Swyddi ar lein
Gweithiwr Cymorth Ieuenctid
£13,218 - £14,393 y flwyddyn | Dros dro (cyfnod mamolaeth)
- Cyfeirnod personel:
- 22-23465-H2
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Cymorth Ieuenctid
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Ieuenctid
- Dyddiad cau:
- 23/02/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro (cyfnod mamolaeth) | 18.5 Awr
- Cyflog:
- £13,218 - £14,393 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- -
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Rhan Amser (18.5 awr) Dros Cyfnod Mamolaeth
Lleoliad: Dalgylch Ysgol y Moelwyn, Blaenau FfestiniogMae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)Ystyrir secondiad ar gyfer y swydd yma.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Steffan Williams / Annette Ryan ar 01286 679351
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 23/02/2023.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOLGallu i weithio yn dda a chreu perthynas gadarn gyda pobl ifanc ac oedolion
Yn dda am rwydweithio a sefydlu partneriaethau
Yn gallu paratoi, trefnu, cynllunio, gwerthuso, trefnu a rheoli Adnoddau ar gyfer unrhyw brosiect
DYMUNOL
Yn hunan-gymell a gweithio ar ei liwt ei hun
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOLRhaid cwblhau cwrs Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid yn ystod y 2 flwyddyn gyntaf o’r swydd
Profiad o weithio un i un hefo pobl Ifanc
Profiad o weithio gyda grwpiau o bobl ifanc
Profiad eang o gyflwyno rhaglenni hyfforddiant achrededig
Gwybodaeth am gynlluniau achredu gan gyrff allanol (ASDAN, Agored Cymru, Gwobr Dug Caeredin, John Muir, BTEC, Prifysgol Plant)
DYMUNOL
Cymhwyster neu yn gweithio tuag at gymhwyster Asesu Achrediadau
Cymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOLProfiad helaeth mewn cyflwyno a danfon rhaglenni achrediadau mewn cyd destyn anffurfiol
Tystiolaeth o lwyddiant wrth weithio gyda pobl ifanc ac oedolion mewn sefyllfa addysg anffurfiol
Profiad o gyflwyno rhaglenni addysgol i bobl ifanc ac oedolion
Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau
Y gallu i adeiladu perthynas dda gyda pobl ifanc
DYMUNOL
Profiad mewn gweithredu ar bolisïau Iechyd a Diogelwch
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOLRhugl yn y Gymraeg ar Saesneg
Sgiliau trefnu a gweinyddu da
Gallu i weithio gyda pobl Ifanc ac oedolion
Gallu i weithio yn annibynol ac yn fentrus
Gallu i ysgogi, cadw, datblygu a chefnogi aelodau o staff, pobl ifanc ac oedolion
Ymrwymiad cadarn i egwyddorion Cyfle Cyfartal ac Amddiffyn Plant ac Oedolion
Ymwybyddiaeth gryf o faterion sydd yn effeithio pobl ifanc
Sgiliau trefnu ardderchog a’r gallu i ddelio gyda llwyth gwaith
Y gallu i weithio yn greadigol i Gwricwlwm Gwaith Ieuenctid
Y gallu i ddatrus problemau
Y gallu i gyrraedd ‘deadlines’
Y gallu i ddysgu sgiliau newydd yn gyflymDYMUNOL
Profiad o weithredu polisiau Iechyd a Diogelwch
Dull hyblyg
ANGHENION IEITHYDDOLCYFATHREBU
Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn rhugl yn yr iaith Gymraeg a’r Saesneg
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.DARLLEN A DEALLTWRIAETH
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.
YSGRIFENNU
Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynllunio, cydlynu a darparu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau pobl ifanc ar sail dalgylch
• Adeiladu rhwydweithiau eang fel bo modd datblygu’r gwaith yma i’r eithaf.
