Swyddog Rheolaeth Adeiladu Cynorthwyol (dros dro - cytundeb 2 flynedd)
Cyflog: £30,151 - £32,020
Cyfanswm gwerth buddion gan gynnwys cyfraniad pensiwn CPLlL (£36,301 - £38,552)
- Cefnogaeth wedi'i hariannu'n llawn i dderbyn Siarteriaeth i gorff perthnasol (MCABE/MRIC S/MCIOB), a'r hyfforddiant a chymwysterau angenrheidiol er mwyn cael trwydded BSR o ddod yn Arolygydd Rheolaeth Adeiladu cofrestredig.
- Gwyliau hael gyda hyd at 33 diwrnod i ffwrdd bob blwyddyn, gwyliau banc, a hyd at 13 diwrnod ychwanegol i ffwrdd bob blwyddyn dan ein cynllun oriau ystwyth 'Super-flexitime'.
- Gweithio hyblyg - cyflogwr sy'n ymroddedig i ystyried a chefnogi staff i weithio'n hyblyg, fel modd o gael cydbwysedd iach rhwng ymrwymiadau personol a gwaith.
Mae hwn yn gyfle gyrfa cyffrous i ymuno â Rheolaeth Adeiladu Cyngor Gwynedd.
Am fwy o wybodaeth, gweler pecyn recrwitio ynghlwm.