Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Staff sy’n gysylltiedig â’r dyletswyddau a nodwyd. Unrhyw offer, cerbyd, beiriant neu nwyddau sy’n ymwneud â’r dyletswyddau a nodwyd. Ymgymryd a gweithgareddau medrus sy’n cynnwys gosod gwaith allan, gyrru a gweithredu offer trwm/cymhleth a chyfarpar sydd angen sgiliau arbenigol.
Prif ddyletswyddau
Dyletswyddau yn cynnwys yr angen i weithio i lefelau manwl ac ynb ofynnol a gwaith adeiladwaith mewn nifer o dasagau, er engraifft:-
•Agor traeni, gosod coed tu mewn i’r traeni, adeiladu tyllau archwilio, estyllod i’r concrit, gosod haearn, crocbren, gosod cyrbiau concrit cryf, codi ffens, codi wal, adeiladu troedffyrdd gyda slabiau a blociau a charthffos mewn twneli.
Mae hefyd yn orfodol i roi arweiniad gwaith i weithwyr graddfa is.
Dyletswyddau eraill yn cynnwys:-
•Tynnu a chodi arwyddion a bareri uniongyrchol.
•Darparu, gosod, cywasgiad a symud pridd, cerrig a deunyddiau eraill.
•Gwaith ar ddodrefn priffyrdd ac offer gan gynnwys codi, gosod a/neu ddymchwel.
•Plannu a chynnal amgylchoedd priffyrdd yn gyffredinol.
•Rhoi cymorth yn gyffredinol i’r gweithwyr medrus a’r arbenigwyr.
Yn ychwanegol i’r gofynion i yrru neu weithredu offer/trwm cymhleth a chyfarpar mae angen gyrru cerbydau a thractorau gydag atodyn syml ac i weithredu offer pŵer trwm, offer bychan a pheiriannau bychan gyda’r angen i gynnal a chadw’r cerbydau ac offer yn rheolaidd hynny yw eu glanhau ac edrych ar y sefyllfa olew a dŵr
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
MAE DYLETSWYDD I SICRHAU BOD YR OFFER A CHYFARPAR YN CAEL EU DEFNYDDIO MEWN MODD DIOGEL POB AMSER GYDA’R CYFRIFOLDEB UNIONGYRCHOL AM DDIOGELWCH Y GWEITHLU A’R CYHOEDD MEWN CYSYLLTIAD AG EF.
Amgylchiadau arbennig
Bydd angen gweithio tu allan i oriau gwaith i ymateb i anghenion y gwasanaeth a digwyddiadau argyfwng.