• Cydweithio gyda gweddill Tim y Gwasanaeth Ieuenctid i sicrhau fod y gwaith cymorth ieuenctid yn pontio’n esmwyth i’r gwaith ieuenctid cymunedol
• Gweithredu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau gan sicrhau y profiad gorau i bobl ifanc
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Bydd y Gweithiwr Ieuenctid yn gyfrifol am arolygaeth a threfniadaeth y prosiectau. Bydd hefyd yn gyfrifol am offer gan sicrhau ei fod yn ateb gofynion iechyd a diogelwch.
Prif Ddyletswyddau. .
1. Gweithio yn uniongyrchol gyda pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol drwy gynnig rhaglen eang o weithgareddau sy’n arwain tuag at achrediad / cymhwyster yn ystod amser ysgol a sydd yn pontio i’r gymuned2. Paratoi, trefnu, cynllunio, gwerthuso, trefnu a rheoli adnoddau ar gyfer pob prosiect
3. Sicrhau gofod ble caiff person ifanc y cyfle i fwynhau eu hunain, teimlo’n ddiogel, cael cefnogaeth, cael eu gwerthfawrogi, dysgu sut i gymryd rheolaeth dros eu bywydau gan adnabod a gwrthwynebu dylanwadau niweidiol a all eu effeithio
4. Adeiladu perthynas bositif gyda Tim Bugeiliol yr Ysgolion a Tim y Gwasanaeth Ieuenctid
5. Darparu rhaglen weithgareddau / prosiectau yn yr ysgolion yn ystod tymor ysgol a darpariaeth cymunedol yn ystod gwyliau ysgol
6. Mynychu cyfarfodydd safoni a hyfforddi a drefnir gan gyrff dyfarnu
7. Cyflwyno Gwobr Dug Caeredin yn yr Ysgolion
8. Datblygu ystod o gyfleoedd dysgu i bobl ifanc gan ddefnyddio dulliau anffurfiol gwaith ieuenctid, o fewn yr ysgol a’r gymuned, sy’n addas ar gyfer anghenion y bobl ifanc.
9. Cyflwyno rhaglenni achrediadau yn yr ysgolion ac yn y cymunedau
10. Galluogi pobl ifanc i gael mynediad i gyflawniadau cydnabyddedig (e.e. Cynlluniau Her Ieuenctid a Chyflawniad Ieuenctid ASDAN, Agored Cymru, Gwobr Dug Caeredin, Gwobr John Muir, Prifysgol Plant).
11. Cymell pobl ifanc trwy roddi ymdeimlad o gyflawni a chydnabyddiaeth iddynt
12. Cyd-weithio gyda Staff yr Ysgol, Adran Addysg, YOTs, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cymunedol ac asiantaethau eraill a all fod o fudd i gefnogi person ifanc.
13. Sicrhau bod cofnod clir a chywir o waith yn cael ei fwydo I’r system reoli gwybodaeth yn unol â gofynnion yr holl asiantaethau perthnasol, ac yn unol â gofynnion polisiau a systemau’r asiantaethau priodol.
14. Mynychu cyfarfodydd cynllunio’r ysgolion a’r gwasanaeth ieuenctid, cyfarfodydd adolygu etc. fel bo angen
15. Mynychu cyfarfodydd safonni a hyfforddi a drefnir gan gyrff dyfarnu, ac i raeadru gwybodaeth am ddatblygiadau newydd i aelodau eraill y tîm gwaith ieuenctid
16. Cydymffurfio gyda unrhyw weithdrefnau a systemau y Gwasanaeth
17. Datblygu ac ehangu cwricwlwm y prosiectau drwy feithrin cysylltiadau gyda asiantaethau a darparwyr gan gynnwys ymgynghori a phobl ifanc, cyd weithio hefo ysgolion a darparwr addysg eraill
18. Cyfrifoldeb dros fewnbynnu unrhyw wybodaeth sydd ei angen i’r system gasglu gwybodaeth
19. Cydlynnu at y Safonau Galwedigaethol i Waith Ieuenctid, Hawliau’r Plentyn
20. Paratoi adroddiadau cynnydd ar ei waith/gwaith
21. Mynychu cyfarfodydd y Gwasanaeth Ieuenctid gan gymryd rhan lawn yn y trafodaethau a rhannu gwybodaeth gyda’r timoedd
22. Trefnu a cynnal digwyddiadau, darparu prosiectau a gweithgareddau yn ystod gwyliau ysgol ar y cyd hefo’r Gweithwyr Cymunedol
23. Chwilio am grantiau er mwyn datblygu y gwaith ymhellach
24. Cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn lleol a tramor
25. Sicrhau bod unrhyw adroddiad wedi ei gwblhau i’r amser dynodedig
26. Sicrhau bod Llais person Ifanc yn cael ei glywed trwy bopeth sydd yn cael ei gynnig a’i ddatblygu
27. Mewn cysylltiad ar rheolwr sicrhau datblygiad addas o fesur perfformiad a casglu gwybodaeth o waith er gallu mesur effeithiolrwydd y cynllun a cyflawni amcanion a osodwyd gyda threfniadau adrodd a chynllunio.
