Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Darparu gwasanaeth cefnogol i Grŵp Plaid Cymru.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Bydd deilydd y swydd yn edrych ar ôl cyfrif cangen y Blaid ar y Cyngor
Prif ddyletswyddau
•Mynychu cyfarfodydd grŵp gan baratoi rhaglenni, adroddiadau a chofnodion yn ôl y galw.
•Cyflawni unrhyw waith ymchwil ar ran y grŵp.
•Cynorthwyo aelodau gyda threfniadau yn ymwneud a gwaith ward.
•Trefnu llyfrgell wybodaeth o ddogfennau a phapurau a fyddai o ddefnydd i aelodau'r grŵp.
•Hyrwyddo cysylltiadau aelodau'r grŵp ag adrannau'r Cyngor trwy drefnu cyfarfodydd ar eu rhan.
•Gweithredu fel pwynt gwybodaeth i'r aelodau o ran defnyddio systemau technoleg gwybodaeth y Cyngor.
•Cynorthwyo arweinydd y grŵp ac aelodau'r grŵp gyda gwaith gweinyddol a chlerigol yn ôl yr angen.
•Delio gydag ymholiadau o'r wasg a chynhyrchu datganiadau i'r wasg ar ran y grŵp.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Mae rhai o gyfarfodydd y grŵp yn cael eu cynnal gyda'r nos ac ar ddydd Sadwrn.