Nodweddion personol
Hanfodol
Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
Personoliaeth gytbwys ac aeddfed
Ymlyniad clir i werthoedd gwaith cymdeithasol wrth weithio mewn partneriaeth gyda pobl ifanc a’u teuluoedd
Diddordeb a gwybodaeth am ddatblygiad proffesiynol ac awydd i ddysgu eraill
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
DipS.W./CQSW
O leiaf 2 flynedd o brofiad ol-gymhwyso
Dymunol
Wedi ennill Dyfarniad Dysgu Ymarfer, PQ1 neu ddyfarniad PQ llawn.
Cymhwyster rheolaethol
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o fod wedi cefnogi cydweithwyr/myfyrwyr yn y man gwaith
Profiad eang o weithio o fewn y gwasanaeth plant statudol, gan gynnwys elfennau o waith maethu.
Profiad helaeth o gydweithio gydag amrediad o asiantaethau a phartneriaethau
Profiad o weithio gydag achosion cymhleth gan gymryd a rhannu cyfrifoldeb
Profiad o gyfrannu i hyddorddiant, fforymau a grwpiau gofalwyr maeth.
Dymunol
Profiad o waith Llys
Profiad o weithio mewn meysydd gwasanaeth eraill
Profiad o weithio mewn asiantaethau eraill
Profiad o weithredu fel aelod o banel maethu/mabwysiadu yr awdurdod Lleol.
Profiad rheolaethol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Dealltwriaeth dda am ddatblygiad plant
Gwybodaeth gadarn am y cefndir cyfreithiol sy’n sylfaen i wasanaethau cymdeithasol i blant
Gallu i oruwchwylio aelodau o staff.
Gallu i weithio o dan bwysau a blaenoriaethu’n effeithiol.
Gallu i gyfrannu at drafodaethau, cynlluniau a datblygiadau adrannol.
Sgiliau hyrwyddo partneriaethau a gofalwyr maeth.
Dealltwriaeth o anghenion gofalwyr maeth.
Trwydded yrru gyfredol, lân.
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)