiaeth o Reoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018.
Sgiliau TG
Gwybodaeth am anghenion plant a datblygiad plentyn
Dealltwriaeth ac ymrwymiad i ymarfer diragfarn ac anormesol
Gallu dehongli a chofnodi digwyddiadau'n glir a chywir
Trwydded yrru gyfredol, lân
Gallu paratoi adroddiadau o ansawdd mewn Cymraeg a Saesneg
Gallu cyfathrebu yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
Tystiolaeth o ymwybyddiaeth amlasiantaethol a sut fydd gweithio mewn partneriaeth yn gwella darpariaeth y gwasanaeth ac yn cyflawni amcanion yr unigolyn.
Y gallu i ymgysylltu â phlant sy'n derbyn gofal a'u gofalwyr maeth a chynnal perthnasoedd.
Cynnal perthnasau cefnogol gyda chydweithwyr mewn gwaith cymdeithasol ac asiantaethau allanol.
Casglu gwybodaeth briodol er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pecynnau cymorth.
Deall pwrpas goruchwyliaeth.
Ymwybyddiaeth o hunanreolaeth broffesiynol
Dymunol
Profiad a gwybodaeth mewn perthynas â dulliau ymyrraeth fel rhiantu, rheoli ymddygiad, ffyrdd iach o fyw, ymwybyddiaeth ofalgar.(Mindfulness)
Profiad o farchnata.
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Prif egwyddor y Tîm Maethu recriwtio, asesu, adolygu, cynllunio, gwerthuso a goruchwylio gofalwyr maeth cyffredinol a gofalwyr maeth teulu a ffrindiau
•Bydd deilydd y swydd hon yn gyfrifol am gefnogi aelodau’r gwasanaeth maethu o dro i dro i oruchwylio’r achosion penodol. Cyd weithio gyda aelodau timau plant, adran addysg ac asiantaethau eraill sydd yn ymwneud a’r gofalwyr maeth.
•Arwain ar faes gwaith penodol o fewn y tîm (unai gofal maeth cyffredinol neu gofal maeth teulu a ffrindiau)
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Bydd y gweithiwr allweddol yn cael ei arwain ar yr ymyrraeth sydd angen gan aelodau’r tîmau ac anghenion y gofalwyr maeth/gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•Cyfrannu tuag at cwblhau asesiad e.e asesiadau risg, asesiadau iechyd a diogelwch a.y.y.b
•Trosglwyddo gwybodaeth o unrhyw asesiad/ymyrraeth neu sesiwn goruchwyliaeth gyda gofalwyr maeth i swyddogion o fewn y tîm .
•Trafod a chyfeirio plant/gofalwyr maeth i’r gwasanaethau priodol, boed hynny yn wasanaeth cyhoeddus neu’n wirfoddol.
•Sicrhau bod cofnodion achos yn cael eu bwydo i mewn i WCCIS yn rheolaidd a bod y cynnwys yn gywir ac yn adlewyrchu'r holl gyswllt mewn perthynas â’r gofalwyr maeth.
•I weithio gyda gofalwyr maeth a pobl sydd yn y broses o gael eu asesu ,sydd yn agored i’r gwasanaeth. Gyda’r bwriad o sicrhau cydweithrediad ac ymyrraeth sydd yn cyd fynd gyda Rheoliadau Gwasanaethau maethu Awdurdod Lleol (Cymru)2018.
•Yn ôl y gofyn, bydd angen darparu adroddiadau/gwybodaeth ar gyfer cyfarfodydd cynllunio a phaneli. Bydd angen gweithio o fewn cyfundrefn cynllunio Deddf Plant 1989 ac yn unol â gweithdrefnau’r Gwasanaeth Maethu . Bydd disgwyl i adroddiadau fod o safon uchel.
•I weithio mewn partneriaeth gyda gofalwyr maeth cyffredinol/teulu a ffrindiau ac asiantaethau proffesiynol eraill er mwyn galluogi newid mewn ymddygiad a sefyllfaoedd teulu.
•Rheoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•I fod yn hyblyg, er mwyn ymateb i anghenion yr unigolyn a’i deulu. Gall hyn olygu gweithio tu allan i oriau gwaith, os ofynnir gan eich rheolwr llinell.
•Bod yn rhan arweiniol o ddatblygu rhaglen recriwtio gofalwyr maeth cyffredinol mewn dull flaengar, e.e cyfryngau cymdeithasol ayyb
•Gweithredu fel cynrychiolydd sustem rota ddyletswydd y tîm. Gall hyn olygu, bod ar gael i ymgymryd a dyletswyddau swyddog lleoliadau yn achlysurol.
•I gymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm rheolaidd a sesiynau goruchwylio unigol.
•I fod yn gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol a chymryd rhan mewn rhaglenni datblygiadol a hyfforddant a drefnir gan y TTG.
•Hyrwyddo gwerthoedd ac ymddwyn mewn ffordd gwrth-wahaniaethol tuag at gydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth.
•I fod yn gyfrifol mewn perthynas â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y gweithle ac i ymateb i reolau tân.
Amgylchiadau arbennig
•Y gallu i weithio oriau hyblyg yn angenrheidiol i’r swydd yma, hefyd yn cynnwys gweithio penwythnosau a gyda’r nos.