Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cyrraedd gofynion statudol Deddf Gofal Plant 2006 - Adran 22 (sicrhau gofal plant digonol) ac Adran 26(asesu darpariaeth gofal plant)
•Cefnogi’r gwaith o asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae o fewn yr Awdurdod, o dan gofynion statudol y Rheoliadau Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012
•Cefnogi lleoliadau i ddarparu gwasanaeth gofal, chwarae ac addysg gynnar o safon uchel
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Gliniadur
•Ffon Symudol
Prif ddyletswyddau
•Cydlynu rhaglen hyfforddiant mewn cydweithrediad gyda’r Uwch Swyddog Datblygu, Grŵp Ansawdd Blynyddoedd Cynnar, Bwrdd Rheoli Dechrau’n Deg, Is-Grwp Gofal Plant a’r Fforwm Chwarae gan gynllunio a sicrhau trefnu darpariaeth hyfforddiant o ansawdd i weithlu blynyddoedd cynnar gofal plant a chwarae.
•Cydweithio gyda’r mudiadau gofal plant a chwarae, staff Dechrau’n Deg a’r athrawon Cyfnod Sylfaen i gynnig rhaglen o hyfforddiant pwrpasol ar gyfer y gweithlu.
•Cadw tros olwg dros ansawdd yr hyfforddiant drwy fodlonrwydd cwsmeriaid a cynnal ymweliadau monitro ar hap er mwyn sicrhau darpariaeth hyfforddiant sy’n cwrdd â gofynion ansawdd, ac o’r gwerth gorau.
•Sicrhau fod gwybodaeth ynglŷn â threfniadau hyfforddi yn cael eu cyfathrebu’n glir i’r defnyddwyr a phartneriaid gan ddatblygu systemau electroneg ar gyfer dosbarthu a safle we gyfredol.
•Cynnal adolygiadau rheolaidd o gymwysterau gweithlu'r maes blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae.
•Datblygu a cynnal systemau electroneg effeithiol ac effeithlon ar gyfer gweinyddu, ymgeisio, dyrannu a monitro grantiau’r Uned. Cyfrifoldeb i friffio’r darparwyr fel bod angen gan gydweithio gyda’r swyddogion datblygu o fewn y Mudiadau perthnasol.
•Mewn cydweithrediad a’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd sicrhau fod y wybodaeth am y darparwyr meithrin, gofal plant a chwarae yn gyfredol ar y Hwb Teuluoedd Gwynedd.
•Sicrhau fod gwybodaeth gyfredol a chywir ynglŷn â darpariaethau grantiau gofal plant a chwarae yn cyrraedd darpar- ddarparwyr ar draws Gwynedd mewn cydweithrediad a’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
•Sicrhau trosglwyddo gwybodaeth berthnasol yn ôl yr angen i’r partneriaethau perthnasol, gan adrodd yn rheolaidd i’r Is-Grŵp Gofal Plant, Fforwm Chwarae ac i’r Grŵp Ansawdd Blynyddoedd Cynnar ar y maes blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae.
•Cydweithio a rhwydweithio gyda swyddogion eraill a phartneriaid er mwyn cyflawni gofynion y swydd.
•Trefnu a mynychu sesiynau estyn allan i godi proffil a hyrwyddo'r maes blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae.
•Mynychu cyfarfodydd grwpiau, fforymau a rhwydweithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n rhoi sylw i faterion sy’n gysylltiedig â’r maes gofal plant a chwarae.
•Gweithio gyda darparwyr hyfforddiant, Colegau ac Ysgolion Uwchradd i hyrwyddo gofal plant a chwarae fel llwybr gyrfa bositif.
•Cefnogi darparwyr gofal plant a chwarae gyda materion recriwtio i’r sector
•Cefnogi’r darparwyr gofal plant a chwarae i ddatblygu lleoliad cynhwysol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
AMODAU GWAITH
Cyflogaeth: Dros dro hyd nes Mawrth 2024.
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos.
Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol fel ar y penwythnosau neu ar y rota 8 i 6.
Mae gan yr Adran raglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso a fydd yn cyfrannu at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen.
Gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn angenrheidiol.