28. Mynychu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a drefnir gan, neu ar ran, y Cyngor
29. Cyfrifoldeb am gofrestr offer yn cynnwys offer Gwobr Dug Caeredin i’r Gweinyddwr Achrediadau
30. Gweithredu fel Rheolwr Safle ar gais y Rheolwr
31. Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
32. Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
33. Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
34. Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
35. Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
36. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
37. Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Cyflogaeth: JNC i Weithwyr Ieuenctid a Chymuned. Pwyntiau 14-17
Gwyliau Blynyddol: Telerau JNC - 30 diwrnod o wyliau am y 5 mlynedd cyntaf ac yna 35 diwrnod ar ôl hynnyLleoliad: I’w drafod
Oriau Gwaith:
Llawn Amser- Yr wythnos waith: 37 awr yr wythnos,dim mwy na 8 sesiwn fin nos mewn pythefnos, ac ar brydiau gall fod yn ofynnol i fod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion gwaith penodol. Bydd yn golygu gweithio min nos (3 noson) ynghyd a ambell benwythnos a all fod yn breswyl, o fewn y 37 awr.
Rhan Amser- Yr wythnos waith: 18.5 awr yr wythnos, dimmwy na 4 sesiwn fin nos men pythefnos ac ar brydiau gall fod yn ofynnol i fod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion gwaith penodol. Bydd yn golygu gweithio min nos (1/2 noson) ynghyd a ambell benwythnos a all fod yn breswyl, o fewn yr 18.5 awr.
Oriau: Yr oriau i gynnwys gwaith min nos ac ar benwythnosau a gall rhai fod yn breswyl
Defnydd car: Bydd deilydd y swydd yn cael ei ddynodi fel “defnyddiwr car hanfodol”
Ieithyddol: Bydd angen i ddeilydd y swydd fod yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r
Saesneg o’r cychwynDefnyddiwr Ffon Symudol: Darperir ffôn symudol ar gyfer dibenion y swydd.
Hyfforddiant: Rhaid cwblhau cwrs Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid yn ystod y 2 flwyddyn gyntaf o’r swydd
Byddwch yn cael eich penodi i dalgylch ond bydd angen i chi weithio tu allan i’r dalgylch yn ol yr angen e.e. i gyfro gwyliau, salwch…. .
Byddwn yn ail edrych ar y swydd ddisgrifiad ymhen blwyddyn i’r apwyntiad
Mae gan yr Adran raglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso a fydd yn cyfrannu at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen. Byddwch yn dilyn y matrics hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Maes.
• Tynnir eich sylw at y ffaith fod dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol mewn rhai achosion yn anodd eu dadansoddi’n fanwl a gallent newid o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldeb. Yn ychwanegol, mae'n ofynnol i bob aelod o'r staff dderbyn elfennau o hyblygrwydd yn eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, a phan fo angen, cyfnewid o fewn yr Awdurdod er mwyn cyfarfod anghenion a gofynion y gwasanaeth sy'n newid yn barhaus. Bydd angen o'r fath yn galluogi i arbenigedd penodol y deilydd dyfu a datblygu er lles y cyflogwr a'r gweithiwr.