Swyddi ar lein
Rheolwr ar Ddyletswydd Tenis
£3,240 - £3,507 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 22-23460
- Teitl swydd:
- Rheolwr ar Ddyletswydd Tenis
- Adran:
- Byw'n Iach
- Dyddiad cau:
- 01/12/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 5.75 Awr
- Cyflog:
- £3,240 - £3,507 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS4
- Lleoliad(au):
- Byw'n Iach Arfon, Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Mark Williams ar 07899061361 neu Paul Roberts ar 07970035970
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 1 RHAGFYR, 2022.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
•Brwdfrydig
•Gallu i ysgogi eraill i fyw bywyd iach
•Gallu i ysgogi staff i gyflawni eu dyletswyddau i’r safon uchaf posib.
•Gallu i reoli pobl yn effeithiol
•Gallu i wneud penderfyniadau yn annibynol
•Meddyfryd i allu ‘gweld gwaith’, yn lle aros am gyfarwyddyd.
•Gofal cwsmer o safon uchel
•Gonestrwydd
•Barod i ddysgu a chadw meddwl agored
•Gallu i weithio o fewn tîm yn effeithiol
•Gallu i weithio’n annibynol o dan oruchwyliaeth cyfyngedig
Dymunol
•Gradd mewn pwnc perthnasol.
•Lefel 2 Hyfforddwr Gampfa, gyda modiwlau arbennigol, fel Sbin, Ymarfer Cylchol, Kettlebells
•BTEC (neu gyfystyr) mewn Gwyddor Chwaraeon/Hamdden/Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
•*Cymhwyster Achub Bywyd Pwll Cenedlaethol*
•*Tystysgrif ‘Pool Plant Operator’ Cenedlaethol*
•*Cymhwyster Cymorth Cyntaf 3 diwrnod*.
•Cymhwyster ILM 3 mewn Arweinyddiaeth a Sgiliau Tim neu gyfystyr - Fyddai'n barod i weithio tuag at y cymhwyster hwn.
•* Cymwysterau i'w gwblhau o fewn cyfnod o chwe mis
Dymunol
• Brofiad blaenorol yn gweithio yn y maes Hamdden
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Yn ymwybodol am drefniadau Iechyd a Diogelwch sefydliadol
•Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur
•Sgiliau cyfrifiadurol – Microsoft Word, Excel a Outlook
•Gallu i baratoi adroddiadau fel a gofynnir
•Sgiliau trefnu da
•Sgiliau gallu rheoli staff yn effeithiol
•Sgiliau rhifedd a llythrenedd o safon da
•Gwybodaeth eang o iechyd a ffitrwydd er mwyn gallu cyfathrebu hyn gyda cwsmeriaid
•Sgiliau cwsmer arbennig
•Sgiliau gwerthu da
•Sgiliau Negodi Da
•Cymwys nofiwr - gallu cwblhau cwrs achub bywyd pwll prawf gallu nofio
Dymunol
•Yn ymwybodol o gynlluniau gweithredu mewn argyfwng y Ganolfan
•Sgiliau Cyfweliadau Ysgogol
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Hybu a chefnogi ffordd iach o fyw i’r sawl sy’n defnyddio’r Canolfannau Hamdden a’r gymuned ehangach.
•Sicrhau bod y sawl sy’n ymweld â’r Ganolfan yn gallu ei ddefnyddio’n ddiogel, tra’n cynnig gofal cwsmer o safon uchel.
•Cyfrifol am redeg y Ganolfan o ddydd i ddydd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Bydd y Rheolwr ar Ddyletswydd yn gyfrifol am drin arian, cofnodi’r arian a gymerir, a bancio’r cyfrif a derbyniadau yn ddiogel.
•Cynorthwyo mewn cyrraedd targedau mewn perthynas ag incwm, gwariant a defnydd.
•Sicrhau y cynhelir lefel staffio effeithio a effeithlon drwy’r amser. Bydd y Rheolwr ar Ddyletswydd yn cyfrannu tuag at y broses o recriwtio o fewn y Ganolfan, tra’n sicrhau y caiff y staff eu hyfforddi trwy anwythiad, hyfforddiant a ddatblygiad parhaus.
•Dynodi’r Rheolwr ar Ddyletswydd yn hyfforddwr/asesydd dros y Ganolfan.
•Sicrhau y cynhelir arolygaeth ddiogel o’r pwll nofio ac y caiff peiriannau’r pwll eu monitro, eu profi a’u rheoli’n effeithiol yn rheolaidd.
•Sicrhau y caiff y cyfleusterau a’r offer eu paratoi a’u cynnal hyd at safon uchel trwy baratoi trefnlenni wedi eu cynllunio ar lanhau, cynnal a chadw, profi ac atgyweirio gan roi blaenoriaeth i rheolau iechyd a diogelwch.
