Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Amcan y swydd yw cynorthwyo yn narpariaeth gwasanaeth gweinyddu pensiwn effeithiol ac effeithlon ar gyfer Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Dim
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau bod y gwaith i gyd yn cael ei gario allan yn ôl gofynion y Cyngor fel awdurdod gweinyddu, a gofynion Rheoliadau’r cynllun, y safonau a osodir gan y Rheolwr Pensiynau ac anghenion cyffredinol aelodau’r Cynllun.
•Gosod i fyny a chynnal cofnodion llawn a chywir, yn unol â safon a osodir, a’r wybodaeth ar gael, sicrhau y gwneir defnydd llawn o’r cofnod gweinyddu’r cynllun, darparu taliadau i bensiynwyr y cynllun a’r rhai sydd â hawl i daliadau iawndal wedi eu hawdurdodi yn ogystal â chwblhau adroddiadau a chanlyniadau angenrheidiol yn ôl angen yr Uned.
•I dderbyn, a chyn belled â phosib, gwirio a mewnfudo pob gwybodaeth berthnasol ac awdurdodedig a dderbynnir gan gyflogwyr y Gronfa.
•I gyflawni’r gyflogres pensiynau a’r gweithgareddau yn dilyn rhedeg y gyflogres yn unol â’r dulliau a osodir ac unrhyw dasg ‘ad hoc’ a osodir o amser i amser.
•Rhaid meddu a’r gallu i wirio taliadau a wneir drwy gyfrifo treth â llaw, gwirio’r didyniadau a waned a chwblhau gwirio’r holl adroddiadau a’r tasgau yn dilyn rhedeg y gyflogres. Bydd hefyd yn sicrhau ymdrin â phob addasiad i gyflogresi blaenorol yn gywir, clirio blaendaliadau ac ad-daliadau o fewn yr amser a gytunir fel targed a bod dogfennau rheolaethol yn cael eu cyflawni yn gywir.
•Gwneud cyfrifiadau trosglwyddiadau clwb a ddi-glwb ac addasiadau rhyng-gronfa, i mewn ac allan yn unol â Rheoliadau’r Cynllun a threfniadau’r adain. Rhaid bod a’r gallu i wirio cyfrifiadau trosglwyddo â phennu’r cyflog perthnasol i’w ddefnyddio ym mhob enghraifft.
•Gwneud amcangyfrifon ad-daliadau a thaliadau gwirioneddol yn unol â Rheoliadau’r Cynllun a threfniadau’r adain. Rhaid meddu a’r gallu i gyfrifo ad-daliadau â llaw.
•Prosesu ymadawyr cynnar sydd a buddion gohiriedig yn unol a Rheoliadau’r Cynllun a threfniadau’r uned.
•Gwneud cyfrifiadau buddion mewn perthynas â marwolaethau aelodau cyfredol, pensiynwyr, a gohiriedig yn unol â Rheoliadau’r Cynllun a threfniadau’r adain.
•Prosesu achosion cyfuno buddion pensiwn.
•Hyfforddi aelodau eraill o staff yn eu maes arbenigol hwy o’r gwaith ar gais y Rheolwr Pensiynau.
•I drefnu a dosbarthu’r post a setio i fyny’r tasgau perthnasol yn deillio o’r ohebiaeth. Arolygu a chynnal systemau ffeilio’r swyddfa gan gynnwys trefnu a chadw microffilmiau.
•Bod yn gyfrifol am hunan ddatblygiad ac o fewn 2 flynedd llwyddo i gael lefel o sgiliau ym mherthnasol i’r cynllun pensiwn llywodraeth leol yn gyffredinol ac i feddu a dealltwriaeth sylfaenol o ddeddfwriaethau perthnasol eraill.
•I feddu ar, a chynnal gwybodaeth sylfaenol a dealltwriaeth o ddefnydd a gweithrediad y systemau pensiwn a chyflog a sicrhau bod y defnydd hynny’n cydymffurfio â gofynion y Cyngor, darpariaethau Rheoliadau’r Cynllun, a’r safonau a osodir gan y Rheolwr Pensiynau a hawliau aelodau’r cynllun.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-