NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Egniol a threfnus, gyda llygad am fanylder.
Y gallu i adnabod tasgau sydd angen eu cwblhau, a’u gweithredu arnynt yn brydlon a chywir.
Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth ond gyda’r hyder i geisio eglurhad fel bo’r angen.
Y gallu i ddirprwyo tasgau addas ac i weithredu’n uniongyrchol i sicrhau’r canlyniad gorau.
Y gallu i ymdrin â phobl o bob oed a chefndir.
Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg.
Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu’n effeithiol gan ddelio yn sensitif gyda materion cyfrinachol.
Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc sy'n berthnasol i anghenion y swydd (o ystyried natur y swydd, bydd profiad sylweddol yn y maes yn cael ei ystyried yn gymhwyster addas / ychwanegol)
DYMUNOL
Aelodaeth corff proffesiynol
Cymhwyster / hyfforddiant mewn rheoli prosiectau / rhaglenni
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad sy'n berthnasol i weinyddu cronfeydd grant
Profiad o adrodd i gorff ariannu (e.e. Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cronfeydd y Loteri)
Profiad o reoli prosiectau neu raglenni sylweddol (cyllideb o dros £1m)
Profiad o gasglu a darparu gwybodaeth monitro, a’i adrodd i randdeiliaid eraill
Profiad o cyd-weithio gyda phartneriaid ehangach i weithredu rhaglen o waith
Profiad o gyfathrebu gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang
DYMUNOL
Profiad o reoli staff
Profiad o weithio mewn Llywodraeth Leol.
Profiad o weithio gyda busnesau a mudiadau o fewn y sector breifat, wirfoddol a chyhoeddus.
Profiad o gyfrannu at ddatblygiad polisïau economaidd.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth am economi a chymdeithas ardaloedd gwahanol Gwynedd
Sgiliau cyfathrebu da – yn llafar ac ysgrifenedig.
Sgiliau mathemategol ac ieithyddol da.
DYMUNOL
Dealltwriaeth o’r heriau yn wynebu cadarnleoedd y Gymraeg
Dealltwriaeth o’r cyd-destun polisi a gwybodaeth am ddatblygiadau lleol, rhanbarthol a cenedlaethol perthnasol
Sgiliau perthnasol i ddatblygiad polisïau a strategaethau datblygu economaidd
Gwybodaeth am fethodoleg datblygu economaidd
Gwybodaeth am ganllawiau rhaglenni ariannol ac arfer da yng ngweinyddu prosiectau.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)