Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cyfrannu at waith y tïm sydd yn darparu cefnogaeth broffesiynol i holl Gynghorwyr y Cyngor trwy’r gyfundrefn bwyllgorau ac unrhyw gymorth arall fel bo’r Cynghorwyr yn gallu cyflawni yn eu dyletswyddu a’u gwahanol rolau.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau. .
Cefnogaeth i Gynghorwyr
• Trefnu cyfarfodydd amrywiol bwyllgorau a chydbwyllgorau’r Cyngor drwy ymgynghori â’r swyddogion perthnasol, Cadeirydd y pwyllgor ac Aelodau eraill fel y bo angen.
• Mynychu cyfarfodydd a pharatoi cofnodion cywir, clir a chryno o’r drafodaeth a phenderfyniadau / argymhellion gan drefnu eu Cyfieithu a’u cyhoeddi ar safle we’r Cyngor trwy raglen Modern.gov.
• Gweithredu fel pwynt cyswllt i raglen waith pwyllgorau penodol gan ddrafftio blaen-raglenni a rhaglenni y pwyllgor yn ôl yr angen (bydd y cyfrifoldeb am wahanol bwyllgorau yn amrywio fesul swyddog).
• Delio â gohebiaeth, ymholiadau gan y cyhoedd a Chynghorwyr mewn perthynas â gwaith pwyllgorau, ac yn absenoldeb swyddog o’r Gwasanaeth Cyfreithiol, delio gyda materion trefniadol a chyfansoddiadol ynglŷn â phwyllgorau.
• Darparu cymorth i waith craffu’r Cyngor trwy gefnogi’r pwyllgorau craffu - yn cynnwys gweinyddiaeth y pwyllgorau ac ymchwiliadau craffu
• Arwain, yn ôl yr angen, ar ymchwiliadau craffu gyda Chynghorwyr gan gynghori ar drywydd yr ymchwiliadau a sicrhau argymhellion clir yn seiliedig ar dystiolaeth, er budd trigolion Gwynedd.
• Darparu’r cymorth cyffredinol i Gynghorwyr i ymgymryd â dyletswyddau yn eu rôl fel Cynghorydd a chynorthwyo’r tîm gyda dyletswyddau penodol wrth gefnogi Cynghorwyr ee cynghori gyda materion TG, datblygu a diweddaru’r mewnrwyd Aelodau, casglu data, Cyflogau Aelodau, calendr pwyllgorau ayyb. Bydd pob swyddog yn cymryd cyfrifoldeb am faes penodol.
• Cynorthwyo’r gwasanaeth gyda datblygiadau newydd mewn meysydd technegol perthnasol i’r gwasanaeth fel Modern Gov, gwe ddarlledu, ymuno o bell, system pleidleisio yn y siambrau ayyb gan ymdrin ag unrhyw ofynion technegol i sicrhau fod y pwyllgor/cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth.
Hunan ddatblygiad a chyfrifoldebau perthnasol i bob swydd gan y Cyngor
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol a rhesymol, sy’n cyd-fynd a lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Bod yn rhan o’r broses rheoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Mae’r datganiad uchod yn adlewyrchu’r dyletswyddau cyffredinol sy’n hanfodol i brif ddibenion y swydd. Nid yw’n ddisgrifiad manwl o’r holl waith sydd ynghlwm wrth y swydd.
Bydd swydd ddisgrifiad llawn yn cael ei rannu yn dilyn penodiad.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Gweithio gyda’r nos yn achlysurol ac mewn lleoliadau gwahanol.
Disgwylir i ddeilyddion holl swyddi’r adran amlygu hyblygrwydd yn eu gwaith.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.