•Ymgymryd â rôl Swyddog ar Ddyletswydd, gan fod yn gyfrifol am sicrhau bod y staff a’r cyhoedd yn defnyddio’r cyfleusterau a’r offer yn ddiogel, a bod yn gyfrifol am ddiogelwch cyfleusterau, offer, stoc ac arian tra mae’n gofalu am allweddi, yn cynnwys cael ei alw allan mewn argyfwng.
•Sicrhau y cynhelir arolygaeth diogel o’r pwll nofio ac y caiff peiriannau’r pwll eu monitro, eu profi, a’u rheoli yn effeithiol yn rheolaidd.
Prif ddyletswyddau
•Cynorthwyo’r Rheolwr Ardal mewn cynnal rhaglen o weithgareddau arloesol a chreadigol. Bydd deilydd y swydd hefyd yn gyfrifol gyfathrebu gyda’r Swyddog Marchnata er mwyn sicrhau’r cyhoeddusrwydd gorau posib i’r rhaglen. Cymryd rhan ymarferol yn cyflwyno’r rhaglen lle bo angen, gan gynnwys bod yn achubwr bywydau a hyfforddi mewn gweithgareddau.
•Ymgymryd â dyletswyddau rheoli aelodau o staff, a’u hysbrydoli i’w gwrdd â’u llawn botensial.
•Bod yn model rôl i staff y Ganolfan a’u cymell i ddatrys eu problemau eu hunain yn y gweithle.
•Paratoi adroddiadau ar gyfer y Rheolwr Ardal.
•Cynnal sesiynau gwerthuso staff yn unol â pholisi’r Cwmni.
•Bydd y Rheolwr ar Ddyletswydd yn ymwneud â trefnu timau Rheoli’r Ganolfan fel bo angen.
•Sicrhau bod staff newydd yn dilyn trefn anwytho’r adran.
•Sicrhau y cynhelir yr holl weithdrefnau a chofnodion gweinyddol drwy’r amser, yn cynnwys manylion derbynfa, staff a chwsmeriaid, incwm a gwariant, rhestri stoc, cyflogau, gwyliau, ayyb.
•Sicrhau bod peiriannau ac offer yn gweithio’n iawn, a hysbysu ynghylch unrhyw ddiffygion.
•Sicrhau bod yr holl staff yn derbyn hyfforddiant/gwybodaeth ynglŷn â’u cyfrifoldebau ynghylch popeth yn ymwneud ac iechyd a diogelwch. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau y glynir at yr holl gynlluniau gweithredu mewn argyfwng a’r gweithdrefnau gweithredu arferol, yn ogystal â sicrhau y gweithredir cyfleusterau yn unol â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch priodol.
•Sicrhau fod y drefn anwytho yn y gampfa o safon uchel ac yn ysgogi cwsmeriaid i ddychwelyd i’r Ganolfan yn rheolaidd.
•Hybu pecynnau ffitrwydd y Ganolfan i’r cwsmeriaid ynghyd â throsisgyrsiaucychwynnol gydachwsmeriaidi mewn i werthiant.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid er mwyn adnabod eu hamcanion a’u dyheadau ynglŷn â dilyn ffordd iach o fyw.
•Gweithio hefo’r swyddog marchnata i hyrwyddo’r ganolfan gan annog staff i rhannu syniadau a cymryd rhan mewn gweithgareddau marchnata.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid a’r darpar gwsmeriaid er mwyn adnabod pa dechnegau marchnata sy’n fwyaf effeithiol i ddefnyddio.
•Ymgymryd â dyletswyddau’r dderbynfa fel bo’r angen.
•Sicrhau safon uchel o ofal cwsmer gan hyrwyddo’r berthynas rhwng y Ganolfan a’r cwsmer ar bob achlysur.
•Sicrhau bod glendid y Ganolfan o safon uchel, yn ôl canllawiau’r Ganolfan.
•Sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu goruchwylio’n ddiogel mewn ffordd gwrtais a boneddigaidd.
•Sicrhau ffyniant y Ganolfan drwy gynnig adborth a syniadau newydd ar sut i wella’r gwasanaeth.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid hynny ar raglenni arbennig o fewn y Ganolfan, e.e. NERS, er mwyn sicrhau fod y llwybr dilyniant ar ôl gorffen y rhaglenni yn un esmwyth i’r cwsmer.
•Hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn y Ganolfan gan ddefnyddio’r iaith fel yr un cyntaf yn y gweithlu.
•ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
•Arddangos gwerthoedd Cwmni Gwynedd yn y gwaith drwy’r adeg.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cwmni.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cwmni yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cwmni. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cwmni yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cwmni.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Cymrydrhan yn Rhaglen Hyfforddi’r Ganolfan pan fo angen a bod yn gyfrifol am ddiweddaru cymwysterau er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol.
•Dylai deilydd y swydd fod yn hyblyg ynghylch patrwm/shifftiau gwaith.
•Bydd angen gweithio shifftiau yn cynnwys gwaith gyda’r nos ac ar ben wythnosau.
•Mae’r Adran yn rhedeg rhaglen barhaus o hyfforddiant a datblygu medrau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso er mwyn cyfrannu tuag at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen.