NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i weithio o fewn amserlen dynn ac ymateb i gyfarwyddiadau yn drwyadl ac amserol.
Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac ar liwt ei hun fel bo’r gofyn.
DYMUNOL
Profiad o reoli ymgynghorwyr a chontractwyr.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
HNC/HND neu gymhwyster cymharol mewn maes yn ymwneud ag adeiladwaith neu chydymffurfiaeth e.e. Diogelwch tân.
Trwydded yrru llawn.
DYMUNOL
Gradd neu gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig mewn maes yn ymwneud ag adeiladwaith.
Cymhwyster cydnabyddedig Rheoli Asbestos mewn adeiladau (e.e P405).
Cymhwyster cydnabyddedig a profiad o ymgymeryd ag asesiadau risg tân.
Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
5 mlynedd o brofiad yn y maes gwaith.
DYMUNOL
Profiad o ddadansoddi data / adroddiadau technegol a mewnbynnu i systemau rheoli asedau.
Profiad o drefnu a rheoli cytundebau adeiladol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Dealltwriaeth ac y gallu I ddefnyddio systemau cyfriadurol.
Gwybodaeth am systemau cyfrifiadurol rheoli asedau ag yn gyffyrddus yn ei defnydd.
Dealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth a rheolau adeiladu.
Dealltwriaeth dda a chlir o ddeddfwriaeth a rheolau Iechyd a Diogelwch.
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
Darllen a Deall
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)